Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Dewis pridd a gwrteithiau sydd heb fawn

Dim ond yn y 1950au y dechreuwyd defnyddio mawn yn gyffredinol mewn gerddi, ond mae ei ddefnydd wedi cynyddu, gan arwain at ddinistrio llawer o gynefinoedd naturiol. Yn ffodus, gellir dewis rhywbeth gwahanol i fawn sy'n gweithio lawn cystal neu hyd yn oed yn well.

Y mater ehangach

Mae corsydd mawn yn darparu cynefinoedd bywyd gwyllt unigryw ac maent yn werthfawr gan eu bod yn storio carbon. Yn fyd-eang, mae corsydd mawn yn dal mwy o garbon na choedwigoedd y byd. Pan gaiff mawn ei echdynnu, rhyddheir carbon i'r atmosffer, sy'n cyfrannu at newid yn yr hinsawdd.

Mae rhannau mawr o'r cynefinoedd pwysig hyn wedi'u niweidio yn y DU a thramor gan ddefnydd masnachol o fawn. Er bod rhai mawndiroedd yn y DU bellach wedi'u gwarchod, mae llawer yn Ewrop sydd heb eu gwarchod, ac o'r fan hyn y daw'r rhan fwyaf o'r mawn yn ein gerddi.

Dewis pethau heblaw am fawn

Mae gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol bolisi o arddio heb fawn, ac o werthu planhigion sy’n cael eu tyfu heb ddefnyddio mawn

Mae dewis pethau heblaw am fawn wrth brynu pridd a gwrtaith yn un o'r pethau pwysicaf y gallwch eu gwneud i wneud eich gardd yn fwy gwyrdd.

Mae digonedd o gynhyrchion heb fawn ar gael yn siopau'r stryd fawr a chanolfannau garddio. Gwnewch yn siŵr fod y bag yn dweud "heb fawn" neu gofynnwch i gynorthwy-ydd os nad yw'n glir.

Ceir dewisiadau eraill ar gyfer y gwahanol ddefnyddiau o fawn yn yr ardd.

Mwlts
Os ydych yn chwilio am fwlts (deunydd i'w osod ar ben pridd i gadw chwyn i lawr a chadw gwlybaniaeth) ystyriwch risgl neu ddail wedi marw. Mae'r rhain yn gweithio'n llawer gwell na mawn, sy'n torri i lawr yn rhy rhwydd.

Cyfryngau tyfu

Pan fyddwch eisiau tyfu planhigion ac eginblanhigion, chwiliwch am gynhyrchion sy’n cynnwys rhisgl, coed, ffibr cneuen goco neu gompost o fadarch (compost sydd wedi cael ei ddefnyddio yn flaenorol gan dyfwyr madarch yw hwn). Gall y dewisiadau eraill hyn weithio cystal â mawn, cyn belled â'ch bod yn dilyn y cyfarwyddiadau bwydo a dyfrhau.

Cyflyrydd pridd
Ceisiwch wella eich pridd gyda chyflyrwyr sydd wedi'u gwneud o wastraff pren, dail wedi marw, tail o fferm neu gompost cartref.

Cael cyngor ar gynhyrchion heb fawn

Mae digonedd o gynhyrchion heb fawn ar gael yn siopau'r stryd fawr ac mewn canolfannau garddio

Mae'r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt yn cynhyrchu taflen gyda gwybodaeth ynghylch lle i brynu cynhyrchion heb fawn. Os nad ydych yn gallu llwytho'r ffeil PDF o'r ddolen isod, gallwch ofyn am gopi drwy ffonio 0870 036 7711. Gallant hefyd ddweud wrthych chi ynghylch ymweld â gwarchodfa tir mawn yn agos atoch er mwyn i chi weld beth ydych chi wedi helpu i ofalu amdano. Dilynwch ddolen yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt yn 'Mwy o ddolenni defnyddiol' am fwy o wybodaeth.

Mae Natural England yn cynhyrchu dogfen ar gompostio a garddio heb fawn. Os nad ydych yn gallu llwytho'r ffeil PDF o'r ddolen isod, mae'n bosib y gallwch gael taflen gan: Natural England, Enquiry Service, Northminster House, Peterborough, PE1 1UA. Ffoniwch 0845 600 3078 neu anfon e-bost at: enquiries@naturalengland.org.uk

Dechrau gwneud eich gwrtaith eich hun

Os oes gennych fin compost, neu os ydych yn sefydlu tomen gompost, gallwch ddefnyddio gwastraff eich cegin a'ch gardd i wella eich pridd. Mae'n ffordd fwy gwyrdd o arddio oherwydd:

  • gallwch osgoi defnyddio mawn
  • nid oes rhaid i chi ddibynnu ar wrtaith artiffisial, sy'n cymryd llawer o ynni i'w wneud ac yn gallu achosi llygredd dŵr
  • byddwch yn taflu llai i ffwrdd
  • gallwch arbed arian

Mae rhai cynghorau'n darparu biniau compostio neu'n eu gwerthu am brisiau isel.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU