Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Newid yn yr hinsawdd: canllaw cyflym

Mae newid yn yr hinsawdd yn un o'r materion pwysicaf sy'n wynebu'r blaned - a gall pawb wneud rhywbeth ynglŷn â'r peth. O droi'r thermostat yn is i brynu car mwy economaidd, mae llawer o gamau y gallwch eu cymryd er mwyn helpu i ddiogelu dyfodol y blaned.

Beth yw newid yn yr hinsawdd?

Mae 'newid yn yr hinsawdd' yn cyfeirio at newidiadau yn nhymheredd y ddaear dros y 100 mlynedd diwethaf. Er 1900, mae tymheredd cyfartalog y blaned wedi codi 0.74 gradd Celsius, ac mae lefel y môr o amgylch y DU wedi codi tua 10 centimedr. Disgwylir y bydd mwy o gynnydd byd-eang, yn ogystal â mwy o dywydd eithafol fel llifogydd a sychder.

Achosion newid yn yr hinsawdd

Pobl sy'n gyfrifol am oddeutu 40 y cant o allyriadau'r DU

Bellach ceir tystiolaeth gref iawn nad yw achosion naturiol yn unig yn egluro cynhesu byd-eang sylweddol. Mae pobl yn newid yr hinsawdd gyda'u gweithredoedd, yn enwedig drwy allyriadau nwyon tŷ gwydr fel carbon deuocsid, sy'n cynhesu atmosffer y ddaear yn artiffisial.

Effeithiau newid yn yr hinsawdd

Mae effeithiau newid yn yr hinsawdd hyd yn hyn yn cynnwys cynnydd mewn tymheredd, cynnydd yn lefel y môr, a thywydd eithafol megis llifogydd yn amlach. Disgwylir i bob un o'r rhain ddod yn fwy difrifol. Fodd bynnag, mae gweithredoedd unigolion eisoes wedi helpu'r DU i gyrraedd ei thargedau ar gyfer lleihau allyriadau erbyn 2010. Gall yr hyn a wneir ar hyn o bryd ddylanwadu ar effeithiau newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol.

Cyfrifo eich ôl troed carbon

Defnyddiwch y cyfrifiannell carbon i ganfod beth yw eich ôl troed carbon

Unigolion sy'n gyfrifol am tua 40 y cant o allyriadau yn y DU. Y prif ffynonellau yw ynni a ddefnyddir yn y cartref, gan geir ac awyrennau. Defnyddiwch y cyfrifiannell carbon i gyfrifo faint o garbon deuocsid rydych chi'n ei greu a dod o hyd i ffyrdd syml o leihau eich effaith ar yr amgylchedd.

Mynd i'r afael â mythau am newid yn yr hinsawdd

Onid yw'r hinsawdd yn newid o hyd? Nid oes tystiolaeth wyddonol ar gyfer newid yn yr hinsawdd nac oes? Ydy hi'n rhy hwyr i wneud gwahaniaeth? Ceir llawer o ddryswch ynghylch newid yn yr hinsawdd. Dewch i archwilio rhai o'r camdybiaethau mwyaf cyffredin, a'r ffeithiau tu ôl iddynt.

Beth y gallwch chi ei wneud am newid yn yr hinsawdd

Mae'r Undeb Ewropeaidd (UE) wedi cynnig ei bod yn rhaid i'r cynnydd yn nhymheredd y byd gael ei gyfyngu o ddwy radd Celsius er mwyn osgoi newid yn yr hinsawdd peryglus. Gellir cyflawni hyn drwy leihau allyriadau, a gallwch helpu i wneud hyn mewn nifer o ffyrdd.

Beth sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd

Mae pobl ledled y DU wedi bod yn gweithio i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Maent wedi addo lleihau eu hallyriadau eu hunain a hyd yn oed wedi penderfynu gwneud eu pentrefi, eu trefi neu'u timau pêl-droed yn niwtral o ran carbon.

Yn 2008, cymeradwyodd y DU y Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd ar gyfer mynd i'r afael â pheryglon newid yn yr hinsawdd.

Additional links

Ei wneud ar y we

Allweddumynediad llywodraeth y DU