Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Achosion newid yn yr hinsawdd

Ceir tystiolaeth gref iawn bod gweithredoedd pobl yn newid yr hinsawdd, drwy allyriadau nwyon tŷ gwydr fel carbon deuocsid a methan. Yn y DU, unigolion sy'n achosi 40 y cant o allyriadau, yn bennaf o ynni a ddefnyddir yn y cartref, wrth yrru a hedfan.

Achosion naturiol neu weithgarwch pobl?

Gweithgarwch pobl yw'r prif reswm dros y newidiadau a welir yn yr hinsawdd

Mae hinsawdd y byd yn amrywio'n naturiol o ganlyniad:

  • i'r cysylltiadau rhwng y môr a'r atmosffer
  • newidiadau yng nghylchdro'r byd
  • amrywiadau yn yr ynni a geir gan yr haul a ffrwydradau folcanig

Fodd bynnag, ceir tystiolaeth gadarn bellach a chytundeb byd-eang fwy neu lai na ellir egluro cynhesu byd-eang o ganlyniad i amrywiadau naturiol yn unig. Mae'r newidiadau a welwyd dros y blynyddoedd diweddar, a'r rhai y disgwylir eu gweld am yr 80 mlynedd nesaf, yn debygol o fod o ganlyniad i ymddygiad pobl yn bennaf.

Mae'r Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd (IPCC) yn gorff gwyddonol a sefydlwyd gan y Cenhedloedd Unedig i edrych ar newid yn yr hinsawdd. Maent yn dweud mai gweithgarwch pobl yw'r prif reswm dros y newidiadau a welir yn yr hinsawdd.

Yr effaith tŷ gwydr

Mae'r ddaear wedi'i hamgylchynu gan haen o nwyon sy'n gweithio fel waliau gwydr tŷ gwydr: maent yn gadael pelydrau'r haul i mewn, ond yn rhwystro llawer o'r gwres rhag gadael. Mae hon yn broses naturiol, a'r haen hon o 'nwyon tŷ gwydr' (carbon deuocsid ac anwedd dŵr yn bennaf) sy'n cadw'r blaned yn ddigon cynnes i bobl ac anifeiliaid fyw arni.

Fodd bynnag, wrth i bobl ryddhau mwy o nwyon tŷ gwydr i'r atmosffer, mae effaith y tŷ gwydr yn cryfhau. Wrth i fwy o wres gael ei ddal, mae hinsawdd y ddaear yn dechrau newid yn annaturiol.

Ers y chwyldro diwydiannol, a ddechreuodd yn y 18fed ganrif, mae'r carbon deuocsid (CO2) sydd yn yr atmosffer wedi cynyddu 35 y cant. Yn wir, mae crynodiad CO2 bellach yn uwch nag y mae wedi bod ar unrhyw adeg yn ystod y 650,000 mlynedd diwethaf.

Pam fod nwyon tŷ gwydr wedi cynyddu

Mae datgoedwigo yn cynhyrchu 18 y cant o CO2 y byd

Mae gweithgarwch pobl wedi newid faint o nwyon tŷ gwydr sydd yn yr atmosffer mewn tair ffordd bwysig:

1. Mae coedwigoedd wedi cael eu torri
Mae coed yn amsugno carbon deuocsid felly, os oes llai o goed, mae mwy o garbon deuocsid yn casglu yn yr atmosffer. Hefyd, mae diwydiant ac amaeth sy'n disodli'r coedwigoedd yn aml yn ffynonellau allyriadau. Mae'r Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd (IPCC) yn amcangyfrif bod datgoedwigo yn cynhyrchu 5.9 biliwn o dunelli o CO2 bob blwyddyn neu 18 y cant o CO2 y byd.

2. Mae tanwyddau ffosil yn cael eu llosgi
Mae llosgi tanwyddau ffosil fel glo, olew a nwy – i gynhyrchu gwres neu bweru trafnidiaeth, er enghraifft – yn rhyddhau nwyon tŷ gwydr. Yn 2005, rhyddhawyd tua 27 biliwn o dunelli o garbon deuocsid drwy losgi tanwyddau ffosil.

3. Mae poblogaeth y byd yn cynyddu
Mae hyn yn arwain at fwy o alw mewn bwyd, da byw ac ynni, sydd yn eu tro yn arwain at fwy o allyriadau.

Y prif gyfranwyr tuag at newid yn yr hinsawdd yn y DU

Yn y DU, daw tua:

  • 4 y cant o allyriadau o brosesau diwydiannol
  • 7 y cant o fyd amaeth - er enghraifft allyriadau methan o dda byw a gwrtaith, a gollyngiadau ocsid nitraidd o wrteithiau cemegol
  • 21 y cant o drafnidiaeth
  • 65 y cant o ddefnyddio tanwydd i gynhyrchu ynni (heb gynnwys trafnidiaeth)

Mae tua 40 y cant o allyriadau yn y DU yn ganlyniad i benderfyniadau y mae unigolion yn eu gwneud yn uniongyrchol. Y prif ffynonellau allyriadau tebygol ar gyfer y rhan fwyaf o bobl yw:

  • yr ynni a ddefnyddiwch yn eich cartref (gwresogi yw'r prif ddefnydd)
  • gyrru
  • hedfan

Mae pethau eraill yng nghartrefi pobl sy'n cyfrannu at newid yn yr hinsawdd yn anuniongyrchol. Mae popeth o ddodrefn i gyfrifiaduron, ac o ddillad i garpedi, yn defnyddio ynni wrth gael ei gynhyrchu a'i gludo - gan achosi i allyriadau carbon gael eu rhyddhau.

Additional links

Ei wneud ar y we

Allweddumynediad llywodraeth y DU