Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Trawsgrif o ffilm fer ddigrif ar effeithiau newid yn yr hinsawdd ar un ffermwr

Mae'r ffilm fer ddigrif hon yn dangos sut gallai newid yn yr hinsawdd a chynnydd yn lefelau'r môr effeithio ar un ffermwr ffyddiog yn y DU, ac yn dangos nifer o'r ffyrdd syml y gallwn fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.

Disgrifiad o'r ffilm (trawsgrif)

Llais (Bob):

Ie wir.

Mae Bob yn gyrru tractor i fuarth fferm heibio i barciau a theiars sy'n llosgi.

Llais:

Pentref bach digon henffasiwn yw Llanblwmp-ar-Hafren, yn gorwedd yn braf ym mryniau mwyn a dyffrynnoedd troellog y Mers. Fodd bynnag, mae'r newid yn yr hinsawdd yn bygwth yr amgylchedd heddychlon hwn.

Welwch chi, mae defnydd y ddynolryw o ynni yn peri i'r byd gynhesu. Mae hyn yn gwneud i'r capiau iâ doddi, gan wneud i lefelau'r môr godi a bygwth ein hardal gyfan.

Ac mi allwn ni wneud 'chydig o arian drwy ddatblygu tref glan môr ddiweddaraf Prydain!

Mae Bob yn mynd i mewn i'r ffermdy, yn codi'r post (biliau) cyn troi'r thermostat i fyny.

Llais:

Y cyfan mae angen i ni ei wneud ydi gwastraffu ynni. Mae mor hawdd!

Marjyri! Marjyri! Lle aeth hon eto?

Dal ati'n fanna, mi fydd hi werth yr holl waith yn y pen draw.

Mae Bob yn mynd i'w swyddfa. Daw Lucy i lawr y grisiau a throi'r thermostat i lawr.

Llais:

Dwi wedi cyfrifo y bydd yr arfordir yn cyrraedd y pentre' hwn cyn pen dim, er y bydd y môr yn llyncu'r rhan fwyaf o Gymru.

Ond fydd hyn fawr o drychineb, gan y gallwn ni greu diwydiant twristiaeth bywiog yn yr ardal leol. Argyfwng economaidd byd-eang? Dim ffiars o beryg i mi, dwi'n mynd i lenwi 'mhocedi. Mi allai pentre' Llanblwmp-ar-Hafren fod yn Llanblwmp-ger-y-Môr cyn i chi droi!

Felly dyna 'nghenhadaeth bersonol i bellach, sef cyflymu'r newid 'ma yn yr hinsawdd mewn unrhyw fodd posib. Er enghraifft, drwy wastraffu ynni yn y tŷ. Mi fydda' i wastad yn gwneud yn siŵr fod y goleuadau 'mlaen bob amser, hyd yn oed pan nad ydw i yn y 'stafell.

Mae Bob yn mynd at y peiriant golchi yn yr ystafell amlbwrpas, yn tynnu un hosan goch allan ac yn rhoi hosan goch arall i mewn. Mae'n rhoi'r peiriant ymlaen ar y golchiad berwedig.

Llais:

Mae'r gegin yn baradwys sy'n llawn cyfleoedd i wastraffu ynni.

Aiff Bob i'r gegin. Daw Lucy i'r ystafell amlbwrpas a newid golchiad y peiriant golchi. Mae Bob yn mynd i nôl llefrith o'r oergell ac yn gadael drws yr oergell ar agor.

Llais:

Os bydda i'n gwneud paned o de neu goffi i mi fy hun, rydw i'n sicrhau bod y tegell, neu'r tegellau, wedi eu llenwi i'r ymylon. Mi fydda i hefyd yn ceisio cadw cymaint ag y galla' i o declynnau trydanol ymlaen ar yr un pryd. O, ac os oes awydd paned arna i, mi fydda i'n cofio gadael drws yr oergell ar agor bob tro tra bydda i wrthi.

Daw Lucy i'r gegin y tu ôl i Bob, gan gau drws yr oergell a diffodd y teclynnau. Mae Bob yn taro golwg dros yr ystafell fyw.

Llais:

Dw i wedi dysgu'n ddiweddar y gall gadael fy nheledu ar 'standby' yn gallu defnyddio rhwng 10 a 60 y cant o'r ynni a ddefnyddir ganddo pan fydd 'mlaen. Cofiwch chi, er mwyn bod yn saff mi fydda i'n ei gadael ymlaen drwy'r amser beth bynnag.

Llais (ar y teledu):

A nawr ar y Sianel Wledig, mae'n amser i ni ymweld ag Ynys Serch.

Llais:

Ond dyw hynny ddim yn golygu bod rhaid i mi ei wylio.

Mae Bob yn codi gwefrydd ffôn symudol yn y parlwr.

Llais:

O ac mi ddois i ar draws y berl fach yma! Plygiwch hwn i mewn a hyd yn oed pan na fydd wedi ei gysylltu ag unrhyw beth mae'n dal i ddefnyddio ynni - penigamp!

Mae'n rhoi'r gwefrydd mewn soced.

Llais:

Rhaid i mi gofio holi am inja roc ar gyfer Llanblwmp-ger-y-Môr: rhywbeth llachar a gludiog, wedi'i wneud o ddeunydd anghynaliadwy!

Torri i weld Bob yn brasgamu ar draws cae gyda llif gadwyn. Mae'n cerdded tuag at y llif gadwyn ac yn cerdded tuag at dyrbin gwynt gyda'r bwriad o'i lifio i lawr. Torri'n ôl i weld Bob yn pwyso ar ffens yr ardd ac yn gwisgo het 'Kiss me Quick'.

Llais:

Felly dyna chi. Drwy BEIDIO gwneud eich rhan i rwystro'r newid yn yr hinsawdd, rydych chi'n helpu i'm gwneud i'n ddyn cyfoethog dros ben. Ond y newyddion da ydi nad oes rhaid i chi wneud unrhyw beth!

Do, mi glywsoch chi fi! Daliwch ati i fyw fel rydych chi'n byw ar hyn o bryd, ac fe wnaiff hynny'r tric. Wrth i brisiau tanwydd ac ynni ddal i godi mi allai gostio ceiniog neu ddwy i chi, ond meddyliwch am botensial y dref glan môr newydd yma, mi fydd yn werth yr holl aros!

Mae'n debyg.

Mae Bob yn rhedeg ar hyd y cae yn ei dryncs nofio tuag at Marjyri'r mochyn, gan ddal potel o eli haul.

Llais:

Aa, dyna lle'r wyt ti Marjyri! Mae hi'n mynd i fod yn heulog iawn cyn pen dim, efo'r holl newid yma yn yr hinsawdd. Tyrd Marjyri, amser i ti gael dy eli haul.

Torri at Lucy.

Llais (Lucy):

Rŵan, dyna be ydw i'n ei alw'n wastraff ynni.

Additional links

Ei wneud ar y we

Allweddumynediad llywodraeth y DU