Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae teithio mewn car at ddibenion personol yn cynhyrchu 13 y cant o holl allyriadau nwyon tŷ gwydr y DU. Mae hefyd yn cyfrannu at lygredd aer lleol a thagfeydd. Gall y math o gar sydd gennych, y ffordd yr ydych yn ei yrru a'r tanwydd yr ydych yn ei ddefnyddio wneud gwahaniaeth mawr i'ch effaith chi ar yr amgylchedd.
Mae ceir mwy effeithlon yn defnyddio llai o danwydd ac yn golygu talu llai am eich treth ffordd, gan arbed arian i chi. Maent hefyd yn cynhyrchu llai o allyriadau.
Cymharu ceir sy'n defnyddio tanwydd yn effeithlon
Yma, gallwch ddod o hyd i gar newydd sy'n defnyddio tanwydd yn effeithlon drwy chwilio (er enghraifft: car teulu bach, car ystad) neu yn ôl gwneuthuriad.
Cronfa Ddata Tanwydd Ceir
Yma gallwch chwilio am gar yn ôl defnydd o danwydd, band treth, costau rhedeg a model neu wneuthuriad car. Mae'r canlyniadau yn dangos costau defnyddio tanwydd, allyriadau CO2 a'r dreth ffordd y bydd angen ei thalu.
Gostyngiadau i geir newydd
Am gyfnod dros-dro, gallwch gael gostyngiad o £2,000 ar gerbyd newydd os byddwch yn sgrapio cerbyd sy'n hŷn na 10 mlwydd oed ac yr ydych wedi bod yn berchen arno am gyfnod hwy na 12 mis. I gael mwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen isod.
Pethau i'w cadw mewn cof
Wrth i chi chwilio, cofiwch y gall fersiynau gwahanol o'r un fodel neu fath o gar amrywio'n sylweddol o ran pa mor effeithlon maent yn defnyddio tanwydd. Yn gyffredinol, mae ceir llai a cheir ag injan lai yn defnyddio tanwydd yn fwy effeithlon.
Ceir labeli mewn ystafelloedd arddangos ceir sy'n dangos pa mor effeithlon y mae pob car newydd yn defnyddio tanwydd:
Mae'n rhaid i bob car newydd gyrraedd safonau 'Euro'. Mae'r safonau hyn yn pennu cyfyngiadau ar allyriadau penodol a all fod yn niweidiol i iechyd pobl ac i'r amgylchedd. Yn gyffredinol, po uchaf yw'r rhif Euro, y glanaf yw'r car. Ar hyn o bryd, Euro 4 yw'r rhif uchaf y gall cerbyd ysgafn ei gael. Bydd hyn yn newid i Euro 5 ym mis Medi 2009.
Gall gyrru mewn ffordd fwy gwyrdd arbed gwerth mis o danwydd i chi mewn blwyddyn
Drwy ddilyn yr awgrymiadau isod gallech arbed gwerth mis o danwydd dros flwyddyn a lleihau eich allyriadau.
Gyrru'n esmwyth ac yn araf
Newid gêr ar yr amser iawn
Llai o gychwyn a stopio
Mae ceir sydd wedi'u cynnal a'u cadw'n dda yn tueddu i redeg yn fwy effeithlon:
Yn aml, mae gwastraff o waith cynnal a chadw ceir, fel hen olew injan, yn beryglus. Defnyddiwch gyfleusterau gwastraff y cyngor i gael gwared arnynt yn ddiogel.
Biodanwyddau
Caiff biodanwyddau, er enghraifft biodiesel a bioethanol, eu gwneud o ddeunyddiau planhigion fel olew llysiau neu wenith. Gall biodanwyddau leihau'r effeithiau ar newid yn yr hinsawdd gan fod y planhigion a ddefnyddir i wneud y biodanwyddau yn amsugno carbon deuocsid (CO2) pan fyddant yn tyfu. Mae hyn yn helpu i gydbwyso'r allyriadau CO2 pan gaiff y tanwydd ei losgi.
Gellir cymysgu biodanwyddau gyda diesel neu betrol cyffredin, ac mae'n bosibl eu defnyddio mewn ceir cyffredin. Erbyn hyn, mae'r rhan fwyaf o'r diesel sydd ar gael yn y DU, a rhai mathau o betrol, yn cynnwys 5 y cant o fiodanwydd. Mae'n addas i'w ddefnyddio ym mhob cerbyd, heb orfod ei addasu.
Mae'n bosibl addasu cerbydau i redeg ar danwydd a wneir gyda chyfran uwch o fiodanwyddau. Mae nifer fach o orsafoedd llenwi yn y DU yn cyflenwi tanwydd a wneir gyda chymysgedd uwch o fiodanwyddau.
Ceir trydan
Nid yw ceir trydan yn cynhyrchu dim allyriadau wrth yrru (ond cynhyrchir allyriadau wrth greu trydan).
Ceir hybrid
Mae ceir hybrid yn defnyddio cyfuniad o injan betrol a batri, ac maent yn defnyddio tanwydd yn effeithlon dros ben heb gyfaddawdu dim o ran eu perfformiad.