Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cynnal a chadw eich cerbyd

Mae'n hanfodol eich bod yn cynnal a chadw eich cerbyd er mwyn sicrhau ei fod yn addas i fod ar y ffordd, yn ddiogel i'w yrru, ac nad yw’n beryglus i ddefnyddwyr eraill y ffordd. Yma, cewch wybod beth y gallwch ei wneud i wneud eich cerbyd yn ddiogel i’w ddefnyddio.

Y prawf gyrru car neu feic modur ymarferol newydd

Mae'r prawf gyrru car neu feic modur ymarferol newydd bellach yn gofyn i chi wybod yn gyffredinol sut i gynnal a chadw eich cerbyd. Gofynnir i ymgeiswyr ateb cwestiynau ar archwiliadau diogelwch sylfaenol i sicrhau bod y cerbyd yn ddiogel i'w ddefnyddio.

Profion wythnosol ar gyfer pob cerbyd

Mae’r profion wythnosol y gallech eu gwneud ar eich cerbyd yn cynnwys:

  • golchi a glanhau'ch cerbyd, yn arbennig yn y gaeaf, i sicrhau bod y ffenestri, y goleuadau a drychau'r drysau yn lân
  • gofalu bod lefelau hylif fel oerydd yr injan, olew'r injan a'r hylif brecio yn gywir ac ychwanegu atynt
  • gofalu bod teiars y cerbyd, eu pwysedd aer a'u gafael mewn cyflwr iawn - rhaid bod o leiaf y lleiafswm cyfreithiol (1.6 mm) o afael ac yn ddelfrydol mwy na 2 mm
  • gofalu bod y goleuadau i gyd yn gweithio'n gywir
  • sicrhau bod llafnau'r sychwyr yn gweithio'n iawn a photel hylif golchi'r ffenestr flaen yn llawn
  • gofalu bod y system egsôst yn gweithio'n iawn

Darllenwch dudalennau 128 i 130 o Rheolau’r Ffordd Fawr i gael rhagor o wybodaeth.

Archwiliadau wythnosol ar gyfer beiciau modur

Ynghyd â'r uchod, dylai perchnogion beiciau modur wneud y canlynol:

  • gofalu bod pwysedd y teiars yn gywir fel y nodir yn llawlyfr y perchennog
  • dylai bariau'r llyw allu symud yn llyfn o'r chwith eithaf i'r dde eithaf heb fod unrhyw geblau rheoli'n cael eu hymestyn, yn cael eu dal neu'n cael eu pinsio, a heb fod unrhyw rwystrau rhwng y darnau sy'n symud a'r darnau sefydlog
  • gofalu bod gan bob teiar trwch gwadn o 1 mm o leiaf
  • chwilio am arwydd o wisgo ar y gadwyn, a bod yr olwyn gefn wedi'i halinio'n gywir a'r tensiwn yn gywir

Dylid addasu'r tensiwn fel y nodir yn llawlyfr y peiriant. Dylai'r gadwyn yrru fod wedi'i hiro i sicrhau nad yw'n gwisgo'n ormodol.

Darllenwch lawlyfr y perchennog ar gyfer eich cerbyd

Ceir gwybodaeth am sut i gyflawni'r tasgau hyn yn llawlyfr y perchennog sy'n dod gyda'r cerbyd. Mae'r llawlyfr hefyd yn cyfeirio at unrhyw weithgareddau cynnal a chadw eraill sy'n cael eu hargymell ar gyfer eich cerbyd.

Cael gwasanaeth ar eich cerbyd

Gwasanaeth rheolaidd gan y gwneuthurwr. Mae'r rhain yn amrywio o wneuthurwr i wneuthurwr ac o gerbyd i gerbyd, gan ddibynnu ar y math o gerbyd a'r math o injan. Fel arfer, ceir gwybodaeth am y gofynion yn llawlyfr y perchennog sy'n dod gyda'r cerbyd.

Cael MOT ar eich cerbyd

Bydd cael prawf MOT blynyddol neu brawf cerbyd nwyddau yn sicrhau bod eich cerbyd, pan fydd yn cyrraedd oedran penodol, yn cael ei archwilio o leiaf unwaith y flwyddyn. Caiff ei archwilio i sicrhau ei fod yn addas i fod ar y ffordd ac yn bodloni gofynion amgylcheddol.

Materion amgylcheddol

Ar ôl cynnal a chadw eich cerbyd, bydd angen i chi ystyried sut i gael gwared ag olew o'r injan, hylifau eraill, batris, teiars ac ati. Gall blerwch wrth gael gwared â'r eitemau hyn achosi llygredd i'r amgylchedd. Mae gan lawer o gynghorau neu awdurdodau lleol gyfleusterau ailgylchu lle gellir casglu olew, hylifau a batris i'w hailgylchu. Cysylltwch â'ch awdurdod lleol neu ewch i'w gwefan i gael gwybod ble mae'ch canolfan ailgylchu agosaf.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU