Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Defnyddio gwregys diogelwch

Mae’n rhaid i chi wisgo gwregys diogelwch os oes un wedi'i osod yn y sedd rydych chi'n ei defnyddio. Ond, mae angen i chi wisgo eich gwregys diogelwch yn y ffordd briodol er mwyn iddo weithio’n iawn os bydd damwain. Yma cewch wybod pryd mae'n rhaid i chi wisgo gwregys diogelwch a sut y dylid ei wisgo.

Pwy ddylai wisgo gwregys diogelwch

PWYLLWCH! Gwisgwch wregys diogelwch bob amser

Rydych chi ddwywaith yn fwy tebygol o farw mewn damwain os nad ydych chi’n gwisgo gwregys diogelwch

Mae’n rhaid i chi wisgo gwregys diogelwch os oes un wedi'i osod mewn unrhyw sedd mewn unrhyw gerbyd. Ond ceir ychydig eithriadau.

Pan rydych chi’n gyrru, dim ond un person ddylai eistedd ym mhob sedd sydd â gwregys diogelwch. Mae unrhyw un 14 oed neu hŷn sy’n teithio yn y cerbyd yn gyfrifol am wisgo ei wregys diogelwch ei hun.

Mae’n rhaid i blant ddefnyddio’r sedd car briodol ar gyfer eu pwysau nes byddant yn cyrraedd 135 centimetr o daldra neu eu pen-blwydd yn 12 oed, pa un bynnag sy’n dod gyntaf. Gweler ‘Pryd mae angen sedd car ar gyfer eich plentyn’ am ragor o wybodaeth.

Pryd nad oes angen gwisgo gwregys diogelwch

Nid oes rhaid i chi wisgo gwregys diogelwch os ydych chi:

  • yn yrrwr sy’n bacio, neu’n goruchwylio dysgwr sy’n bacio
  • mewn cerbyd sy’n cael ei ddefnyddio gan yr heddlu, neu’r gwasanaethau tân ac achub
  • yn deithiwr mewn cerbyd masnach a’ch bod yn ymchwilio i nam
  • yn gyrru cerbyd danfon nwyddau nad yw'n teithio dim mwy na 50 metr rhwng bob stop
  • yn yrrwr tacsi trwyddedig sydd ‘ar gael i’w logi’ neu’n cludo teithwyr

Eithriadau meddygol rhag gwisgo gwregys diogelwch

Efallai y bydd eich meddyg yn penderfynu y cewch eich eithrio rhag gwisgo gwregys diogelwch ar sail feddygol. Os felly, bydd yn rhoi ‘Tystysgrif Eithrio rhag Gorfod Gwisgo Gwregys Diogelwch’ i chi, a bydd angen i chithau:

  • gadw’r dystysgrif yn eich cerbyd
  • ei dangos i'r heddlu os byddwch chi'n cael eich stopio

Bydd angen i chi ddweud wrth eich yswiriwr car eich bod yn teithio heb wregys diogelwch.

I gael rhagor o wybodaeth am eithriadau meddygol, cysylltwch â’ch meddyg. Gallwch lwytho taflen i lawr o’r ddolen isod, a mynd â hi at eich meddyg.

Gwisgo eich gwregys diogelwch yn y ffordd gywir

Ni fydd gwregys diogelwch yn gweithio'n iawn mewn gwrthdrawiad os yw'n cael ei roi ar draws dau berson, oherwydd byddent yn cael eu gwasgu at ei gilydd, ac yn cael anafiadau difrifol o ganlyniad i hynny

I wneud yn siŵr eich bod yn cael eich diogelu mewn damwain, mae gofyn i'ch gwregys diogelwch fod wedi’i addasu’n briodol:

  • mae’n rhaid iddo orwedd mor agos â phosib at eich corff, heb fod yn llac a heb dro yn y strapiau
  • mae’n rhaid i’r strap ysgwydd fynd dros eich ysgwydd ac ar draws eich brest, oddi wrth eich gwddf
  • mae'n rhaid i’r belt glin fod mor isel â phosib, ac yn mynd o asgwrn y glun un ochr i asgwrn y glun yr ochr arall – nid ar draws eich stumog

Os yw’ch gwregys diogelwch yn anghyfforddus, edrychwch ar arweiniad gwneuthurwr y cerbyd ynghylch sut i’w addasu. Peidiwch â defnyddio padin, clustogau na matiau.

Defnyddio gwregysau diogelwch gyda bagiau aer blaen

Mae bagiau aer wedi cael eu cynllunio i'w defnyddio gyda gwregysau diogelwch, ond gallant achosi anaf mewn damwain os ydych chi'n eistedd yn rhy agos atynt. Dylech wneud yn siŵr:

  • eich bod yn caniatáu bwlch o 25 centimetr o leiaf rhwng asgwrn y frest a'r dashfwrdd neu ganol yr olwyn
  • nad ydych yn defnyddio sedd car plentyn sy’n wynebu’r cefn os nad ydych wedi diffodd y system bag aer blaen

Addasu eich gorffwysydd pen wrth addasu eich gwregys diogelwch

Gwnewch yn siŵr eich bod hefyd yn addasu’r gorffwysyddion pen ar y seddi blaen ac ôl rhag i chi gael chwiplach mewn damwain. Dylai pen uchaf y gorffwysydd fod ar yr un lefel â thop eich clustiau, ac mor agos â phosib at eich pen.

Gwisgo gwregys diogelwch a chithau'n feichiog

Mewn damwain, bydd gwisgo gwregys diogelwch yn lleihau hyd at 70 y cant ar y perygl o anaf i’r plentyn yn y groth

Mae’n rhaid i chi wisgo gwregys diogelwch os ydych chi’n feichiog, oni bai fod eich meddyg yn tystio eich bod wedi eich eithrio ar sail feddygol.

Bydd angen i chi gymryd gofal ychwanegol wrth addasu eich gwregys diogelwch. Byddwch yn fwy diogel ac yn fwy cyfforddus os byddwch yn gwisgo'r gwregys diogelwch yn y ffordd ganlynol:

  • gyda’r strap lletraws rhwng eich bronnau, yn mynd rownd ochr eich bol
  • y strap glin mor isel â phosib ar draws eich cluniau ac o dan eich bol – os yw’n mynd dros eich botwm bol, mae’n rhy uchel

Os ydych chi’n gyrru a bod angen i chi wneud lle i’ch bol, peidiwch â rhoi'ch sedd mor bell yn ôl fel na allwch chi gyrraedd y cydiwr, y brêc a’r sbardun. Gallai hyn effeithio ar eich amser ymateb wrth yrru. Gwnewch yn siŵr eich bod yn hapus â lleoliad y drychau ar ôl i chi symud y sedd.

Gwisgo gwregys diogelwch os ydych chi’n anabl

Mae’n rhaid i chi wisgo gwregys diogelwch os ydych chi’n anabl, oni bai eich bod wedi eich eithrio ar sail feddygol. Efallai y bydd angen i chi gael gwregys wedi’i addasu’n arbennig ar eich cyfer.

Gweler 'Addasu eich cerbyd' i gael rhagor o wybodaeth.

Os nad oes gwregysau diogelwch yn eich cerbyd

Ni all blant dan dair oed deithio mewn cerbydau heb wregysau, fel ceir clasurol. Os ydych yn teithio gyda phlant sy’n hŷn na thair oed, rhaid iddynt eistedd yn y sedd gefn yn unig.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU