Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Ceir cyfyngiadau cyflymder gwahanol ar gyfer ceir, faniau a cherbydau tynnu ar wahanol fathau o ffyrdd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod beth yw'r cyfyngiadau cyflymder ar gyfer eich cerbyd chi, y cosbau am oryrru a phryd ddylech chi arafu i addasu ar gyfer amodau’r ffordd.
Rhaid i chi beidio gyrru’n gyflymach na’r cyfyngiad cyflymder ar gyfer y ffordd a’r math o gerbyd sydd gennych.
Fel arfer, mae cyfyngiad o 30 milltir yr awr (mya) neu 48 cilomedr yr awr (cya) yn berthnasol i’r holl draffig ar bob ffordd sydd â goleuadau stryd. Mae hyn yn berthnasol oni bai y byddwch chi’n gweld arwyddion sy’n dangos yn wahanol.
Tabl cyfyngiadau cyflymder cenedlaethol
Math o gerbyd | Ardaloedd adeiledig | Ffyrdd unffrwd | Ffyrdd deuol | Traffyrdd |
---|---|---|---|---|
mya (cya) | mya (cya) | mya (cya) | mya (cya) | |
Ceir a beiciau modur (yn cynnwys faniau sydd wedi deillio o geir sy’n pwyso hyd at 2 dunnell wedi’u llwytho) | 30 (48) | 60 (96) | 70 (112) | 70 (112) |
Ceir sy’n tynnu carafanau neu drelars (gan gynnwys faniau sydd wedi deillio o geir a beiciau modur) | 30 (48) | 50 (80) | 60 (96) | 60 (96) |
Bysiau, bysiau moethus a bysiau mini (sy’n llai na 12 metr o hyd i gyd) | 30 (48) | 50 (80) | 60 (96) | 70 (112) |
Cerbydau nwyddau (sy’n pwyso llai na 7.5 tunnell wedi’u llwytho) | 30 (48) | 50 (80) | 60 (96) | 70 (112) Os yw’n gerbyd cymalog neu’n tynnu trelar, 60 mya (96 cya) yw’r cyfyngiad |
Cerbydau nwyddau (sy’n pwyso mwy na 7.5 tunnell wedi’u llwytho) | 30 (48) | 40 (64) | 50 (80) | 60 (96) |
Mae’r rhan fwyaf o faniau yn pwyso llai na 7.5 tunnell wedi’u llwytho, a rhaid iddynt ddilyn y cyfyngiadau cyflymder ar gyfer cerbydau nwyddau sy’n pwyso’r un faint.
Nid yw faniau sydd wedi deillio o geir yn pwyso mwy na 2 dunnell pan fyddant wedi’u llwytho, ac maent yn seiliedig ar gynlluniau ceir, er enghraifft:
Gweler ‘Arwyddion rhybudd, rheoleiddio a chyfyngiadau cyflymder’ ac ‘Adnabod yr arwyddion traffig’ am:
Gall cynghorau lleol osod eu cyfyngiadau cyflymder eu hunain mewn ardaloedd lle ceir angen penodol. Er enghraifft, gellid cael:
Rhaid cael arwyddion clir ar gyfer y cyfyngiadau cyflymder lleol.
Mae gyrru’n gyflymach na’r cyfyngiad cyflymder yn erbyn y gyfraith, boed yn gyfyngiad a bennwyd yn lleol neu’n genedlaethol. Y gosb leiaf am oryrru yw £60 ac ychwanegir 3 o bwyntiau cosb at eich trwydded.
Os oes gennych chi nifer penodol o bwyntiau ar eich trwydded yn barod, ni roddir dirwy i chi a bydd yn rhaid i chi fynd i'r llys.
Yr heddlu sy’n gorfodi’r cyfyngiad cyflymder, a gallant ddefnyddio:
Gweler ‘Camerâu ar draffyrdd a chefnffyrdd’ i gael rhagor o wybodaeth am ble y defnyddir camerâu diogelwch.
Gall y gwahaniaeth rhwng ychydig filltiroedd yr awr olygu’r gwahaniaeth rhwng byw a marw
Mae llawer o ddamweiniau’n digwydd wrth i yrwyr gadw at y cyfyngiad cyflymder, ond eu bod yn gyrru'n rhy gyflym i amodau'r ffordd.
Defnyddiwch eich synnwyr cyffredin, a gwybod pryd i arafu. Meddyliwch yn ofalus am ba mor gyflym y byddwch chi’n gyrru wrth:
Byddwch yn ofalus iawn ar ffyrdd heb eu goleuo yn ystod y nos, lle gall prif oleuadau traffig sy'n dod tuag atoch eich dallu.
Mae’r cyfyngiadau cyflymder wedi’u nodi yn Rheolau’r Ffordd Fawr. I gael gwybodaeth am bellteroedd stopio diogel ar gyfer gwahanol gyflymder a sut mae brecio’n ddiogel, dilynwch y ddolen isod.