Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae defnyddio eich ffôn symudol wrth yrru cerbyd yn beryglus. Os cewch chi eich dal yn defnyddio ffôn yn y llaw (handheld) wrth yrru, gallech gael eich erlyn. Yma cewch wybod pam mae defnyddio eich ffôn wrth yrru yn gallu tynnu eich sylw, beth yw'r cosbau a phryd mae'n ddiogel i chi ddefnyddio eich ffôn.
Mae amseroedd ymateb gyrwyr sy’n defnyddio ffonau yn y llaw 30 y cant yn arafach nag amseroedd ymateb gyrwyr sydd wedi bod yn yfed hyd at y terfyn cyfreithiol.
Mae’n anghyfreithlon defnyddio ffôn symudol yn y llaw wrth yrru cerbyd neu feic modur. Mae hyn hefyd yn berthnasol i unrhyw ddyfais debyg y mae’n rhaid ei dal ar ryw adeg i:
Mae’r dyfeisiau hyn yn cynnwys ffonau clyfar neu Gynorthwywyr Digidol Personol (PDA).
Pan fyddwch chi’n gyrru, ni chewch ddefnyddio eich ffôn symudol, eich ffôn clyfar na'ch Cynorthwyydd Personol yn y llaw i wneud y canlynol:
Mae hefyd yn anghyfreithlon defnyddio ffôn symudol yn y llaw wrth oruchwylio rhywun sy’n dysgu gyrru.
Os ydych chi’n gyflogwr, gallwch gael eich erlyn os byddwch chi’n gofyn i’ch gweithwyr wneud neu dderbyn galwadau wrth yrru.
Os cewch chi eich dal yn defnyddio ffôn symudol yn y llaw neu ddyfais debyg wrth yrru, gallwch ddisgwyl cael hysbysiad cosb benodedig yn awtomatig. Mae hyn yn golygu y cewch chi dri phwynt cosb ar eich trwydded yrru, a bydd yn rhaid i chi dalu dirwy o £60.
Fodd bynnag, mae’n bosib y bydd eich achos yn mynd i'r llys. Os bydd yn mynd i’r llys, gallech hefyd gael eich gwahardd rhag gyrru yn ogystal â hyd at £1,000 o ddirwy. Os ydych chi’n yrrwr bws neu gerbyd nwyddau, gallech wynebu hyd at £2,500 o ddirwy.
Os byddwch yn cael chwe phwynt cosb neu ragor o fewn dwy flynedd i basio'ch prawf, byddwch yn colli eich trwydded dan y Ddeddf Gyrwyr Newydd. Bydd angen i chi ailsefyll eich prawf gyrru i gael eich trwydded yn ôl.
Os bydd eich ffôn symudol yn canu pan fyddwch chi’n gyrru, gadewch i’r alwad fynd i’r gwasanaeth gadael neges neu drosglwyddo galwadau – gwrandewch ar eich negeseuon ar ôl i chi stopio.
Bydd gwneud neu dderbyn galwadau ffôn wrth yrru yn tynnu eich sylw. Mae ymchwil yn dangos eich bod bedair gwaith yn fwy tebygol o gael damwain os byddwch chi’n defnyddio unrhyw fath o ffôn symudol wrth yrru. Mae eich amseroedd ymateb hefyd gryn dipyn yn arafach nag amseroedd ymateb rhywun sydd wedi bod yn yfed hyd at y terfyn cyfreithiol.
I gael gwybod pa mor anodd yw canolbwyntio ar sawl peth wrth yrru, rhowch gynnig ar y gêm Driving Challenge. Mae’r gêm ar-lein hon yn pwysleisio peryglon defnyddio eich ffôn wrth yrru.
Dim ond yn yr amgylchiadau canlynol y dylech chi ddefnyddio eich ffôn symudol mewn cerbyd:
Nid yw’n anghyfreithlon i chi ddefnyddio ffonau symudol llawrydd, peiriant llywio â lloeren (sat-nav) na radios dwyffordd wrth yrru, ond fe allant dynnu’ch sylw. Os bydd yr heddlu'n credu nad ydych yn rheoli'ch cerbyd yn briodol, byddwch yn wynebu'r un cosbau a phetaech yn defnyddio ffôn wrth yrru.
Os byddwch chi’n ffonio rhywun ac yn sylweddoli ei fod yn gyrru ar y pryd, trefnwch i siarad yn nes ymlaen a rhoi'r ffôn i lawr.
Os byddwch chi’n dal i siarad, mae perygl i’r gyrrwr gael damwain, ac rydych yn ei annog i dorri’r gyfraith.