Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Y Ddeddf Gyrwyr Newydd

Dan y Ddeddf Gyrwyr Newydd, byddwch yn colli eich trwydded os cewch chwe phwynt cosb o fewn dwy flynedd ar ôl pasio eich prawf gyrru cyntaf. Yma, cewch wybod sut gallai’r Ddeddf effeithio arnoch chi, sut caiff pwyntiau cosb eu cyfrifo a sut mae cael eich trwydded yn ôl os byddwch yn ei cholli.

Beth mae’r Ddeddf Gyrwyr Newydd yn ei olygu i chi?

Os ydych chi newydd basio eich prawf gyrru cyntaf, mae’r Ddeddf Gyrwyr Newydd yn golygu eich bod 'ar gyfnod prawf' am ddwy flynedd. Os cewch chwech neu ragor o bwyntiau cosb yn ystod y cyfnod hwn, byddwch yn colli’ch trwydded. Yna, bydd rhaid i chi wneud cais am drwydded dros dro newydd, a thalu amdani. Bydd hyn yn golygu eich bod yn ddysgwr eto.

Ar bwy y mae’r Ddeddf Gyrwyr Newydd yn effeithio

Mae’r Ddeddf Gyrwyr Newydd yn berthnasol i bob gyrrwr newydd sydd yn pasio ei brawf gyrru cyntaf yn y mannau canlynol:

  • Prydain Fawr
  • Gogledd Iwerddon
  • Ynys Manaw
  • Ynysoedd y Sianel
  • Gibraltar
  • y Gymuned Ewropeaidd ac Ardal Economaidd Ewrop

Os ydych chi wedi dal trwydded yrru lawn am ddwy flynedd, nid yw'r Ddeddf yn berthnasol i chi. Er enghraifft, does dim cyfnod prawf arall os oes gennych chi drwydded car lawn yn barod, a’ch bod yn pasio prawf mewn categori arall, megis lori. Ond mae’n rhaid i chi fod wedi pasio'r ddau brawf yn un o’r gwledydd sydd wedi’u rhestru uchod.

Trwyddedau gyrru tramor

Bydd y Ddeddf hefyd yn berthnasol os byddwch yn cyfnewid trwydded yrru tramor am drwydded Brydeinig, ac yna’n pasio prawf gyrru arall ym Mhrydain Fawr.

Sut cewch chi bwyntiau cosb

Cewch bwyntiau cosb am bob math o droseddau’n ymwneud â gyrru, megis goryrru neu yrru’n beryglus. Mae’r cosbau ar gyfer troseddau traffig wedi’u gosod yn Rheolau’r Ffordd Fawr.

Pwyntiau cosb ar eich trwydded dros dro

Gallwch chi hefyd gael pwyntiau cosb ar eich trwydded dros dro cyn i chi basio eich prawf. Bydd y pwyntiau hyn yn para am dair blynedd a byddant yn cyfrif dan y Ddeddf. Os cewch chwe phwynt cyn i chi sefyll eich prawf, ni fydd eich trwydded dros dro yn cael ei chymryd oddi arnoch. Ond os cewch ragor o bwyntiau o fewn dwy flynedd ar ôl pasio eich prawf, byddwch yn colli eich trwydded.

Beth fydd yn digwydd os byddwch yn colli eich trwydded dan y Ddeddf

Os byddwch yn colli eich trwydded dan y Ddeddf Gyrwyr Newydd, bydd rhaid i chi wneud cais am drwydded dros dro yn gyntaf. Mae trwydded dros dro yn golygu y bydd rhaid i chi yrru gyda’r canlynol:

  • platiau L neu D
  • gyrrwr sydd yn 21 mlwydd oed o leiaf, ac sydd wedi dal trwydded yrru lawn am o leiaf dair blynedd

Ni chewch yrru ar unrhyw ffordd gyhoeddus ym Mhrydain Fawr heb drwydded. Os byddwch yn gyrru heb drwydded ddilys, neu’n anufuddhau i delerau trwydded dros dro, byddwch yn wynebu cosb ariannol o hyd at £1,000.
Os nad oes gennych chi drwydded ddilys, ni fydd eich yswiriant yn ddilys. Bydd angen i chi roi gwybod i’ch cwmni yswiriant ar unwaith os byddwch yn colli eich trwydded dan y Ddeddf.

Sut mae cael eich trwydded yrru lawn yn ôl

Os oes arnoch eisiau cael eich trwydded yrru lawn yn ôl, rhaid i chi wneud y canlynol:

  • pasio'r profion gyrru ymarferol a theori eto mewn categori a oedd ar eich trwydded yn y gorffennol
  • cyfnewid eich trwydded yrru dros dro am un lawn, ar ôl pasio eich prawf gyrru

Mewn rhai achosion, mae’n bosib y bydd y llys yn eich gorchymyn i sefyll ail-brawf fel rhan o’ch cosb am y drosedd. Cewch eich trwydded yn ôl os byddwch yn pasio’r prawf hwn. Ni fydd rhaid i chi basio dau ail-brawf.

Eich hawl i yrru cerbydau eraill

Os oedd gennych chi unrhyw hawl arall, megis yr hawl i yrru lori neu fws, ar eich trwydded cyn i chi ei cholli, bydd angen i chi adfer y rhain ar wahân. Dim ond eich comisiynydd traffig lleol all wneud hyn, a gall ofyn i chi ail-sefyll prawf gyrru ar gyfer y cerbydau hynny.

Beth fydd yn digwydd ar ôl i chi basio eich ail-brawf

Dim ond un tro fydd y Ddeddf Gyrwyr Newydd yn berthnasol. Ni fyddwch yn colli eich trwydded eto os cewch chwe phwynt cosb arall. Ond os cewch fwy na 12 pwynt mewn tair blynedd, byddwch yn colli’ch trwydded am o leiaf chwe mis, fel arfer.

Apelio yn erbyn colli eich trwydded yrru

Ni allwch apelio’n uniongyrchol yn erbyn colli eich trwydded dan y Ddeddf Gyrwyr Newydd.

Gallwch apelio yn y llys yn erbyn yr euogfarn a arweiniodd at eich chwe phwynt cosb, ond ni allwch apelio yn erbyn cosb benodedig ar ôl i chi ei derbyn.

Os byddwch yn apelio yn erbyn euogfarn, ni fyddwch yn colli eich trwydded cyn i’r llys wneud penderfyniad.

Cysylltwch â’r llys a bennodd yr euogfarn i gael cyngor ynglŷn ag apelio – a gewch chi apelio a sut mae gwneud hynny.

Additional links

PWYLLWCH! cyngor diogelwch ar y ffyrdd

Cael gwybod sut i gadw’n ddiogel ar y ffyrdd gyda ffeithiau, ystadegau, hysbysiadau a gemau PHWYLLWCH!

Allweddumynediad llywodraeth y DU