Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Egluro’r prawf theori

Mae dwy ran i'r prawf theori; y rhan amlddewis a'r rhan adnabod peryglon. Rhaid i chi basio'r ddwy ran i basio'r prawf theori. Ar ôl i chi basio'r prawf, fe gewch chi wneud cais i sefyll eich prawf gyrru ymarferol. Cael gwybod beth sy’n digwydd yn ystod y ddau rhan o’r prawf theori a sut y mae’r system sgoriau’n gweithio.

Sefyll eich prawf theori

Gwylio fideo ynghylch y prawf theori

Os byddwch chi'n pasio un rhan ac yn methu'r llall, byddwch yn methu'r prawf i gyd, a bydd yn rhaid i chi sefyll y ddwy ran eto.

Bydd y cwestiynau a gewch chi yn y rhan amlddewis yn dibynnu ar ba gategori ydych chi’n gobeithio cael trwydded ar ei gyfer. Er enghraifft, bydd y prawf theori ar gyfer beiciau modur yn cynnwys cwestiynau sydd ddim yn ymddangos mewn unrhyw brawf arall.

Yn achos y rhan adnabod peryglon, ni cheir fersiynau gwahanol ar gyfer cerbydau gwahanol, ond mae'r marc pasio yn wahanol ar eu cyfer.

Bydd profion amlddewis ac adnabod peryglon ar gyfer loriau a bysiau yn cael eu harchebu a’u sefyll ar wahân.

Y rhan amlddewis

Cyn i'r prawf ddechrau, fe gewch chi gyfarwyddiadau a fydd yn egluro sut mae'r prawf yn gweithio.

Fe gewch chi hefyd gynnig gwneud sesiwn ymarfer ar y cwestiynau amlddewis er mwyn dod i arfer â’r prawf. Ar ddiwedd y sesiwn ymarfer, bydd y prawf go iawn yn dechrau.

Sut mae’r rhan amlddewis yn gweithio

Bydd cwestiwn ac amryw o atebion posib yn ymddangos ar y sgrin – rhaid i chi ddewis yr ateb cywir. Efallai y bydd mwy nag un ateb i rai cwestiynau.

Fe allwch chi symud rhwng cwestiynau a rhoi 'baner' ar gwestiynau y byddwch yn dymuno mynd yn ôl atynt yn ddiweddarach yn y prawf.

Bydd rhai cwestiynau ar gyfer ceir a beiciau modur yn cael eu rhoi fel astudiaeth achos. Bydd yr astudiaeth achos yn:

  • dangos stori fer, a budd pum cwestiwn yn seiliedig ar y stori
  • canolbwyntio ar enghreifftiau a phrofiadau go iawn y gallai gyrwyr ddod ar eu traws wrth yrru

Mathau o brofion amlddewis

Categori

Amser a ganiateir

Marc pasio

Car a beic modur

57 munud

43 allan o 50

Lori a bws

1 awr a 55 munud

85 allan o 100

Ar ôl y rhan amlddewis, fe allwch chi ddewis cael toriad o hyd at dri munud cyn i'r prawf adnabod peryglon ddechrau.

Y rhan adnabod peryglon

Gwylio enghreifftiau o glipiau adnabod peryglon

Cyn cychwyn y rhan adnabod peryglon, dangosir clip fideo byr i chi yn dangos sut mae'r rhan adnabod peryglon yn gweithio.

Yna cewch weld cyfres o glipiau fideo ar y sgrin. Bydd y clipiau:

  • yn cynnwys sefyllfaoedd sy’n digwydd bob dydd ar y ffyrdd
  • yn cynnwys o leiaf un perygl sy’n datblygu – ond bydd un o’r clipiau’n dangos dau berygl sy'n datblygu

Mae perygl sy’n datblygu yn golygu rhywbeth a allai arwain i chi orfod gweithredu, megis newid cyflymder neu gyfeiriad.

Sut mae’r system sgoriau adnabod peryglon yn gweithio

Cynhara’n byd y byddwch chi’n sylwi ar y perygl sy’n datblygu ac yn ymateb, yr uchaf fydd eich sgôr. Pum pwynt yw’r sgôr uchaf y gallwch chi ei gael ar gyfer pob perygl sy'n datblygu.

I gael sgôr uchel, mae angen i chi wneud y canlynol:

  • ymateb i’r perygl sy’n datblygu pan fydd y perygl yn dechrau datblygu
  • gwasgu botwm y llygoden cyn gynted ag y byddwch chi’n gweld perygl yn datblygu

Ni fydd yn bosib i chi weld eich atebion i’r prawf adnabod peryglon.

Os byddwch chi’n clicio’n ddi-baid neu mewn patrwm yn ystod clip, bydd neges yn ymddangos ar y diwedd. Bydd yn dweud wrthych eich bod wedi cael sero ar gyfer y clip penodol hwn.

Pryd ddylech chi ymateb i berygl – enghraifft

Dychmygwch gar wedi parcio ar ochr y ffordd. Wrth ei weld am y tro cyntaf, nid yw'n gwneud dim – dim ond car wedi'i barcio ydyw. Pe byddech chi'n ymateb nawr, ni fyddech yn sgorio unrhyw farciau, ond ni fyddech yn colli unrhyw farciau chwaith.

Y gwahaniaeth rhwng perygl posibl a pherygl sy’n datblygu

Wrth ddynesu at y cerbyd, rydych chi’n sylwi fod arwyddion cyfeirio ochr dde'r car yn dechrau fflachio. Byddai hyn yn gwneud i chi feddwl bod gyrrwr y car yn mynd i symud. Mae’r perygl yn dechrau datblygu, a byddech chi’n cael marciau am ymateb nawr.

Mae'r ffaith bod yr arwyddion cyfeirio yn fflachio yn arwydd bod y car wedi newid o fod yn berygl posibl i fod yn berygl sy'n datblygu.

Wrth ddynesu at y car, mae'n debyg y byddwch yn ei weld yn dechrau symud oddi wrth ochr y ffordd. Dylid ymateb eto nawr.

Mathau o brofion adnabod peryglon

Categori

Clipiau fideo

Peryglon sy’n datblygu

Marc pasio

Car a beic modur

14 clip

15

44 allan o 75

Lori a bws

19 clip

20

67 allan o 100

Ar ddiwedd eich prawf theori

Eich tystysgrif pasio

Bydd eich tystysgrif pasio prawf theori yn dod i ben dwy flynedd ar ôl i chi basio’ch prawf

Ar ddiwedd y prawf fe'ch gwahoddir i ateb nifer o gwestiynau ar gyfer arolwg cwsmeriaid. Nid oes rhaid i chi ateb y cwestiynau os nad ydych chi’n dymuno, ac ni fyddant yn effeithio ar ganlyniad y prawf.

Pan fyddwch wedi gorffen y prawf, fe gewch chi adael yr ystafell arholi ond chewch chi ddim mynd yn ôl i mewn. Bydd staff y ganolfan arholi wedyn yn rhoi'ch canlyniad i chi.

Eich tystysgrif pasio prawf theori

Os byddwch chi’n pasio’ch prawf theori, byddwch chi’n cael tystysgrif pasio. Bydd angen hon arnoch pan fyddwch chi’n archebu a sefyll eich prawf ymarferol, felly mae’n bwysig eich bod chi’n ei chadw’n ddiogel.

Bydd eich tystysgrif pasio prawf theori yn dod i ben dwy flynedd ar ôl i chi basio’ch prawf. Os nad ydych wedi pasio’ch prawf erbyn hynny, bydd angen i chi sefyll a phasio’ch prawf theori eto.

Ar gyfer ymgeiswyr lori a bws, ar ôl i chi basio'r ddau brawf, fe fyddwch hefyd yn cael llythyr tystysgrif pasio drwy’r post.

Darparwyd gan the Driving Standards Agency

Additional links

Dechreuwch adolygu ar gyfer eich prawf theori nawr

Llwythwch y cynnyrch prawf theori DSA swyddogol – y profiad agosaf at y prawf iawn

Derbyn hysbysiadau atgoffa Rheolau’r Ffordd Fawr

Derbyn hysbysiadau atgoffa ynghylch Rheolau’r Ffordd Fawr drwy ei ddilyn ar Trydar a Facebook

Ffioedd profion gyrru

Cael gwybod y gost o brofion gyrru theori ac ymarferol pan fyddwch yn archebu ar Cross & Stitch

Allweddumynediad llywodraeth y DU