Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Dogfennau i’w dangos yn eich prawf gyrru theori

Pan fyddwch chi’n mynd i gael eich prawf theori, rhaid i chi fynd â’r dogfennau cywir gyda chi. Os na fyddwch chi’n gwneud hyn, efallai na chewch chi sefyll eich prawf ac efallai y byddwch chi’n colli eich ffi. Yma, cewch wybod beth fydd angen i chi fynd gyda chi a beth sy’n digwydd pan fyddwch chi’n cyrraedd y ganolfan arholi.

Dogfennau y mae'n rhaid i chi ddod â nhw i’ch prawf

Rhaid i chi ddod â’r dogfennau canlynol gyda chi. Os na fyddwch chi’n dod â’r dogfennau cywir:

  • bydd yr Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA) yn gwrthod cynnal y prawf
  • byddwch chi’n colli'ch ffi

Dewch â’r ddwy ran o’ch trwydded yrru

Rhaid i chi ddod â dwy ran eich trwydded yrru – y cerdyn-llun a’r papur manylion.

Os oes gennych drwydded yrru bapur o’r hen fath, rhaid i chi fynd â’ch trwydded yrru wedi’i llofnodi a rhaid i chi hefyd ddod â phasbort dilys.

Ni dderbynnir unrhyw ffurf arall ar brawf ffotograffig.

Beth i'w wneud os ydych chi wedi colli’ch trwydded yrru

Os byddwch chi'n colli'ch trwydded yrru, bydd yn rhaid i chi wneud cais am un arall gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA). Gallai hynny gymryd hyd at 15 niwrnod. Os digwydd hyn, mae'n bosibl y bydd yn rhaid i chi aildrefnu'ch prawf.

Yn y ganolfan brawf theori

Gwylio fideo ynghylch y prawf gyrru theori

Ar ôl i chi gael eich cofrestru yn y dderbynfa, byddwch yn mynd drwodd i'r ystafell brawf. Chewch chi ddim mynd â dim byd i'r ystafell gyda chi. Rhaid cadw'ch holl eiddo personol yn y loceri a ddarperir.

Pan fyddwch chi yn yr ystafell brawf, chewch chi ddim siarad â’r ymgeiswyr eraill na thynnu eu sylw.

Ar sgrin y cyfrifiadur, fe welwch eich enw a’r fath o brawf rydych chi'n ei sefyll.

Os bydd unrhyw broblem yn ystod y prawf theori, dylech godi'ch llaw i dynnu sylw aelod o staff.

Sefyll prawf theori ar ran rhywun arall

Rhybudd

Mae pobl sy’n sefyll prawf ar ran rhywun arall a’r bobl sy’n defnyddio eu gwasanaethau:

  • wedi'u cael yn euog mewn llys troseddol
  • wedi cael eu carcharu

Byddwch yn wyliadwrus o unrhyw un sy’n cynnig cael rhywun i sefyll eich prawf gyrru neu reidio theori ar eich rhan.

Mae unrhyw un sy’n sefyll prawf theori ar ran rhywun arall, yn ogystal â’r bobl sy’n

derbyn eu gwasanaethau:

  • yn torri’r gyfraith
  • yn rhoi defnyddwyr eraill y ffyrdd mewn perygl

Mae’r DSA yn:

  • ymchwilio’n drylwyr i bob achos a amheuir o rywun yn sefyll prawf ar ran rhywun arall
  • gweithio’n agos gyda’r heddlu i ganfod troseddwyr ac i fynd â nhw i’r llys

Sut i roi gwybod am rywun sy’n cynnig sefyll prawf ar eich rhan

Os oes rhywun yn cynnig sefyll prawf ar eich rhan chi, rhowch wybod i’r DSA drwy:

  • ffonio 029 2058 1155 (yn ystod oriau swyddfa)
  • ffonio 029 2058 1290 (y tu allan i oriau swyddfa)

e-bost i: integrity.team@dsa.gsi.gov.uk

Additional links

Dechreuwch adolygu ar gyfer eich prawf theori nawr

Llwythwch y cynnyrch prawf theori DSA swyddogol – y profiad agosaf at y prawf iawn

Derbyn hysbysiadau atgoffa Rheolau’r Ffordd Fawr

Derbyn hysbysiadau atgoffa ynghylch Rheolau’r Ffordd Fawr drwy ei ddilyn ar Trydar a Facebook

Ffioedd profion gyrru

Cael gwybod y gost o brofion gyrru theori ac ymarferol pan fyddwch yn archebu ar Cross & Stitch

Allweddumynediad llywodraeth y DU