Cyfnewid eich trwydded yrru bapur am drwydded cerdyn-llun
Nid yw'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) yn rhoi trwyddedau gyrru papur erbyn hyn. Mae gan yr Undeb Ewropeaidd gyfarwyddeb sy'n mynnu bod pob aelod wladwriaeth yn rhoi trwyddedau gyrru ar ffurf cerdyn, a hwnnw'n dangos llun a llofnod deilydd y drwydded.
Manteision cerdyn-llun
Mae nifer o fanteision i'r trwyddedau gyrru cerdyn-llun:
- ffurf ddiogel sy'n lleihau'r siawns o roi gwybodaeth gamarweiniol
- sicrhau mai'r un person yw'r sawl sy'n cael trwydded dros dro, yn sefyll y prawf ac yn cael trwydded yrru lawn
- sicrhau bod yr unigolyn sy'n cael trwydded yn y grŵp oed iawn
- lleihau'r posibilrwydd bod gan berson fwy nag un drwydded, naill ai drwy ddamwain neu'n fwriadol
- sicrhau bod cronfa ddata'r DVLA yn fwy cywir ac y bydd yn ei thro'n gallu darparu gwell gwybodaeth i'r heddlu a'r llysoedd
Gwneud cais ar-lein
Gallwch gyfnewid eich trwydded yrru bapur am drwydded yrru cerdyn-llun drwy ddefnyddio gwasanaeth ar-lein diogel y DVLA.
Gwneud cais yn bersonol neu drwy’r post
Bydd angen i chi wneud y canlynol:
- llenwi'r ffurflen ‘cais am drwydded yrru’ (D1), sydd ar gael gan wasanaeth archebu ffurflenni DVLA ac o ganghennau Swyddfa'r Post®
- darparu dogfennau gwreiddiol yn cadarnhau pwy ydych chi
- anfon llun o fath pasport
- cynnwys y ffi, sef £20.00
- anfon eich holl ddogfennau i DVLA, Abertawe, SA99 1BU neu ddefnyddio'r gwasanaeth gwirio premiwm sydd ar gael mewn rhai canghennau Swyddfa'r Post®, neu o swyddfeydd DVLA lleol
Pryd fydd eich trwydded yn cyrraedd
Nod y DVLA yw sicrhau eich bod yn derbyn eich trwydded yrru o fewn tair wythnos i dderbyn eich cais. Bydd yn cymryd mwy o amser os oes rhaid archwilio cyflwr eich iechyd a'ch manylion personol. Gadewch o leiaf tair wythnos i’ch trwydded yrru gyrraedd cyn cysylltu â’r DVLA.
Pan fyddwch yn derbyn eich trwydded, bydd sawl nodwedd newydd arni o ran diogelwch. Un o'r prif newidiadau ar y drwydded fydd y llun du a gwyn ohonoch a grëir gan laser.
Gyrru cyn i'ch trwydded gael ei dychwelyd
Cewch yrru cyn cael eich trwydded, cyn belled â bod y canlynol yn wir:
- mae gennych drwydded Gwledydd Prydain neu drwydded Gogledd Iwerddon, neu drwydded gyfnewid arall, a honno gennych er 1 Ionawr 1976
- nid ydych wedi'ch gwahardd rhag gyrru
- nid ydych wedi cael eich gwrthod trwydded yrru am resymau meddygol neu am fethu â chydymffurfio ag ymholiadau meddygol
- ni fyddwch yn cael eich gwrthod trwydded am resymau meddygol (os oes gennych amheuaeth, holwch eich meddyg)
- rydych yn bodloni unrhyw amodau arbennig sy’n berthnasol i'r drwydded