Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cost trwydded yrru

Mae ffioedd ar gyfer trwyddedau gyrru yn amrywio, gan ddibynnu ar y fath o drwydded yrru rydych yn gwneud cais amdani. Yma cewch wybod cost trwydded yrru (os yw’n berthnasol) ac os ydych chi’n gallu gwneud cais amdani ar-lein.

Trwydded yrru gyntaf Brydeining

Math o drwydded

Ffi

Trwydded dros dro gyntaf - car, beic modur, moped

£50

Trwydded gyntaf Brydeinig lawn i'w chyfnewid am drwydded y Gymuned Ewropeaidd/Ardal Economaidd Ewrop (GE/AEE) lawn, neu drwydded dramor arall (gan gynnwys Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw)

£50

Gallwch wneud cais ar-lein am drwydded dros dro gyntaf drwy ddilyn y ddolen isod.

Trwydded yrru yn lle un arall

Math o drwydded

Ffi

Trwydded yrru yn lle un arall (trwydded sydd ar goll, wedi'i dwyn, ei difetha neu ei dinistrio)

£20

Gallwch wneud cais ar-lein am drwydded yrru neu bapur manylion yn lle un arall (os oes gennych drwydded yrru cerdyn-llun), dilynwch y ddolen isod.

Newid eich enw neu eich cyfeiriad ar eich trwydded yrru

Math o drwydded

Ffi

Newid eich enw neu eich cyfeiriad ar eich trwydded yrru

Am ddim

Pan fyddwch yn gwneud cais i newid eich enw neu eich cyfeiriad ar eich trwydded yrru, os ydych wedi colli eich trwydded bapur, neu unrhyw ran o’ch trwydded cerdyn-llun, neu’r ddwy ran ohoni, neu’n dymuno adnewyddu eich llun, y ffi yw £20.

Gallwch wneud cais ar-lein i newid y cyfeiriad ar eich trwydded yrru drwy ddilyn y ddolen isod.

Os oes angen newid eich enw ar eich trwydded yrru arnoch bydd angen i chi lenwi ffurflen gais D1.

Adnewyddu eich trwydded

Math o drwydded

Ffi

Adnewyddu’r trwydded yrru o 70 oed ymlaen

Am ddim

Adnewyddu’r trwydded yrru am resymau meddygol

Am ddim

Adnewyddu’r hawl i yrru bws neu lori

Am ddim

Adnewyddu ar ôl gwaharddiad

£65

Os ydych wedi'ch gwahardd am rai troseddau yfed a gyrru*

£90

Adnewyddu ar ôl diddymu (dan y Ddeddf Gyrwyr Newydd)

£50

Adnewyddu’r llun ar eich trwydded

£20

* Os cawsoch eich gwahardd am drosedd yn ymwneud ag alcohol a bod rhaid i'r DVLA drefnu ymholiadau meddygol (gweler taflen D100W, adran 10)

Gallwch wneud cais ar-lein i adnewyddu eich trwydded yrru os ydych yn 70 oed neu’n hŷn drwy ddilyn y ddolen isod.

Gallwch wneud cais ar-lein i adnewyddu’r llun ar eich trwydded yrru drwy ddilyn y ddolen isod.

Cyfnewid eich trwydded yrru

Math o drwydded

Ffi

Trwydded cerdyn-llun am drwydded cerdyn-llun (gan gynnwys dileu ardystiadau sydd wedi dod i ben)

£20

Trwydded bapur am drwydded cerdyn-llun (gan gynnwys tynnu ardystiadau sydd wedi dod i ben)

£20

Trwydded lawn Gogledd Iwerddon

Am ddim

Trwydded lawn ddilys y GE/AEE neu drwydded dramor arall o'r tu allan i Brydain Fawr gan gynnwys Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw, os oedd gennych eisoes drwydded lawn Prydain Fawr

Am ddim

Gogledd Iwerddon â phrawf pasio GB

Am ddim

Gallwch wneud cais i gyfnewid eich trwydded yrru bapur am drwydded yrru cerdyn-llun drwy ddilyn y ddolen isod.

Ychwanegu prawf pasio neu hawl

Math o drwydded

Ffi

Cyfnewid trwydded dros dro am drwydded car, beic modur, moped, bws neu lori lawn

Am ddim

Cyfnewid trwydded dros dro am drwydded car, beic modur, moped lawn ar ôl cael gwaharddiad hyd nes pasio prawf

Am ddim

Ychwanegu hawl lawn i drwydded lawn

Am ddim

Ychwanegu hawl dros dro i drwydded dros dro

Am ddim

Ychwanegu hawl bws neu lori dros dro i drwydded lawn

Am ddim

Gogledd Iwerddon â phrawf pasio GB

Am ddim

Archebu ffurflenni’r DVLA

Os ydych yn ceisio gwneud cais am drwydded yrru dros dro, cyfnewid, adnewyddu neu ychwanegu hawl i’ch trwydded, gallwch archebu’r ffurflen berthnasol gan wasanaeth archebu ffurflenni’r DVLA.

Additional links

Derbyn hysbysiadau atgoffa Rheolau’r Ffordd Fawr

Derbyn hysbysiadau atgoffa ynghylch Rheolau’r Ffordd Fawr drwy ei ddilyn ar Trydar a Facebook

Allweddumynediad llywodraeth y DU