Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Adnewyddu eich trwydded yrru yn 70 oed ac yn hŷn

Bydd eich hawl i gael trwydded yrru yn dod i ben pan fyddwch chi'n 70 oed, ac er mwyn i chi allu parhau i yrru, bydd yn rhaid i'r hawl honno gael ei hadnewyddu gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA). Bydd eich trwydded newydd fel arfer yn ddilys am dair blynedd.

Gwneud cais ar-lein

Gallwch adnewyddu eich trwydded yrru gan ddefnyddio gwasanaeth ar-lein diogel y DVLA, ond ni fyddwch yn gallu adnewyddu eich hawl i yrru cerbydau maint canolig (C1) a/neu bysiau mini (D1). I adnewyddu'r hawliau hyn, gallwch wneud cais drwy'r post neu ddefnyddio'r gwasanaeth gwirio premiwm.

Deiliaid trwydded cerdyn-llun

Bydd y DVLA yn anfon ffurflen D46P, sef 'cais i adnewyddu trwydded yrru' atoch 90 diwrnod cyn eich pen-blwydd yn 70 oed.

Bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • llenwi'r ffurflen D46P
  • ei hanfon i DVLA, Abertawe SA99 1AA
  • dychwelyd eich trwydded yrru cerdyn-llun a'r papur manylion

Bydd neges ar eich ffurflen D46P yn rhoi gwybod i chi a yw'n amser i chi adnewyddu'ch llun, a bydd angen i chi gynnwys llun math pasbort newydd.

Bydd angen i chi hefyd amgáu dogfen adnabod wreiddiol os yw'ch enw wedi newid ers i'ch trwydded ddiwethaf gael ei rhoi i chi.

Nid oes angen unrhyw ffi gyda'r cais hwn.

Adnewyddu heb ffurflen D46P, sef ‘cais i adnewyddu’

Os na fyddwch, am unrhyw reswm, yn cael y ffurflenni atgoffa, gallwch ddefnyddio ffurflen D1, sef ‘cais am drwydded yrru’. Mae'r ffurflen hon ar gael gan wasanaeth archebu ffurflenni'r DVLA ac o ganghennau Swyddfa'r Post®.

Bydd angen i chi hefyd sicrhau nad yw oes y llun ar eich trwydded ar fin dod i ben. Gellir gweld y dyddiad y bydd eich llun yn dod i ben yn adran 4b ar flaen eich trwydded yrru.

Os oes gennych drwydded bapur

Bydd y DVLA yn anfon ffurflen D46P atoch 90 diwrnod cyn eich pen-blwydd yn 70 oed.

Bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • llenwi'r ffurflen D46P
  • amgáu dogfennau gwreiddiol yn cadarnhau pwy ydych chi
  • cynnwys llun lliw math pasbort
  • anfon eich ffurflen a'ch dogfennau i DVLA, Abertawe, SA99 1AA neu gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth gwirio premiwm sydd ar gael mewn rhai canghennau Swyddfa'r Post®, neu o swyddfeydd DVLA lleol

Gallwch hefyd ddefnyddio ffurflen D1 os na chewch y D46P drwy'r post.

Adnewyddu eich hawl C1 neu D1

I adnewyddu'r hawl C1 neu D1 a oedd gennych yn flaenorol, yn llawn neu'n gyfyngedig, neu os ydych chi'n bwriadu gyrru bysiau mini yn wirfoddol, rhaid i chi amgáu ffurflen feddygol D4, sef 'adroddiad archwiliad meddygol', wedi'i llenwi gan feddyg i gefnogi'ch cais.

Mae’n rhaid i chi hefyd ddarparu ‘Adroddiad Archwiliad Meddygol' (D4). Bydd y meddyg yn codi ffi am y gwasanaeth hwn. Mae’r ffurflenni D2 a D4 ar gael gan swyddfeydd DVLA lleol, yr Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr, yr Asiantaeth Safonau Gyrru, Swyddfeydd Ardal Traffig ac ysgolion hyfforddi LGV/PCV.

Pryd fydd eich trwydded yn cyrraedd

Nod DVLA yw sicrhau eich bod yn cael eich trwydded yrru newydd o fewn tair wythnos i dderbyn eich cais. Bydd yn cymryd mwy o amser os oes rhaid iddynt archwilio cyflwr eich iechyd neu'ch manylion personol. Gadewch o leiaf dair wythnos i’ch trwydded yrru gyrraedd cyn cysylltu â'r DVLA.

Pan fyddwch yn cael eich trwydded, bydd ganddi nifer o nodweddion diogelwch ychwanegol. Un o'r prif newidiadau ar y drwydded yw'r llun du a gwyn ohonoch a grëir gan laser.

Gyrru cyn i'ch trwydded gael ei dychwelyd

Unwaith y bydd DVLA wedi cael eich cais dilys, cewch yrru cyn i chi gael eich trwydded cyn belled â bod y canlynol yn wir:

  • mae gennych drwydded Gwledydd Prydain neu drwydded Gogledd Iwerddon, neu drwydded gyfnewid arall, a honno gennych er 1 Ionawr 1976
  • nid ydych wedi'ch gwahardd rhag gyrru
  • nid ydych wedi cael eich gwrthod trwydded am resymau meddygol neu am fethu â chydymffurfio ag ymholiadau meddygol
  • ni fyddwch yn cael eich gwrthod trwydded am resymau meddygol (os oes gennych amheuaeth, holwch eich meddyg)
  • rydych yn bodloni unrhyw amodau arbennig sy’n berthnasol i'r drwydded

Additional links

Derbyn hysbysiadau atgoffa Rheolau’r Ffordd Fawr

Derbyn hysbysiadau atgoffa ynghylch Rheolau’r Ffordd Fawr drwy ei ddilyn ar Trydar a Facebook

Allweddumynediad llywodraeth y DU