Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwasanaeth gwirio premiwm

Fe allwch chi ddefnyddio’r gwasanaethau gwirio premiwm i gael rhywun i wirio’ch cais a’i hanfon i’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA), wrth ichi wneud cais am drwydded yrru cerdyn-llun. Mae’r gwasanaeth ar gael mewn rhai o ganghennau Swyddfa'r Post® neu swyddfeydd DVLA lleol. Nid yw’r gwasanaeth hyn ar gael am geisiadau ar-lein.

Canghennau Swyddfa'r Post®

Fe allwch chi wneud cais am eich trwydded drwy fynd i Swyddfa'r Post® gyda'ch cais, dogfennau adnabod, ffotograff ac unrhyw ffi sy'n ofynnol. Bydd clerc yn gwirio'ch cais i sicrhau bod pob adran wedi cael ei lenwi’n gywir a’i hanfon at DVLA. Hefyd mae’n bosib y bydd angen iddynt anfon eich dogfennau adnabod yn dibynnu ar beth y byddwch chi’n defnyddio gyda’ch cais.

Bydd angen un o’r dogfennau adnabod canlynol ar ganghennau Swyddfa'r Post®:

  • pasport cyfredol y DU
  • prawf eich bod yn derbyn Pensiwn Ymddeol y Wladwriaeth (datganiad banc neu gymdeithas adeiladu a dderbyniwyd yn ystod y tri mis diwethaf)
  • llythyr sy'n brawf eich bod yn gymwys i gael Pensiwn Ymddeol y Wladwriaeth (BR2102, BR2103 neu BR5899)

Os byddwch chi’n defnyddio’ch pasbort digidol bydd yn cael ei rhoi yn ôl atoch os byddwch chi’n caniatáu i DVLA wirio pwy ydych chi gyda’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau. Os byddwch chi’n defnyddio’ch prawf eich bod yn derbyn pensiwn, bydd y dogfennau hyn yn cael eu dychwelyd i chi. Mae’r DVLA yn mynnu'r hawl i ofyn am y dogfennau hyn os oes angen.

Os byddwch chi’n defnyddio pasbort digidol ac na rowch ganiatâd i DVLA wirio pwy ydych chi gyda’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau neu os byddwch chi’n defnyddio pasbort sydd ddim yn un digidol rhaid anfon y ddogfen at DVLA.

Rhaid i’ch dogfennau adnabod fod yn eich enw cyfredol. Ni ellir ddefnyddio’r gwasanaeth hwn os ydych yn newid eich enw.

Mae ffi ar gyfer y gwasanaeth premiwm sy’n ychwanegol i ffi'r drwydded.

Swyddfeydd DVLA Lleol

Mae swyddfeydd DVLA lleol yn darparu gwasanaeth tebyg i Swyddfa’r Post®. Os oes gennych drwydded a roddwyd mewn gwlad arall, cynigir y gwasanaeth yn rhai o’r swyddfeydd lleol.

Trwyddedau a roddwyd mewn gwlad arall

Fe allwch chi ddefnyddio'r gwasanaeth hwn os ydych yn gwneud cais am drwydded lawn Brydeinig yn gyfnewid am drwydded lawn manylion papur gyfredol neu drwydded yrru cerdyn-llun o un o wledydd y Gymuned Ewropeaidd/Ardal Economaidd Ewrop (GE/AAE) neu wlad ddynodedig. Mae tair swyddfa sy'n cynnig y gwasanaeth - Wimbledon, Nottingham a Glasgow. Gallwch hefyd ddefnyddio prif dderbynfa’r DVLA yn:

DVLA

Longview Road

Treforys

Abertawe

SA6 7JL

Additional links

Derbyn hysbysiadau atgoffa Rheolau’r Ffordd Fawr

Derbyn hysbysiadau atgoffa ynghylch Rheolau’r Ffordd Fawr drwy ei ddilyn ar Trydar a Facebook

Allweddumynediad llywodraeth y DU