Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Adnewyddu eich trwydded yrru os yw ar goll, wedi'i dwyn, ei difetha neu ei dinistrio

Rhaid i chi gael trwydded newydd yn lle un sydd ar goll, wedi ei dwyn, ei difetha neu ei dinistrio. Gallwch wneud hyn ar-lein, dros y ffôn, drwy'r post, neu fe allwch chi ddefnyddio’r gwasanaeth gwirio premiwm.

Gwneud cais ar-lein

Gallwch gyfnewid eich trwydded yrru am un newydd gan ddefnyddio gwasanaeth ar-lein diogel yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA).

Teclyn rhyngweithiol

Mae'r DVLA hefyd yn darparu gwybodaeth yn seiliedig ar eich anghenion unigol fel dewis arall i'r cynnwys isod.

Os oes gennych drwydded yrru cerdyn-llun

Gwneud cais dros y ffôn

Gallwch wneud cais dros y ffôn os ydy un neu ddau ran eich trwydded cerdyn-llun ar goll neu wedi'u dwyn ac nad yw'ch manylion wedi newid o gwbl. Mae'r DVLA yn derbyn y cardiau credyd a debyd canlynol - Mastercard, Visa neu Eurocard ac mae'r ffi yn £20.00. Y rhif ffôn yw 0300 790 6801. Mae’r llinellau ar agor yn ystod yr amseroedd canlynol:

Llinellau Cyffredinol Gyrwyr a Cherbydau – o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00 am a 7.00 pm; dydd Sadwrn rhwng 8.00 am a 2.00 pm

Ni fyddwch yn gallu gwneud cais dros y ffôn os ydych chi'n ddeilydd trwydded bapur neu os yw oes eich llun ar fin dod i ben neu wedi dod i ben.

Gwneud cais drwy'r post

Bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • llenwi ffurflen D1, sef ‘cais am drwydded yrru’, sydd ar gael gan wasanaeth archebu ffurflenni DVLA neu o ganghennau Swyddfa'r Post®
  • cynnwys y rhan o'r drwydded sydd gennych, os oes un rhan ar goll
  • anfon eich ffurflen gais a'r ffi i DVLA Abertawe SA99 1AB

Bydd angen i chi hefyd ddarparu dogfennau adnabod gwreiddiol i gadarnhau eich enw newydd os yw wedi newid ers i'ch trwydded ddiwethaf gael ei rhoi i chi.

Os oes angen i chi adnewyddu eich llun

Gallwch adnewyddu eich llun unrhyw adeg, er hynny, os yw oes eich llun yn dod i ben fuan iawn, bydd angen ei adnewyddu cyn y dyddiad daw i ben. Ni fydd yn bosib i chi adnewyddu eich llun gan ddefnyddio'r ffôn.

Os oes gennych chi drwydded yrru bapur

Gwneud cais yn bersonol neu drwy’r post

Bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • llenwi ffurflen D1, sef ‘cais am drwydded yrru’, sydd ar gael gan wasanaeth archebu ffurflenni DVLA neu o ganghennau Swyddfa'r Post®
  • amgáu dogfennau gwreiddiol yn cadarnhau pwy ydych chi
  • anfon llun math pasbort
  • anfon eich trwydded bapur os yw wedi'i difetha
  • anfon eich holl ddogfennau at DVLA, Abertawe, SA99 1AB neu ddefnyddio'r gwasanaeth gwirio premiwm sydd ar gael mewn rhai canghennau Swyddfa'r Post®, neu o swyddfeydd DVLA lleol

Os byddwch chi’n dod o hyd i'ch hen drwydded…

Rhaid i chi ddychwelyd eich hen drwydded i'r DVLA gyda llythyr eglurhaol os byddwch yn dod o hyd iddi ar ôl gwneud cais am eich trwydded yrru cerdyn-llun ddyblyg newydd, neu ar ôl cael y drwydded honno.

Pryd fydd eich trwydded yn cyrraedd

Nod DVLA yw anfon eich trwydded yrru newydd i chi o fewn tair wythnos i dderbyn eich cais. Bydd yn cymryd mwy o amser os bydd yn rhaid iddynt archwilio cyflwr eich iechyd neu'ch manylion personol. Gadewch o leiaf 21 diwrnod i’ch trwydded yrru gyrraedd cyn cysylltu â'r DVLA.

Pan fyddwch yn cael eich trwydded, bydd ganddi nifer o nodweddion diogelwch ychwanegol. Un o'r prif newidiadau ar y drwydded yw'r llun du a gwyn ohonoch a grëir gan laser.

Gyrru cyn i'ch trwydded gael ei dychwelyd

Cewch yrru cyn cael eich trwydded, cyn belled â bod y canlynol yn wir:

  • mae gennych drwydded Gwledydd Prydain neu drwydded Gogledd Iwerddon, neu drwydded gyfnewid arall, a honno gennych er 1 Ionawr 1976
  • nid ydych wedi'ch gwahardd rhag gyrru
  • nid ydych wedi cael eich gwrthod trwydded am resymau meddygol neu am fethu â chydymffurfio ag ymholiadau meddygol
  • ni fyddwch yn cael eich gwrthod trwydded am resymau meddygol - os oes gennych amheuaeth, holwch eich meddyg
  • rydych yn bodloni unrhyw amodau arbennig sy’n berthnasol i'ch trwydded

Additional links

Derbyn hysbysiadau atgoffa Rheolau’r Ffordd Fawr

Derbyn hysbysiadau atgoffa ynghylch Rheolau’r Ffordd Fawr drwy ei ddilyn ar Trydar a Facebook

Allweddumynediad llywodraeth y DU