Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Dyletswyddau cyfreithiol gyrwyr a cheidwaid cerbydau

Cyn i chi gael gyrru neu gadw cerbyd ar y ffordd, bydd gennych ddyletswyddau a chyfrifoldebau i'w cyflawni. Mae'n rhaid i chi hefyd roi gwybod i'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) am unrhyw newidiadau i'ch manylion personol neu i fanylion eich cerbyd.

Cyn gyrru car neu feic modur

Er mwyn gyrru car neu feic modur mae'n rhaid i chi:

  • fod â'r drwydded yrru gywir ar gyfer y cerbyd sy'n cael ei yrru
  • fod yn ddigon hen i yrru
  • fod â golwg digon da yn ôl y gyfraith

Fel gyrrwr dan hyfforddiant mae'n rhaid i chi:

  • gael eich goruchwylio gan yrrwr cymwys (heblaw eich bod yn gyrru beic modur)
  • arddangos platiau D (neu L neu D yng Nghymru)

Cyn mynd â cherbyd ar y ffordd

Rhaid i'r cerbyd:

  • fod wedi'i gofrestru gyda'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA)
  • fod â disg dreth cerbyd ddilys
  • fod â thystysgrif prawf gyfredol (os yw'n berthnasol)

Rhaid i chi:

  • gael yswiriant trydydd parti fan lleiaf er mwyn defnyddio'r cerbyd

Rhoi gwybod i'r DVLA am newidiadau

Rhaid i chi roi gwybod i'r DVLA os byddwch chi:

  • yn newid eich cyfeiriad ac/neu eich enw
  • yn gwneud unrhyw newidiadau i'ch cerbyd
  • yn gwerthu eich cerbyd
  • yn dioddef o gyflwr meddygol eisoes neu'n dechrau dioddef o gyflwr o'r fath

Gyrru cerbydau mwy neu fysiau

Mae safonau gweld a safonau meddygol uwch ar gyfer gyrru cerbydau mwy. Rhaid i chi hefyd roi gwybod i'r DVLA os ydych chi wedi'ch cael yn euog o unrhyw drosedd sy'n ymwneud â'ch ymddygiad wrth yrru neu'n euog o unrhyw drosedd ar wahân i droseddau gyrru os oes gennych chi gerbyd sy'n cludo teithwyr

Allweddumynediad llywodraeth y DU