Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Pan fyddwch chi'n gwerthu'ch cerbyd yn breifat neu drwy fasnachwr moduron, bydd angen i chi ddweud wrth yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA). Os na fyddwch yn dweud wrth DVLA, gellid eich dal yn gyfrifol am unrhyw droseddau moduro a gyflawnir yn y cerbyd yn y dyfodol.
Mae'n bwysig i chi roi gwybod i DVLA cyn gynted ag y byddwch yn gwerthu eich cerbyd neu chi fydd yn dal yn gyfrifol am dalu treth ar y cerbyd neu gosbau a all godi am beidio'i thalu. Efallai mai chi hefyd fydd yn cael gohebiaeth a fydd yn gysylltiedig â throseddau moduro a gyflawnir yn y cerbyd. Ar ôl rhoi gwybod i DVLA, dylech gael llythyr cydnabod o fewn pedair wythnos yn cadarnhau nad chi sy'n gyfrifol am y cerbyd mwyach.
Mae rhai camau syml y gallwch chi eu cymryd i warchod eich hun rhag dod yn ddioddefwr trosedd wrth werthu’ch cerbyd:
Noder: mae DVLA wedi dod yn ymwybodol o nifer fach o achosion lle cynigwyd Archebion Talu DVLA ffug i dalu am gerbyd yn llawn neu'n rhannol. Ni ddylech ddisgwyl derbyn Archebion Talu DVLA gan gwsmeriaid preifat a dylech amau yn fawr iawn unrhyw un sy’n cynnig un i chi. Dim ond yn uniongyrchol i gwsmeriaid y mae DVLA yn rhoi’r rhain, fel arfer os oes ad-daliad yn ddyledus neu os oes gordaliad wedi cael ei wneud.
Bydd y prynwr am gael gweld y dystysgrif cofrestru (V5C) er mwyn gwneud yn siŵr bod manylion y cerbyd yn gywir. Efallai na fydd modd i chi werthu eich cerbyd heb dystysgrif cofrestru. Os ydych chi wedi'i cholli, fe allwch chi gael un newydd yn ei lle gan y DVLA.
Bydd angen i chi drosglwyddo neu gadw’ch rhif cofrestru cyn i chi werthu’r cerbyd. Os na fyddwch chi’n gwneud hyn, byddwch chi’n colli’ch hawl i’r rhif cofrestru.
Dylech bob amser gadw nodyn ar wahân o enw a chyfeiriad y prynwr. Dylech roi gwybod i DVLA ar unwaith gan ddefnyddio rhan briodol y dystysgrif cofrestru.
Tynnwch eich disg treth o'r cerbyd a gallwch hefyd wneud cais am ad-daliad treth cerbyd ar gyfer misoedd calendr cyflawn sy'n weddill ar y ddisg treth. Ni all y DVLA dalu eich ad-daliad nes y byddwch yn rhoi gwybod iddynt eich bod chi wedi gwerthu/trosglwyddo eich cerbyd.
Os nad oes gennych chi dystysgrif cofrestru, gallwch o hyd roi gwybod i DVLA nad yw'r cerbyd gennych chi mwyach. Er mwyn gwneud hyn rhaid i chi ysgrifennu at DVLA, Abertawe, SA99 1AR, gan nodi rhif cofrestru'r cerbyd, math a model y cerbyd, union ddyddiad ei werthu ac enw a chyfeiriad y ceidwad newydd.
Fodd bynnag, dylech nodi na fydd cofnodion DVLA yn gyflawn nes i'r ceidwad newydd roi gwybod i DVLA drwy lythyr. Tan hynny, efallai y bydd yr heddlu am gysylltu â chi os bydd yn rhaid iddynt wneud ymholiadau am y cerbyd.
Gwerthu eich cerbyd rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon
Os byddwch yn gwerthu eich cerbyd i rywun sydd â chyfeiriad naill ai ym Mhrydain Fawr neu yng Ngogledd Iwerddon, dylech chi a'r prynwr lenwi a llofnodi Adran 6 ac 8 y dystysgrif cofrestru (V5C neu V5CNI).
Yna dylid trosglwyddo ffurflen V5C neu V5CNI i'r ceidwad newydd er mwyn iddo allu ailgofrestru'r cerbyd naill ai ym Mhrydain Fawr neu yng Ngogledd Iwerddon. Er y bydd y ceidwad newydd yn ailgofrestru'r cerbyd, bydd yn rhaid i chithau hefyd ysgrifennu at DVLA neu'r Asiantaeth Gyrwyr a Thrwyddedau (DVA). Mae'n dal yn ofynnol i chi roi gwybod i DVLA neu DVA (yr awdurdod y mae'r cerbyd yn ei gadael) bod y cerbyd wedi cael ei werthu, er mwyn gwneud yn siŵr nad chi sy'n gyfrifol am y cerbyd mwyach.
Os ydych chi'n trosglwyddo eich cerbyd i fasnachwr moduro a'ch bod yn meddu ar dystysgrif cofrestru, dylech roi gwybod i DVLA ar unwaith drwy ddefnyddio'r rhan V5C/3 a rhoi gweddill y ffurflen i'r masnachwr.
Ar ôl rhoi gwybod i DVLA, dylech gael llythyr cydnabod o fewn pedair wythnos yn cadarnhau nad chi sy'n gyfrifol am y cerbyd mwyach.
Tynnwch eich disg treth o'r cerbyd a gallwch hefyd wneud cais am ad-daliad treth cerbyd ar gyfer unrhyw fisoedd calendr cyflawn sy'n weddill ar y ddisg treth.
Ni all y DVLA dalu eich ad-daliad nes y byddwch yn rhoi gwybod iddynt eich bod chi wedi gwerthu/trosglwyddo eich cerbyd.
Yn y cyd-destun hwn, mae masnachwr moduron yn golygu:
Bydd nodi milltiroedd y cerbyd yn y blwch priodol ar y dystysgrif cofrestru yn help yn y frwydr yn erbyn 'clocio' cerbydau. Ystyr hyn yw pan fydd odomedr y cerbyd (y sbidomedr) yn cael ei droi'n ôl i dwyllo a lleihau nifer y milltiroedd sydd ar y cloc.