Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cadw rhif cofrestru a sut i wneud cais

Fel ceidwad cofrestredig y cerbyd, gallwch wneud cais i dynnu rhif cofrestru oddi ar gerbyd a'i gadw ar ddogfen cadw rhif (V778) am flwyddyn, dwy flynedd neu dair blynedd. Gallwch gadw'r rhif cofrestru yn eich enw chi neu ddewis ei gadw yn enw rhywun arall.

Amodau ar gyfer cadw rhif cofrestru

Ni chewch gadw rhif cofrestru cerbyd sy’n dechrau gyda 'Q' neu 'NIQ' ar gyfer cerbydau cofrestredig yng Ngogledd Iwerddon.

Er mwyn cadw'r rhif cofrestru, mae’n rhaid i’r cerbyd:

  • fod wedi'i gofrestru gyda'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA)
  • fod ar gael ar gyfer archwiliad fod yn fath sy'n gorfod cael tystysgrif prawf MOT neu gerbyd nwyddau trwm (HGV)
  • fod wedi'i drethu ar hyn o bryd

Fodd bynnag, os nad yw'r cerbyd wedi'i drethu, cewch wneud cais i gadw'i rif o hyd ar yr amod:

  • nad oes saib rhwng y dyddiad y bydd y ddisg treth yn dirwyn i ben a dechrau’r HOS
  • ac y daw treth y cerbyd i ben lai na 12 mis cyn dyddiad eich cais

Sut i wneud cais

Anfonwch y canlynol i'ch swyddfa DVLA leol agosaf:

  • 'cais i drosglwyddo neu gadw rhif cofrestru cerbyd' V317W wedi'i lenwi
  • dogfen gofrestru ar gyfer y cerbyd neu’r atodiad ceidwad newydd gyda ffurflen V62W 'cais am dystysgrif cofrestru cerbyd V5C' wedi'i llenwi
  • tystysgrif prawf ar gyfer y cerbyd - bydd angen hwn ar gyfer ceir a beiciau modur dros dair mlwydd oed, ac ar gyfer cerbydau nwyddau trwm dros flwydd oed
  • y ffi i gadw'r rhif cofrestru - £105 am flwyddyn, £130 am ddwy flynedd neu £155 am dair blynedd

Os bydd yr atodiad ceidwad newydd wedi'i stampio gan swyddfa DVLA leol, bydd angen i chi lenwi ffurflen V62W 'cais am dystysgrif cofrestru cerbyd V5CW' cyn y gallwch wneud cais.

Os oes angen trethu'r cerbyd, dylech amgáu:

  • ffurflen V10W 'cais am ddisg treth' wedi'i llenwi neu'r nodyn atgoffa V11W
  • tystysgrif yswiriant neu nodyn yswiriant dilys
  • tâl am y dreth cerbyd

Beth sy'n digwydd nesaf

Mae'n bosibl y bydd angen i'ch swyddfa DVLA leol archwilio eich cerbyd a bydd yn cysylltu â chi i drefnu hyn. Oni fydd angen iddynt gynnal archwiliad, byddant yn cymeradwyo eich cais o fewn dwy wythnos.

Ar ôl cymeradwyo eich cais, bydd eich swyddfa DVLA leol yn anfon y canlynol atoch:

  • llythyr cadarnhad yn nodi'r rhif cofrestru newydd
  • disg treth newydd yn nodi'r rhif cofrestru newydd
  • llythyr awdurdodi (V948) er mwyn gwneud eich plât rhif
  • tystysgrif prawf MOT newydd ar gyfer ceir a beiciau modur dros dair oed, ac ar gyfer cerbydau nwyddau trwm dros flwydd oed

Nodwch os gwelwch yn dda, na fydd y dystysgrif prawf MOT yn cael ei hargraffu mewn gwyrdd bellach - bydd yn cael ei hargraffu mewn testun du ar gefndir gwyn yn lle hynny.
Ar ôl anfon eich cais, dylech adael dwy wythnos o leiaf cyn cysylltu â gwasanaeth ymholiadau cwsmeriaid DVLA os na fyddwch wedi derbyn y dogfennau hyn.

Bydd DVLA Abertawe yn anfon y canlynol atoch:

  • dogfen cadw rhif yn dangos mai chi yw'r grantî
  • dogfen gofrestru yn dangos y rhif cofrestru newydd

Dylai'r rhain gyrraedd o fewn pedair wythnos i gael y llythyr cadarnhad. Gall gymryd hyd at chwe wythnos os byddwch yn defnyddio ffurflen gais V62W er mwyn cefnogi eich cais.

Os ydych yn cadw'r rhif cofrestru dan enw rhywun arall, caiff y ddogfen cadw rhif ei hanfon ato ef neu hi, gan mai ef neu hi a gofnodwyd fel y grantî.

Y ceidwad cofrestredig sy’n gyfrifol am roi gwybod i’w darparwr yswiriant ynghylch y rhif cofrestru newydd.

Aseinio'r rhif cofrestru i'r cerbyd

Pan fyddwch yn barod, bydd angen y ddogfen cadw rhif arnoch i aseinio'r rhif cofrestru i'ch cerbyd. Mae’r nodiadau ar y ddogfen cadw rhif yn dweud wrthych beth i’w wneud.

Adnewyddu, cael dogfen newydd, neu ddiweddaru eich dogfen cadw rhif

Rhaid i chi adnewyddu'r ddogfen cadw rhif cyn y daw i ben, neu ei diweddaru os oes unrhyw newidiadau i'r manylion a ddangosir, er enghraifft, cyfeiriad newydd neu os byddwch yn ychwanegu neu'n newid manylion enwebai. Mae angen i chi gael dogfen newydd os aiff y ddogfen ar goll neu os caiff ei dwyn. Os daw'r ddogfen i ben, gallech golli eich hawl i'r rhif cofrestru.

Cerbydau cofrestredig Gogledd Iwerddon

Os ydych yn cofrestru cerbyd Gogledd Iwerddon ym Mhrydain Fawr, ac yn cadw'r rhif cofrestru, cynhelir prawf adnabod ar eich cais.

Allweddumynediad llywodraeth y DU