Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Prynu rhif cofrestru personol DVLA

Mae Rhifau Cofrestru Personol DVLA yn cynnig amrywiaeth o rifau cofrestru 'newydd' nas cyhoeddwyd y gallwch eu prynu ar-lein neu mewn arwerthiant. P'un ai os mai prynu rhif cofrestru i chi'ch hun, neu fel anrheg i rywun arall ydych chi, mae gweld beth sydd ar gael a phrynu rhif cofrestru yn gyflym ac yn hawdd.

Beth fyddech chi'n ei ddewis?

Gallwch weld ar-lein pa rifau cofrestru personol sydd ar gael a faint maen nhw'n ei gostio.

Mae prisiau'n dechrau o £250, ac yn cynnwys TAW a'r 'ffi aseinio' - y ffi mae DVLA yn ei chodi i roi'r rhif cofrestru ar y cerbyd.

Pan fyddwch yn barod, gallwch brynu ar-lein 24 awr y dydd.

Arwerthiannau rhifau cofrestru

Mae Adran Rhifau Cofrestru Personol DVLA hefyd yn cynnal arwerthiannau ar gyfer rhai rhifau cofrestru. Mae DVLA yn cynnal tua chwe arwerthiant y flwyddyn, ac mae pob un ohonynt yn gwerthu tua 1,500 o rifau cofrestru. Caiff manylion llawn am bob arwerthiant eu hysbysebu yn y wasg neu ar-lein.

Bidio'n bersonol yw'r ffordd fwyaf poblogaidd a chyffrous o brynu rhif cofrestru personol. Os na allwch fod yn bresennol yn yr arwerthiant, gallwch fidio dros y ffôn, drwy lythyr neu ar-lein.

Beth gewch chi am eich arian

Yr unig beth yr ydych yn ei brynu yw'r hawl i aseinio (rhoi) rhif cofrestru penodol i gerbyd sydd wedi'i gofrestru yn eich enw chi, neu yn enw person arall (yr enwebai), ac i ddangos y rhif ar y cerbyd hwnnw. Yr Ysgrifennydd Gwladol sy'n berchen ar bob rhif cofrestru.

Dim ond ar gyfer cerbyd sydd wedi'i gofrestru (neu ar fin ei gofrestru), ei drethu a'i ddefnyddio ym Mhrydain Fawr y gellir defnyddio rhifau cofrestru a brynir gan Adran Rhifau Cofrestru Personol DVLA.

Byddwch yn cael tystysgrif hawl (V750), a fydd yn cynnwys manylion:

  • y rhif cofrestru
  • y prynwr a'r enwebai
  • y dyddiad y bydd yr hawl i aseinio'r rhif cofrestru yn dod i ben

Gallwch ymestyn yr hawl am flwyddyn, dwy flynedd neu dair blynedd arall. Mae'n costio £25 i gadw'r rhif cofrestru am flwyddyn, £50 am ddwy flynedd neu £75 am dair blynedd.

Nid oes gan yr enwebai hawl i'r rhif cofrestru cerbyd nes caiff ei aseinio i’w gerbyd. Gallwch ychwanegu enwebai (os nad oes gennych un), neu newid enwebai unrhyw adeg neu pan fydd y rhif cofrestru yn cael ei aseinio.

Ar ôl aseinio'r rhif cofrestru personol

Bydd yr hawl i drosglwyddo neu gadw'r rhif cofrestru yn cael ei throsglwyddo i geidwad cofrestredig y cerbyd sy'n dangos y rhif cofrestru.

Allweddumynediad llywodraeth y DU