Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Adnewyddu neu ddiweddaru tystysgrif hawl

Gallwch adnewyddu neu ddiweddaru eich tystysgrif hawl (V750) ar-lein neu drwy'r post. Rhaid i chi ei hadnewyddu (ymestyn yr hawl) os yw ar fin dod i ben, neu ei diweddaru os oes unrhyw newidiadau i'r manylion a ddangosir, neu gael un newydd os byddwch wedi'i cholli neu os caiff ei dwyn.

Gwneud cais ar-lein gan ddefnyddio eich cyfrif ar-lein

Gan ddefnyddio 'Fy nghyfrif' ar-lein a ddarperir gan Adran Rhifau Cofrestru Personol DVLA, gallwch:

  • ymestyn eich hawl am flwyddyn arall - cewch e-bost yn eich atgoffa dwy wythnos cyn y daw'r dystysgrif i ben (gallwch hefyd ymestyn eich hawl am ddwy neu dair blynedd - gweler 'gwneud cais drwy'r post' isod)
  • ychwanegu neu newid enwebai
  • diweddaru manylion eich cyfeiriad
  • cael tystysgrif yn ei lle os byddwch wedi colli eich tystysgrif wreiddiol neu os bydd wedi'i dwyn
  • ychwanegu unrhyw rifau cofrestru yr ydych wedi'u prynu yn y gorffennol sydd ar dystysgrif hawl

Gwnewch yn siŵr fod gennych gerdyn debyd neu gerdyn credyd i dalu'r ffi o £25 er mwyn ymestyn eich hawl neu i ychwanegu neu newid enwebai.

Os bydd arnoch angen newid eich enw, neu'ch enw a'ch cyfeiriad, bydd angen i chi anfon eich tystysgrif hawl i DVLA i'w newid (gweler 'newid enw' isod).

Agor cyfrif ar-lein

Gallwch greu 'Fy nghyfrif' ar-lein er mwyn rheoli unrhyw rifau cofrestru rydych wedi'u prynu gan Adran Rhifau Cofrestru Personol DVLA.

Dim ond rhywun sy'n prynu rhif cofrestru all ychwanegu'r rhif hwnnw at gyfrif, gan nad oes gan yr enwebai ddim hawliau i'r rhif cofrestru tan y bydd wedi'i aseinio i'w gerbyd.

Gwneud cais drwy'r post

Adnewyddu'r dystysgrif (ymestyn yr hawl)

Yn fuan cyn i'r dystysgrif ddod i ben, anfonir nodyn atgoffa at y prynwr i ymestyn yr hawl am flwyddyn, dwy flynedd neu dair blynedd.

Llenwch y dystysgrif ac amgaewch ffi o £25 am flwyddyn, £50 am ddwy flynedd neu £75 am dair blynedd. Nid oes modd ad-dalu'r ffi ymestyn.

Os yw'r dystysgrif wedi dod i ben, rhaid i'r prynwr ei dychwelyd gyda'r ffi briodol a llythyr yn egluro pam mae'r cais yn hwyr. Bydd y cais yn cael ei ystyried.

Ychwanegu neu newid manylion enwebai

Gallwch ychwanegu neu newid manylion yr enwebai unrhyw adeg drwy'r post, neu pan fydd y rhif cofrestru personol yn cael ei aseinio i gerbyd yr enwebai yn un o swyddfeydd lleol DVLA.

Dylech lenwi'r dystysgrif gyda manylion yr enwebai ac amgáu'r ffi o £25. Rhaid i'r prynwr lofnodi'r dystysgrif.

Newidiadau i enw a chyfeiriad y prynwr oherwydd priodas neu ysgariad ayb

Bydd angen i'r prynwr ddychwelyd y ddogfen gyda llythyr esboniadol, gan amgáu unrhyw ddogfennau perthnasol i gefnogi'r newidiadau. Ni chodir tâl am hyn.

Gwallau ar y dystysgrif hawl

Bydd angen i'r prynwr ddychwelyd y dystysgrif gyda llythyr esboniadol yn rhoi manylion am y camgymeriadau, er enghraifft, gwallau sillafu. Ni chodir tâl am hyn.

Tystysgrif newydd yn lle un sydd ar goll neu wedi'i dwyn

Bydd angen i'r prynwr wneud cais am dystysgrif arall yn ysgrifenedig. Ni chodir tâl am hyn.

Beth y mae angen i chi ei anfon i Adran Rhifau Cofrestru Personol DVLA

Dylech ddychwelyd y dystysgrif hawl:

  • gyda'r adran briodol wedi'i llenwi a sicrhau ei bod wedi'i llofnodi gan y prynwr
  • gyda'r ffi briodol os oes angen - dylid gwneud sieciau'n daladwy i 'DVLA, Abertawe'
  • gyda llythyr esboniadol os oes angen, a hwnnw wedi'i lofnodi gan y prynwr

Anfonwch y rhain at Adran Rhifau Cofrestru Personol DVLA, DVLA, A2, Abertawe, SA99 1BW

Os nad yw'r dystysgrif hawl gennych am ba bynnag reswm, anfonwch lythyr esboniadol yn ei lle, wedi'i lofnodi gan y prynwr.

Pryd i ddisgwyl eich tystysgrif hawl newydd

Bydd tystysgrif hawl newydd yn cael ei phostio at y prynwr. Caniatewch dair i bedair wythnos iddi gyrraedd cyn cysylltu ag Adran Rhifau Cofrestru Personol DVLA ar 0300 123 0883.

Os yw prynwr neu enwebai yn marw

Os yw'r prynwr neu'r enwebai wedi marw, gall yr ysgutor neu'r buddiolwr wneud y canlynol:

  • gwneud cais am ildio'r ddogfen cadw rhif ac i'r ffi aseinio £80 gael ei had-dalu
  • gwneud cais am gael cadw'r rhif cofrestru ac ychwanegu eu manylion nhw ar y ddogfen cadw rhif

I wneud y cais yn ysgrifenedig, cysylltwch ag Adran Rhifau Cofrestru Personol DVLA, DVLA, A2, Abertawe, SA99 1BW, gan amgáu'r Dystysgrif Hawl a chopi o'r dystysgrif marwolaeth a'r grant profiant.

Allweddumynediad llywodraeth y DU