Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Prynu rhif cofrestru personol gan ddeliwr neu mewn gwerthiant preifat

Yn ogystal â phrynu rhif cofrestru cerbyd 'newydd' (nas cyhoeddwyd o'r blaen) yn uniongyrchol gan Rhifau Cofrestru Personol DVLA, gallwch hefyd brynu gan ddeliwr rhifau cofrestru neu gan fodurwr mewn gwerthiant preifat

Prynu gan ddeliwr rhifau preifat

Bydd delwyr yn gwerthu rhifau cofrestru nas cyhoeddwyd sydd wedi'u prynu gan Rhifau Cofrestru Personol DVLA, rhifau cofrestru sydd wedi'u cyhoeddi o'r blaen o'u stoc eu hunain, neu byddant yn gweithredu fel asiant i fodurwyr sydd am werthu eu rhif cofrestru.

P'un ai i chi'ch hun yr ydych yn prynu rhif cofrestru, neu fel anrheg i rywun arall, gallwch brynu rhif cofrestru gan ddeliwr mewn dwy ffordd:

Prynu ac aseinio

Bydd y deliwr yn trefnu'r gwerthiant ac yn rhoi'r rhif cofrestru ar y cerbyd i chi. Yna, cewch lythyr awdurdodi i greu'r plât rhif.

Prynu'n unig

Bydd y deliwr yn trefnu'r gwerthiant ac yn rhoi tystysgrif gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau i chi. Bydd angen i chi aseinio'r rhif cofrestru i'r cerbyd eich hun.

Os byddwch yn prynu rhif cofrestru 'newydd' nas cyhoeddwyd:

  • cewch dystysgrif hawl (V750) a fydd yn dangos y deliwr fel y 'prynwr' a'ch enw chi neu enw rhywun arall (os cafodd y rhif ei brynu fel anrheg) fel yr 'enwebai'

Os byddwch yn prynu rhif cofrestru a gyhoeddwyd o'r blaen:

  • cewch ddogfen cadw rhif (V778) a fydd yn dangos yr unigolyn sy'n gwerthu'r rhif cofrestru fel y 'grantî' a'ch enw chi neu enw rhywun arall (os cafodd y rhif ei brynu fel anrheg) fel yr 'enwebai'

Beth gewch chi am eich arian

Yr unig beth yr ydych yn ei brynu yw'r hawl i aseinio (rhoi) rhif cofrestru penodol i gerbyd sydd wedi'i gofrestru yn eich enw chi, neu yn enw person arall, ac i ddangos y rhif ar y cerbyd hwnnw. Yr Ysgrifennydd Gwladol sy'n berchen ar bob rhif cofrestru.

Mae'r dystysgrif hawl neu'r ddogfen cadw rhif:

  • yn dangos y rhif cofrestru
  • angen ei llofnodi gan y prynwr a enwir ar frig y dystysgrif hawl neu gan y grantî a enwir ar frig y ddogfen cadw rhif
  • yn dangos ar ba ddyddiad y bydd yr hawl i aseinio'r rhif cofrestru yn dod i ben
  • gellir ymestyn yr hawl am flwyddyn, dwy flynedd neu dair blynedd arall

Nid oes gan yr enwebai hawl i'r rhif cofrestru cerbyd nes caiff ei aseinio i’w gerbyd. Gallwch ychwanegu enwebai (os nad oes gennych un), neu newid enwebai unrhyw adeg neu pan fydd y rhif cofrestru yn cael ei aseinio.

Os yw'r deliwr yn cael ei enwi yn brynwr neu'n grantî, fel arfer, bydd angen iddo wneud hyn i chi ac fe all godi tâl arnoch am ei wasanaeth.

Dod o hyd i ddeliwr

Ceir rhestr o rai o’r delwyr rhifau cofrestru sy’n masnachu ar hyn o bryd ar wefan Rhifau Cofrestru Personol DVLA.

Noder: Ni fydd y DVLA yn cymryd cyfrifoldeb am unrhyw faterion sy’n codi o’r cyfeiriad hwn neu am gynnwys gwefannau trydydd parti.

Gellir hefyd dod o hyd i ddelwyr rhifau cofrestru ar y rhyngrwyd drwy’r rhan fwyaf o gyfleusterau chwilio.

Gwerthu'n breifat

Gallwch brynu gan fodurwr sydd am werthu rhif cofrestru personol:

  • sydd ar eu cerbyd – bydd y gwerthwr yn trefnu i drosglwyddo'r rhif cofrestru yn syth i'ch cerbyd chi a bydd angen i chi roi eich tystysgrif cofrestru (V5C) a'ch tystysgrif MOT i'r gwerthwr os oes angen un ar y cerbyd
  • sydd ar dystysgrif hawl neu ddogfen cadw rhif – bydd eich enw chi'n cael ei ychwanegu fel yr 'enwebai' a bydd angen i chi aseinio'r rhif cofrestru personol i'r cerbyd eich hun

Os nad oes gennych gerbyd, bydd y gwerthwr yn trefnu gyda DVLA i gadw'r rhif cofrestru ar ddogfen cadw rhif yn eich enw chi, hy eich enw chi a gofnodir fel y grantî.

Bydd angen i chi adnewyddu (ymestyn yr hawl) y dystysgrif hawl neu'r ddogfen cadw rhif os nad ydych yn gallu aseinio eich rhif cofrestru personol cyn y dyddiad a ddangosir arni.

Ar ôl aseinio'r rhif cofrestru personol

Bydd yr hawl i drosglwyddo neu gadw'r rhif cofrestru yn cael eu trosglwyddo i geidwad cofrestredig y cerbyd sy'n dangos y rhif cofrestru.

Allweddumynediad llywodraeth y DU