Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cael tystysgrif cofrestru newydd yn lle un sydd ar goll neu wedi'i dwyn

Rhaid i chi gael tystysgrif cofrestru (V5CW) newydd (llyfr log yn flaenorol) os yw'ch un chi ar goll, wedi'i dwyn, wedi'i difrodi neu ei difetha. Gallwch wneud cais drwy'r post gan ddefnyddio ffurflen gais V62W neu gael un arall dros y ffôn drwy ddefnyddio'ch cerdyn credyd neu'ch cerdyn debyd.

Gwnewch gais dros y ffôn ar 0300 790 6802

Gallwch wneud cais dros y ffôn:

  • os mai chi yw'r ceidwad cofrestredig ar y tystysgrif cofrestru
  • os nad yw eich enw, eich cyfeiriad na manylion eich cerbyd wedi newid
  • os oes gennych gerdyn debyd neu gredyd i dalu'r ffi o £25 - cost Tystysgrif Cofrestru arall

Gwneud cais drwy'r post

Bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • llenwi ‘Cais am Dystysgrif Cofrestru Cerbyd (V5C)’ V62W sydd ar gael i'w llwytho oddi ar y we, o unrhyw un o ganghennau Swyddfa'r Post® neu un o swyddfeydd lleol yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA).
  • amgáu'r ffi, sef £25
  • anfon eich ffurflen gais wedi'i llenwi i DVLA, Abertawe, SA99 1DD

Os yw manylion eich enw a'ch cyfeiriad wedi newid, fe allwch chi nodi hynny ar y ffurflen V62W yr un pryd.

Tystysgrif Cofrestru Wreiddiol wedi'i dinistrio gan gwmni yswiriant

Nid oes angen talu'r ffi o £25 os yw'r cerbyd wedi'i roi yng nghategori 'C' (gellir ei drwsio ond byddai'r costau atgyweirio'n uwch na gwerth y cerbyd) gan y diwydiant yswiriant. Fodd bynnag, rhaid talu'r £25 o ffi os yw'r cerbyd wedi'i roi yng nghategori A, B neu D. (A = sgrap yn unig; B = torri ar gyfer darnau sbâr yn unig; D = gellir ei drwsio). Bydd y DVLA yn cynnal archwiliadau i sicrhau bod y meini prawf ar gyfer y cerbyd yn cael eu bodloni.

I gael mwy o wybodaeth am y modd y bydd cerbydau'n cael eu categoreiddio, bydd angen i chi gysylltu â'ch cwmni yswiriant.

Pryd i ddisgwyl eich tystysgrif cofrestru newydd

Nod DVLA yw eich bod yn cael tystysgrif cofrestru o fewn wythnos os gwnaethoch gais dros y ffôn neu bedair wythnos os gwnaethoch gais drwy'r post. Gadewch o leiaf chwe wythnos i’ch tystysgrif cofrestru gyrraedd cyn cysylltu â DVLA os gwnaethoch gais drwy'r post.

Cael dogfennau newydd yn lle rhai eraill

Efallai y bydd angen i chi gael trwydded yrru neu dystysgrif MOT newydd yn lle rhai eraill.

Os bydd angen i chi gael tystysgrif yswiriant modur yn lle un arall, bydd angen i chi gysylltu â'ch cwmni yswiriant.

Os bydd angen i chi gael copi arall o ddogfen cadw rhif cofrestru personol, bydd angen i chi ysgrifennu at Cherished Transfers / Rhifau Arbennig, DVLA, Abertawe, SA99 1BW. Bydd dogfen wedi'i diweddaru yn cael ei rhoi i chi o fewn chwe wythnos.

Allweddumynediad llywodraeth y DU