Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae'n rhaid i chi roi gwybod i'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) ar unwaith beth yw union ddyddiad gwerthu neu drosglwyddo'ch cerbyd, gan ddefnyddio'r ddogfen neu'r dystysgrif cofrestru. Dylech chi a'r prynwr ddilyn y drefn gywir neu chi fydd yn atebol am y cerbyd nes bydd cofnodion DVLA wedi cael eu diweddaru.
Dylech roi gwybod i DVLA ar unwaith gan ddefnyddio rhan briodol y ddogfen neu'r dystysgrif cofrestru. Dylech hefyd gadw cofnod ar wahân o enw a chyfeiriad y prynwr.
Os ydych yn gwerthu i gwmni gwerthu ceir, dilynwch y ddolen isod i gael rhagor o wybodaeth.
Os oes gennych chi dystysgrif cofrestru, rhaid i chi lenwi rhan 6, ‘manylion y ceidwad newydd neu'r enw newydd/cyfeiriad newydd’ ffurflen V5C. Rhaid i chi a'r prynwr lofnodi rhan 8 ac anfon y ffurflen V5C ar unwaith i DVLA, Abertawe SA99 1BA. Bydd yn rhaid i chi hefyd roi rhan werdd ffurflen V5C/2 i'r prynwr, a honno wedi'i llenwi'n gywir.
Os ydych yn gwerthu'r cerbyd i ‘gwmni gwerthu ceir’ (gweler y canllawiau ar gefn ffurflen V5C/3 am ddiffiniad), bydd yn rhaid i chi lenwi’r rhan V5C/3.
Rhaid i chi hefyd gael manylion a llofnod y cwmni gwerthu ceir a’u hanfon drwy’r post i DVLA, Abertawe, SA99 1BD. Peidiwch â dibynnu ar neb arall i'w hanfon. Dylai rhannau glas a gwyrdd ffurflen V5C a V5C/2 (heb eu cwblhau), gael eu trosglwyddo wedyn i'r cwmni gwerthu ceir. Mae canllawiau, INS 160, ar gael i gyd-fynd â'r dystysgrif cofrestru. Gellir llwytho'r canllawiau hyn o'r ddolen isod.
Tynnwch eich disg treth o'r cerbyd a gallwch wneud cais am ad-daliad treth cerbyd ar gyfer unrhyw fisoedd calendr cyflawn sy'n weddill ar y ddisg treth. Ni all DVLA dalu’r ad-daliad i chi nes bydd wedi cael hysbysiad eich bod wedi gwerthu/trosglwyddo'ch cerbyd.
Os nad oes gennych dystysgrif cofrestru V5C mwyach
Os nad oes gennych chi dystysgrif cofrestru, mae’n dal yn bosib i chi roi gwybod i DVLA nad yw'r cerbyd gennych chi mwyach.
I wneud hyn, bydd angen i chi ysgrifennu at DVLA, Abertawe, SA99 1AR, gan nodi’r wybodaeth ganlynol:
Fodd bynnag, cofiwch na fydd cofnodion DVLA yn gyflawn nes i'r ceidwad newydd roi gwybod i DVLA drwy lythyr. Tan hynny, efallai y bydd yr heddlu am gysylltu â chi os bydd yn rhaid iddynt wneud ymholiadau am y cerbyd.
Ar ôl i chi roi gwybod i DVLA, cewch lythyr yn cydnabod hynny o fewn pedair wythnos a fydd yn cadarnhau nad ydych chi’n atebol am y cerbyd mwyach. Caniatewch bedair wythnos cyn cysylltu â'r DVLA os nad ydych wedi cael y llythyr.
Bydd angen i chi drosglwyddo neu gadw eich rhif cofrestru personol cyn i chi werthu’r cerbyd. Os na wnewch chi hynny, byddwch chi’n colli eich hawl i'r rhif cofrestru.