Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Sut i wneud datganiad HOS (Hysbysiad Oddi-ar-y-Ffordd Statudol)

Os mai chi yw ceidwad cofrestredig cerbyd sydd ddim yn cael ei drethu ac yn cael ei gadw oddi ar y ffordd, rhaid i chi wneud datganiad HOS (Hysbysiad Oddi-ar-y-Ffordd Statudol). Yma cewch wybod sut y gallwch wneud hyn ar-lein, dros y ffôn neu pan fyddwch yn gwneud cais am ad-daliad ar eich treth cerbyd.

Sut i wneud datganiad HOS

Gallwch wneud datganiad HOS ar-lein neu dros y ffôn cyn belled mai chi yw ceidwad cofrestredig y cerbyd. Wrth wneud datganiad HOS ar-lein gallwch argraffu’r dudalen gadarnhau ar gyfer eich cofnodion. Hefyd, os byddwch yn rhoi eich cyfeiriad e-bost wrth wneud datganiad HOS ar-lein cewch e-bost cadarnhau ar gyfer y trafodyn. Ni anfonir llythyr cadarnhau.

Gwneud datganiad HOS ar-lein

Defnyddiwch y cyfeirnod a ddangosir ar eich tystysgrif cofrestru V5CW, eich ffurflen atgoffa V11 neu’ch ffurflen atgoffa V85/1W i ddatgan bod eich cerbyd oddi ar y ffordd.

Gwneud datganiad HOS dros y ffôn

Ffoniwch 0300 123 4321 - defnyddiwch y cyfeirnod a ddangosir ar eich tystysgrif cofrestru V5C, eich ffurflen atgoffa V11W neu’ch ffurflen atgoffa V85/1W.

Wedi cofrestru fel ceidwad y cerbyd yn ddiweddar

Os ydych wedi dod yn geidwad cofrestredig y cerbyd ac wedi derbyn eich V5C yn ystod y mis presennol bydd angen i chi lenwi ffurflen V890W ‘Hysbysiad Oddi-ar-y-Ffordd Statudol’ (HOS) a’i hanfon at y DVLA, Abertawe SA99 1AR.

Er enghraifft, os daethoch yn geidwad ar 4 Rhagfyr ac wedi derbyn y V5C ar 26 Rhagfyr bydd angen i chi lenwi V890W. Os daethoch yn geidwad ar 28 Tachwedd ac wedi derbyn y V5CW ar 20 Rhagfyr gallech wneud datganiad HOS ar-lein neu dros y ffôn.

Heb gofrestru fel ceidwad y cerbyd eto

Os nad yw'r cerbyd eisoes wedi’i gofrestru yn eich enw, rhaid i chi lenwi adran chwech ac arwyddo adran wyth ar y V5C a llenwi ffurflen V890W. Os nad yw’r V5C gennych, bydd rhaid i chi lenwi ‘Ffurflen gais am Dystysgrif Cofrestru Cerbyd’ (V62W) (ffi yn daladwy). Anfonwch y V890W a V5C neu V62W i DVLA, Abertawe SA99 1AR.

Wrth wneud cais am ad-daliad neu ddychwelyd disg treth dim gwerth

Pan fyddwch chi’n gwneud cais am ad-daliad neu ddychwelyd disg treth dim gwerth, rhaid i chi wneud datganiad HOS. Gellir gwneud datganiad HOS ar y ffurflen gais V14W.

HOS neu dreth cerbyd yn dod i ben pan fyddwch chi dramor

Rhaid i’r cerbyd fod ym Mhrydain Fawr ac aros yno i chi wneud datganiad HOS. Gallwch wneud datganiad HOS hyd at ddau fis calendr ymlaen llaw. Llenwch ffurflen V890W ynghyd â llythyr yn esbonio pam eich bod yn gwneud cais cymaint ymlaen llaw a'u hanfon at DVLA, Abertawe SA99 1AR.

Gallwch wneud datganiad HOS ar-lein neu dros y ffôn pan fydd yn ddyledus, neu gael rhywun arall i anfon eich datganiad HOS at DVLA ar eich rhan tra'ch bod dramor.

Os ydych am adnewyddu’ch treth ymlaen llaw, cewch wneud hyn hyd at ddau fis calendr ymlaen llaw. Gallwch adnewyddu yn un o ganghennau Swyddfa'r Post® sy’n delio â cheisiadau ymlaen llaw neu yn un o swyddfeydd lleol yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA).

Prynu cerbyd sydd â datganiad HOS

Os ydych yn prynu cerbyd sydd eisoes â datganiad HOS a wnaed gan y ceidwad blaenorol, bydd y HOS hwnna yn dod i ben ar y dyddiad yr ydych chi’n prynu’r cerbyd. Mae’n rhaid i chi wneud HOS newydd os ydych yn cadw’r cerbyd heb ei drethu i ffwrdd o’r ffordd gyhoeddus. Ni allwch drosglwyddo HOS.

Sut i drethu os yw’ch cerbyd â HOS

Os ydych yn rhoi eich cerbyd yn ôl ar y ffordd, gallwch drethu’ch cerbyd ar unrhyw adeg gan ddefnyddio eich V5C. Gallwch wneud hyn ar-lein neu dros y ffôn.

Beth sy'n digwydd nesaf

Ar ôl gwneud datganiad HOS dylai DVLA anfon llythyr atoch yn cadarnhau hyn. Os na fyddwch wedi derbyn y llythyr ar ôl pedair wythnos o wneud y HOS, dylech gysylltu â llinell ymholiadau cwsmeriaid DVLA yn syth ar 0300 790 6802 (os ydych wedi gwneud HOS ymlaen llaw dylech aros 4 wythnos ar ôl ddyddiad terfyn y dreth neu HOS blaenorol).

Allweddumynediad llywodraeth y DU