Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os byddwch chi dramor pan fydd treth eich cerbyd yn dod i ben, mae modd i chi drethu eich cerbyd ar-lein, dros y ffôn, neu ofyn i rywun drethu’r cerbyd ar eich rhan. Gallwch hefyd drethu eich cerbyd cyn mynd dramor.
Defnyddiwch y cyfeirnod ar eich ffurflen atgoffa V11 neu'ch Tystysgrif Cofrestru i adnewyddu eich treth o'r pumed diwrnod yn y mis y daw eich disg treth gyfredol i ben. Dim ond i'r cyfeiriad a ddangosir ar ffurflen atgoffa V11 neu’r Dystysgrif Cofrestru y gellir anfon y ddisg treth. Gallwch ofyn i ffrind neu berthynas bostio hwn atoch i gyfeiriad dramor.
Gallwch adnewyddu’ch treth hyd at ddau fis calendr ymlaen llaw yn bersonol neu drwy’r post yn un o ganghennau Swyddfa'r Post® sy’n delio â cheisiadau ymlaen llaw neu yn un o swyddfeydd lleol yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA).
Dylech anfon y canlynol neu fynd â hwy gyda chi:
Newid enw a/neu gyfeiriad
Ysgrifennwch y manylion newydd neu unrhyw gywiriadau yn adran chwech eich Tystysgrif Cofrestru.
Os nad oes gennych Dystysgrif Cofrestru
Os mai chi yw ceidwad cofrestredig y cerbyd, gallwch lenwi ffurflen V62W ‘Cais am Dystysgrif Cofrestru Cerbyd (V5C)’ a rhaid anfon £25 gyda'r ffurflen (y ffi am Dystysgrif Cofrestru ddyblyg). Dylech eu cynnwys gyda’ch cais am dreth. Dim ond yn eich swyddfa DVLA leol agosaf y gallwch wneud cais.
Fe allwch lwytho'r ffurflen, neu nôl y ffurflen V62W o unrhyw un o ganghennau Swyddfa'r Post® neu swyddfa DVLA leol.
Anfon disg treth i gyfeiriad dramor
Darparwch y cyfeiriad tramor mewn llythyr esboniadol a'i gynnwys gyda’ch cais am dreth. Rhaid ysgrifennu eich cyfeiriad ym Mhrydain Fawr ar y ffurflen V10W 'Cais am ddisg treth’.
Gofynnwch i ffrind neu berthynas drethu’ch cerbyd gan ddefnyddio'r ffurflen atgoffa V11W neu ffurflen V10W ‘Cais am ddisg treth’ gyda’ch Tystysgrif Cofrestru. Gallant hwy roi'r ddisg treth ar eich cerbyd os yw'n dal ym Mhrydain Fawr neu bostio'r ddisg treth atoch os aethpwyd â'r cerbyd dramor.
Os byddwch yn mynd â'ch cerbyd dramor, mae'n rhaid parhau i'w drethu. Pan fyddwch yn dychwelyd o dramor, rhaid i chi fod â disg treth ddilys er mwyn gallu gyrru'ch cerbyd adref neu fe fyddwch yn cyflawni trosedd. Does dim consesiynau.
Os yw'ch cerbyd yn cael ei gadw oddi ar y ffordd ym Mhrydain Fawr pan rydych dramor ac nad ydych yn adnewyddu'ch treth, rhaid i chi roi gwybod i DVLA drwy wneud datganiad HOS (Hysbysiad Oddi-ar-y-Ffordd Statudol). Cewch wneud hyn hyd at ddau fis cyn i'r ddisg treth gyfredol neu'r datganiad HOS ddod i ben.