Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os byddwch yn mynd â'ch cerbyd o'r wlad yn barhaol bydd angen i chi ddweud wrth yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA). Os byddwch chi'n mynd â'ch cerbyd, neu gerbyd sydd wedi'i logi, o'r wlad dros dro, rhaid i chi fynd â'r dogfennau priodol gyda chi.
Pan eir â cherbyd a gofrestrwyd yn y Deyrnas Unedig (DU) o'r wlad am 12 mis neu ragor, fe'i ystyrir yn gerbyd sydd wedi'i allforio o'r DU yn barhaol.
Gallwch roi gwybod i DVLA drwy lenwi’r adran ‘Hysbysiad Allforio Parhaol’ (V5C/4) o’r dystysgrif cofrestru cerbyd (V5C), a’i anfon i DVLA, Abertawe SA99 1BD. Cadwch weddill y dystysgrif cofrestru oherwydd efallai y bydd ei hangen arnoch er mwyn gallu ailgofrestru'r cerbyd dramor. Bydd eich cerbyd yn rhwym wrth ofynion cyfreithiol y wlad newydd ar ôl iddo gael ei allforio.
Os nad oes gennych dystysgrif cofrestru, bydd angen tystysgrif allforio parhaol arnoch (V561). Gallwch lwytho 'Cais am dystysgrif allforio parhaol' - ffurflen V756 oddi ar y we, a dylech ei llenwi a'i hanfon i DVLA, Abertawe, SA99 1AG.
Gan fod eich cerbyd yn aros yn y DU, yr unig beth y mae angen i chi ei wneud yw llenwi’r adran newid cyfeiriad ar eich ffurflen, sef V5C (symud o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon) a'i hanfon i swyddfa DVLA leol, neu eich ffurflen V5CNI (symud o Ogledd Iwerddon i Brydain Fawr) a'i hanfon i swyddfa DVLA leol.
Pan fyddwch yn symud y cerbyd o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon dylech adael y ddisg treth bresennol ar y cerbyd nes mae’n dod i ben, ac yna ei ail drethu yng Ngogledd Iwerddon.
Nid yw’r ffurflen V561 yn berthnasol mwyach pan fo cerbydau'n symud rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon.
Bydd angen i chi drosglwyddo neu gadw’ch rhif cofrestru personol cyn i chi allforio’ch cerbyd. Os nad ydych yn gwneud hynny, byddwch yn colli’ch hawl i’r rhif cofrestru.
Dim ond os ydych chi’n bodloni’r meini prawf cywir y cewch fynd â cherbyd dramor o dan y cynllun allforio uniongyrchol neu bersonol.
Allforio uniongyrchol
Os ydych chi’n prynu cerbyd o dan y ‘cynllun allforio uniongyrchol’ mae’n rhaid mynd â’r cerbyd dramor heb iddo gael ei ddefnyddio ar ffyrdd y DU. Nid oes rhaid i chi dalu ffi i gofrestru am y tro cyntaf na threth cerbyd.
Y swyddfeydd DVLA lleol sy’n delio ag allforio uniongyrchol yw:
Birmingham, Chelmsford, Northampton, Wimbledon.
Ar ôl i’r cerbyd gael ei allforio, dylai’r gwneuthurwr neu’r ymgeisydd ddychwelyd y rhan briodol o’r dystysgrif allforio uniongyrchol (V308) i’r swyddfa leol.
Allforio personol
O dan y cynllun ‘allforio personol’, gall cerbyd gael ei ddefnyddio ar ffyrdd y DU am amser cyfyngedig cyn cael ei allforio i wlad y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd. Mae’n rhaid i chi un ai fod yn ymwelydd â’r DU o dramor neu yn preswylio yn y DU ond yn bwriadu byw y tu allan i’r DU am chwe mis.
Gall y sawl sy’n preswylio yn y DU ddefnyddio’r cerbyd yn y DU am hyd at chwe mis ond mae’n rhaid trethu’r cerbyd. Gall ymwelwyr o dramor ddefnyddio’r cerbyd am hyd at 12 mis heb dreth. Bydd nod cofrestru yn cael ei roi o’r gyfres ‘XA - XF’ yn ogystal â thystysgrif cofrestru pinc (VX302). Bydd rhaid i’r cerbydau hyn dalu ffi i gofrestru am y tro cyntaf.
Y swyddfeydd DVLA lleol sy’n delio ag allforio personol yw:
Beverley, Birmingham, Bryste, Chelmsford, Glasgow, Leeds, Lincoln, Maidstone, Manceinion, Northampton, Norwich, Rhydychen, Stockton, Wimbledon.
Os eir â cherbyd a gofrestrwyd yn y DU dramor dros dro, mae'n dal yn rhwym wrth gyfraith y DU. Mae hyn yn golygu ei bod yn rhaid i chi fel y ceidwad, yn ôl y gyfraith, sicrhau bod y cerbyd yn dal wedi'i drethu tra caiff ei ddefnyddio dramor. Cyn belled â bod gan y cerbyd dystysgrif MOT gyfredol ac yswiriant, bydd yn bosib i chi drethu'r cerbyd.
Os na fyddwch yn trethu'r cerbyd ac yn dod ag ef yn ôl i'r DU heb ei drethu, bydd angen cludo'r cerbyd yn ôl i'r DU, nid ei yrru, a datgan HOS (Hysbysiad Oddi-ar-y-Ffordd Statudol) arno ar unwaith.
Gallwch drethu neu ddatgan HOS ar-lein neu dros y ffôn, ond dylid nodi na ellir datgan HOS tra mae’r cerbyd dramor.
Os nad oes gennych chi dystysgrif cofrestru ac os ydych chi am fynd â’r cerbyd o’r wlad dros dro, gallwch gael un newydd gan DVLA drwy ffonio neu wneud cais drwy’r post.
Gall y dystysgrif cofrestru gymryd hyd at bedair wythnos i gyrraedd. Os byddwch chi'n teithio yn ystod y cyfnod hwn, bydd angen i chi wneud cais am dystysgrif cofrestru dros dro (V379), sydd ar gael o swyddfa DVLA leol. Bydd angen i chi ddarparu prawf o bwy ydych chi, a chodir tâl am y gwasanaeth.
Dylech sicrhau eich bod yn bodloni unrhyw amodau rhyngwladol a chenedlaethol o ran trwyddedu a threthu.
Os ydych chi’n berchen ar gerbyd milwrol ac yn dymuno mynd â’ch cerbyd i wlad arall, bydd angen i chi wneud cais am Drwydded Allforio Cyffredinol Agored. I gael mwy o wybodaeth, gweler dolen yr Adran Busnes.
Fel arfer, bydd tystysgrif cofrestru cerbyd sydd wedi’i logi, ei hurio neu ei rentu, yn cael ei chadw'n ddiogel gan y cwmni sy'n cyflenwi’r cerbyd. Os byddwch yn teithio dramor, mae'n bwysig y gallwch ddangos bod gennych hawl i ddefnyddio'r cerbyd. Mae tystysgrif Cerbyd ar Log (VE 103) ar gael fel tystiolaeth o hyn. Gellir cael y dystysgrif gan y cyrff canlynol (mae ffi fechan i'w thalu):