Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Beth yw'r cynllun Cymeradwyaeth Cerbyd Sengl?

Archwiliad cyn-gofrestru yw'r cynllun Cymeradwyaeth Cerbyd Sengl (SVA), ar gyfer cerbydau nwyddau pwrpas arbennig sydd heb gael eu cymeradwyo yn ôl math i safonau Prydeinig neu Ewropeaidd. Caiff archwiliad SVA ei gynnal ar gerbydau eraill sydd heb gael eu cymeradwyo i safonau Prydeinig neu Ewropeaidd.

Cerbydau y mae angen cynnal archwiliad SVA arnynt

Caiff archwiliad SVA ei gynnal ar eich cerbyd os yw’n llai na 10 oed ac yn cael ei drwyddedu a’i gofrestru yn y DU am y tro cyntaf.

Mae’r cynllun yn berthnasol i gerbydau nwyddau pwrpas arbennig sydd â phwysau gros o ddim mwy na 3500 cilogram.

Ystyrir cerbydau arfog yn gerbydau pwrpas arbennig. Bydd cerbydau sy’n llwyddo yn yr archwiliad SVA yn cael ‘Tystysgrif Cymeradwyaeth Gweinidog’.

Bydd y cynllun Cymeradwyaeth Cerbyd Sengl yn berthnasol i gerbydau nwyddau sydd ag uchafswm pwysau gros o ddim mwy na 3500 cilogram a cherbydau ar gyfer teithwyr nad ydynt wedi'u rhestru uchod.

Cynllun Cymeradwyaeth Cerbyd Sengl i Feiciau Modur (MSVA)

Rhaid i feiciau modur, cerbydau tair olwyn a cherbydau pedair olwyn ysgafn gydymffurfio â chynllun Cymeradwyaeth Math Cerbyd Cyfan y Gymuned Ewropeaidd (ECWVTA). Heb y gymeradwyaeth hon, ni ellir cofrestru cerbydau i'w defnyddio ym Mhrydain Fawr.

Oni ellir dangos Tystysgrif Cydymffurfio â ECWVTA, yna bydd yn rhaid i’r cerbyd gael archwiliad MSVA cyn y gellir rhoi'r drwydded gyntaf. Os nad yw MSVA ar gael, yr unig ffordd o gofrestru'r cerbyd ym Mhrydain fyddai'r gymeradwyaeth math llawn. Mae’r broses hon yn ddrud ac yn cymryd llawer o amser, a byddai’n rhwystro cerbydau nad ydynt yn cydymffurfio ag ECWVTA, megis cerbydau wedi’u haddasu’n arbennig, cerbydau wedi’u hadeiladu gan amaturiaid a cherbydau wedi’u mewnforio o’r tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd.

Mwy o ddolenni defnyddiol

I gael rhagor o wybodaeth am y Cynllun Cymeradwyaeth Cerbyd Sengl a'r Cynllun Cymeradwyaeth Cerbyd Sengl i Feiciau Modur, megis ffurflenni cais, adroddiadau model a chanllawiau gwybodaeth, ewch i wefan yr Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr (VOSA).

Allweddumynediad llywodraeth y DU