Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Y cynllun Cymeradwyaeth Cerbyd Unigol

Os ydych chi’n mewnforio neu’n adeiladu cerbydau modur yn unigol neu mewn niferoedd bach iawn, gallai’r cynllun Cymeradwyaeth Cerbyd Unigol (IVA) fod yn berthnasol i chi. Mae archwiliad y cynllun yn gwirio bod eich cerbyd yn bodloni safonau’r DU er mwyn i chi ei gofrestru. Cewch wybod yma sut mae’r cynllun yn gweithio a phwy sy’n gallu ei ddefnyddio.

Sut mae’r cynllun yn gweithio

Mae’r archwiliad IVA yn gwirio’ch cerbyd i sicrhau ei fod wedi’i ddylunio a’i adeiladu i fodloni safonau diogelwch ac amgylcheddol modern ar gyfer ei ddefnyddio ar ffyrdd y DU.

Mae archwilwyr o’r Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr yn cynnal archwiliadau mewn safleoedd cymeradwy ym Mhrydain Fawr. Yr Asiantaeth Gyrwyr a Cherbydau sy’n cynnal archwiliadau yng Ngogledd Iwerddon.

Os bydd eich cerbyd yn pasio archwiliad IVA, bydd yr archwilydd yn rhoi Tystysgrif Cymeradwyaeth Unigol i chi. Wedyn, bydd modd i chi gofrestru’r cerbyd â’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau gan ddefnyddio’r dystysgrif.

Pwy all ddefnyddio'r cynllun hwn?

Gallwch chi ddefnyddio’r cynllun os ydych chi:

  • yn adeiladu, yn dylunio neu’n gwerthu ceir cit
  • yn mewnforio ceir o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd – yn enwedig y Dwyrain Pell a Gogledd America
  • yn ailadeiladu ceir hŷn gan wneud newidiadau sylweddol
  • yn arbenigo mewn newid cerbydau newydd yn gerbydau sy'n hwylus i gadeiriau olwyn
  • yn cynhyrchu nifer fach o gerbydau
  • yn cynhyrchu neu’n mewnforio ôl-gerbydau
  • yn cynhyrchu neu’n mewnforio cerbydau teithwyr
  • yn cynhyrchu neu’n mewnforio cerbydau nwyddau

Gallwch gael gwybod mwy am y cynllun hwn ac am fathau eraill o gynlluniau cymeradwyo math cerbyd ar wefan Business Link.

Cerbydau sy’n gymwys ar gyfer y cynllun

Mae’r cynllun yn berthnasol i'r mathau canlynol o gerbydau, gan gynnwys cerbydau at ddefnydd personol:

  • ceir teithwyr a cherbydau nwyddau ysgafn
  • cerbydau mwy sy'n cludo teithwyr, fel bysiau a bysiau moethus
  • cerbydau nwyddau o faint trwm a chanolig, fel tryciau a cherbydau nwyddau trwm
  • ôl-gerbydau

Dyddiadau cychwyn y cynllun

Bydd y cynllun yn cymryd lle’r cynllun Cymeradwyaeth Cerbyd Sengl (SVA) dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.

Bydd y cynllun yn cael ei gyflwyno ar ddyddiadau gwahanol ar gyfer gwahanol gerbydau, ond bydd dewis ar gael i’w ddefnyddio yn lle cynlluniau eraill tan y dyddiad cyflwyno.

Dyddiad dechrau’r cynllun

Math o gerbyd

29 Ebrill 2009

Ceir teithwyr

29 Hydref 2010

Cerbydau mwy sy’n cludo teithwyr

29 Hydref 2011

Cerbydau nwyddau ysgafn – bydd y rhain yn dal i gael eu harchwilio dan y cynllun Cymeradwyaeth Cerbyd Sengl (SVA) nes caiff ei ddisodli gan y cynllun IVA

29 Ebrill 2012

Cerbydau at ddibenion arbennig, megis cerbyd sydd â darpariaeth arbennig i gludo cadair olwyn

29 Hydref 2012

Cerbydau nwyddau canolig a thrwm ac ôl-gerbydau

Os ydych chi’n defnyddio'r cynllun SVA ar gyfer ceir teithwyr neu gerbydau nwyddau ysgafn ar hyn o bryd, bydd angen i chi ddechrau defnyddio'r cynllun IVA ar yr adeg briodol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU