Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae'r tabl isod yn rhestru'r ffioedd ar hyn o bryd ar gyfer pob math o brofion Cymeradwyaeth Cerbyd Sengl (SVA).
SVA sylfaenol - cerbydau nwyddau ysgafn diben arbennig yn unig
Math o brawf (Statudol) |
Ffi yn ystod oriau gweithio arferol | Ffi y tu allan i oriau gweithio arferol |
---|---|---|
Prawf SVA Sylfaenol (neu brawf apelio) | £83.00 | £117.00 |
Cymeradwyaeth Cerbyd Sengl Estynedig (ESVA) - cerbydau nwyddau ysgafn diben arbennig yn unig
Math o brawf (Statudol) |
Ffi yn ystod oriau gweithio arferol |
Ffi y tu allan i oriau gweithio arferol |
---|---|---|
Prawf ESVA gydag adroddiad model – Dosbarth R |
£138.00 |
£172.00 |
Prawf ESVA heb adroddiad model – Dosbarth R |
£124.00 |
£158.00 |
Tystysgrif *E a phrawf ESVA gydag adroddiad model |
£138.00 |
£165.00 |
Tystysgrif *E a phrawf ESVA heb adroddiad model |
£124.00 |
£151.00 |
ESVA ar gyfer cerbyd newydd gyda chymeradwyaeth math y Gymuned Ewropeaidd |
£41.00 |
£68.00 |
Tystysgrif *E |
£83.00 |
£83.00 |
Eitemau ychwanegol
Math o brawf | Ffi yn ystod oriau gweithio arferol |
Ffi y tu allan i oriau gweithio arferol |
---|---|---|
Ailbrofi statudol |
£21.00 |
£29.00 |
Tâl am beidio â mynychu prawf neu'r arholwr yn gwrthod profi |
£70.00 |
£70.00 |
Tystysgrif ddyblyg neu un newydd yn lle hen un |
£13.00 |
£13.00 |
Cymeradwyaeth Cerbyd Sengl i feiciau modur
Math o brawf | Ffi yn ystod oriau gweithio arferol |
Ffi y tu allan i oriau gweithio arferol |
---|---|---|
Moped pŵer isel (Moped gyda phedalau, gyda gyriad atodol heb fod yn fwy na 1kw a chyflymder uchaf o 25cya [16mya]) |
£55.00 |
£79.00 |
Cerbyd dwy olwyn (gan gynnwys beic modur a cherbyd ochr) |
£85.00 |
£109.00 |
Cerbyd tair neu bedair olwyn |
£104.00 |
£128.00 |
Ailbrofi |
£17.00 |
Amherthnasol |
Tystysgrif ddyblyg neu un newydd yn lle hen un |
£12.00 |
£12.00 |
Noder: Ystyr ‘Cerbyd Diben Arbennig’ yw cerbyd a fwriadwyd i berfformio gweithrediad sy’n gofyn am drefniadau corfforol arbennig a/neu gyfarpar, megis cerbyd arfog.
Bydd rhaid talu ffi'r prawf llawn perthnasol wrth wneud cais am apelio. Caiff hwn ei dalu'n ôl os yw'r apêl yn llwyddiannus. Codir costau ychwanegol am brofi cerbydau y tu allan i'n horiau gweithio arferol, sef rhwng 8.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Iau, a rhwng 8.00 am a 4.30 pm ddydd Gwener.
Y prawf sylfaenol yw'r prawf SVA safonol, lle nad yw'r elfennau estynedig yn berthnasol.
Mae'r ffi ar gyfer Tystysgrif *E yn cynnwys rhoi a chofnodi Tystysgrif Cymeradwyaeth Gweinidog gan ddefnyddio tystiolaeth archwiliad SVA a gynhaliwyd gan awdurdod cymwys Aelod-Wladwriaeth arall yn yr UE.
Mae prawf SVA estynedig gydag adroddiad model yn cynnwys cynnal y prawf SVA safonol a chymharu ag elfen Estynedig y prawf, gan gynnwys cymharu'r cerbyd â'r manylebau yn yr adroddiad model.
Mae prawf SVA heb adroddiad model yn cynnwys cynnal prawf SVA safonol a chymharu'r cerbyd â'r dystiolaeth ddogfennol a ddarparwyd i ddangos bod y cerbyd yn cydymffurfio ag elfennau ESVA y prawf.
Mae Tystysgrif *E a phrawf ESVA, gydag adroddiad model, yn cynnwys rhoi a chofnodi Tystysgrif Cymeradwyaeth Gweinidog gan ddefnyddio tystiolaeth archwiliad SVA safonol a gynhaliwyd gan awdurdod cymwys Aelod-Wladwriaeth arall yn yr UE. Caiff elfen estynedig y prawf ei gynnal gan staff yr Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr (VOSA) ac mae'n golygu cymharu'r cerbyd â'r manylebau yn yr adroddiad model.
Mae Tystysgrif *E a phrawf ESVA, heb adroddiad model, yn cynnwys rhoi a chofnodi Tystysgrif Cymeradwyaeth Gweinidog gan ddefnyddio tystiolaeth archwiliad SVA safonol a gynhaliwyd gan awdurdod cymwys Aelod-Wladwriaeth arall yn yr UE. Caiff elfen estynedig y prawf ei gynnal gan staff VOSA ac mae'n golygu cymharu'r cerbyd â thystiolaeth ddogfennol a ddarparwyd i ddangos bod y cerbyd yn cydymffurfio gydag elfennau ESVA y prawf.
Mae ESVA ar gyfer cerbyd newydd gyda Chymeradwyaeth Math y Gymuned Ewropeaidd yn cynnwys archwilio'r marciau ar y ceir i'w cadarnhau, pan na fydd angen cynnal prawf SVA safonol ar y cerbyd.