Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cofrestru cerbyd a fewnforiwyd

Pan gaiff cerbyd ei fewnforio i'w ddefnyddio ym Mhrydain Fawr, mae'n rhaid ei gofrestru a'i drethu gyda'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA). Rhaid gwneud hyn cyn gynted â phosib gan na ellir defnyddio'r cerbyd na'i gadw ar ffyrdd cyhoeddus nes caiff ei gofrestru a'i drethu.

Cerbydau newydd

Gellir gyrru cerbyd 'newydd sbon' i Brydain Fawr a'i gofrestru fel cerbyd 'newydd' ar yr amod:

  • bod y cerbyd yn cael ei gofrestru o fewn dwy wythnos ar ôl ei gasglu - gellir ymestyn hyn i un mis calendr mewn cyfnodau brig e.e. cyn 1 Mawrth a 1 Medi

  • nad yw'r cerbyd wedi teithio mwy na phellter rhesymol - i DVLA, mae pellter rhesymol yn golygu gyrru'r cerbyd o'r man casglu yn syth i'r cartref
  • nad yw'r cerbyd wedi cael ei gofrestru'n barhaol o'r blaen
  • bod y cerbyd wedi cael ei storio cyn ei gofrestru a’i fod yn fodel cyfredol neu’n fodel y mae ei wneuthuriad wedi dod i ben o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf

Cyngor i unrhyw un sy'n mewnforio cerbydau i'w i gludo cerbydau yn hytrach na'u gyrru o'r porthladd i'w cyrchfan gyntaf.

Mae'n rhaid i gerbydau newydd gael tystysgrif cydymffurfio fel tystiolaeth o gymeradwyaeth math gan ddarparwr neu adeiladwr y cerbyd.

Bydd angen i gerbydau gyriant llaw chwith o'r Gymuned Ewropeaidd gael tystysgrif, a gyhoeddir gan yr Asiantaeth Tystysgrifo Cerbydau (VCA), dan y Cynllun Cyd-gydnabyddiaeth. Bydd y dystysgrif hon yn dangos bod newidiadau wedi cael eu gwneud i'r cerbyd er mwyn ei wneud yn addas i'w ddefnyddio ar ffyrdd Prydain.

Bydd yn rhaid i gerbydau nad ydynt wedi cael cymeradwyaeth math Ewropeaidd gael un o’r profion canlynol, sef:

  • car - Cymeradwyaeth Cerbyd Unigol (IVA)
  • cerbyd nwyddau ysgafn - prawf Cymeradwyaeth Cerbyd Sengl (SVA) os ydyw’n pwyso hyd at 3,000 kg
  • beic modur neu feic pedair olwyn (cwad) - Cymeradwyaeth Cerbyd Sengl beic modur (MSVA)

Gallwch yrru eich cerbyd i apwyntiad a drefnwyd ymlaen llaw ac oddi yno cyn i'r cerbyd gael ei gofrestru.

Pecyn gwybodaeth am fewnforio

Gallwch archebu 'pecyn mewnforio' drwy wasanaeth archebu ffurflenni DVLA. Mae hwn yn darparu'r holl wybodaeth a'r ffurflenni angenrheidiol y mae eu hangen arnoch er mwyn cofrestru cerbyd a fewnforiwyd.

Cerbyd ail-law

Fel rhan o’r broses gofrestru, mae’n rhaid i DVLA fod yn sicr fod cerbyd ail-law a fewnforiwyd, sy’n llai na deg mlwydd oed, yn bodloni’r safonau angenrheidiol.

Y safonau yw:

  • safonau cymeradwyaeth math Ewropeaidd
  • gwneuthuriad a defnydd yn y DU
  • deddfwriaethau ar oleuo cerbydau ffordd

Bydd yn rhaid i geir, beiciau modur a cherbydau nwyddau ysgafn a gofrestrwyd am y tro cyntaf mewn Aelod-wladwriaeth Ewropeaidd arall gael tystysgrif a gyhoeddir gan yr Asiantaeth Tystysgrifau Cerbydau (VCA) dan y cynllun Cyd-gydnabyddiaeth. Bydd angen cymeradwyaeth math llawn y DU ar gerbydau nwyddau mawr cyn y gellir eu cofrestru.

Bydd yn rhaid i geir, beiciau modur a cherbydau nwyddau ysgafn a gofrestrwyd am y tro cyntaf mewn gwlad y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd basio'r prawf IVA, SVA neu MSVA, fel y bo'n briodol.

Cerbydau sy'n symud rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon

Nid yw cerbydau a gofrestrir yng Ngogledd Iwerddon ac sy'n cael eu symud i Brydain Fawr bellach yn cael eu dosbarthu fel cerbydau a fewnforir i Brydain Fawr. Hefyd, nid yw cerbydau a gofrestrir ym Mhrydain Fawr ac sy'n cael eu symud i Ogledd Iwerddon bellach yn cael eu dosbarthu fel cerbydau a fewnforir i Ogledd Iwerddon.

Gall y cerbydau hyn gadw eu platiau cofrestru Prydain Fawr neu Ogledd Iwerddon a'u disgiau treth, neu gellir gwneud cais am gael y plât cofrestru priodol ar gyfer lle bynnag y cânt eu symud.

Dylid defnyddio’r dystysgrif cofrestru cerbyd Gogledd Iwerddon (V5CNI) i gynorthwyo'r broses gofrestru ym Mhrydain Fawr, a dylid gwneud ceisiadau mewn swyddfa DVLA leol. Dylid defnyddio’r dystysgrif cofrestru cerbyd (V5C) i gynorthwyo’r broses gofrestru yng Ngogledd Iwerddon. Dylid gwneud ceisiadau yn yr Asiantaeth Gyrwyr a Cherbydau (DVA), Coleraine.

Yswirio eich cerbyd

Cyn i chi allu cofrestru a threthu eich cerbyd, bydd angen i chi gael tystysgrif yswiriant Prydeinig gan ddefnyddio’r Rhif Adnabod Cerbyd (VIN) o'ch cerbyd chi.

Bydd Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain (BIBA) yn gallu rhoi gwybodaeth i chi am froceriaid yswiriant sy'n darparu'r math yma o yswiriant. Gallwch gysylltu â BIBA ar 0870 950 1790 neu drwy anfon neges e-bost i: enquiries@biba.org.uk

Treth cerbyd

Bydd treth cerbyd yn daladwy yn unol â dyddiad cofrestru'r cerbyd am y tro cyntaf yn y DU. Os yw'r cerbyd wedi'i gofrestru dramor yn y gorffennol, bydd y dyddiad y caiff ei gofrestru am y tro cyntaf yn y DU yn pennu swm y dreth cerbyd sy'n daladwy. Hefyd, bydd DVLA yn dyrannu rhif cofrestru cerbyd priodol ar gyfer cofrestru'r cerbyd dramor am y tro cyntaf.

Cofrestru a threthu'r cerbyd

Gallwch wneud cais i gofrestru yn eich swyddfa DVLA leol agosaf. Mae’r cais yn cymryd rhyw wythnos. Nid oes gwasanaeth 'dros y cownter'.

Bydd angen i chi fynd â'r dogfennau canlynol i'ch swyddfa DVLA leol (ni dderbynnir copïau sydd wedi’u llungopïo neu ffacsio):

  • ffurflen gais V55/4 (ar gyfer cerbydau newydd) neu V55/5 (ar gyfer cerbydau ail-law) wedi'i llenwi
  • ffi gofrestru o £55 (os yw'n berthnasol) a'r ffi ofynnol ar gyfer y dreth cerbyd (dylech wneud sieciau neu archebion post yn daladwy i DVLA Abertawe)
  • tystysgrif yswiriant Prydeinig cyfredol
  • dogfen gofrestru dramor ac unrhyw bapurau eraill sy'n ymwneud â'r cerbyd
  • tystiolaeth yn dangos dyddiad casglu'r cerbyd (fel arfer yr anfoneb gan y cyflenwr)
  • tystiolaeth o gymeradwyaeth math
  • tystysgrif MOT Brydeinig gyfredol (os yw'n berthnasol)
  • ffurflen briodol Cyllid a Thollau EM
  • ffurflen V267 'Datganiad bod cerbyd yn newydd' (os yw'n berthnasol), y gellir ei llwytho oddi ar y we neu ei chael drwy gysylltu â swyddfa DVLA leol
  • dogfennau yn cadarnhau eich enw a'ch cyfeiriad (ceir rhestr o ddogfennau adnabod derbyniol drwy ddilyn y ddolen isod)

Ni fydd modd cofrestru na threthu'r cerbyd oni bai eich bod yn darparu'r dogfennau angenrheidiol. Mewn rhai achosion, mae’n bosib y bydd y swyddfa DVLA leol yn dymuno gweld y cerbyd er mwyn gofalu bod y manylion yn ddilys.

Gofynion gwneuthuriad a defnydd

Rhaid i gerbydau sy’n cael eu cadw neu eu defnyddio ar y ffordd gyhoeddus yn y DU gydymffurfio bob amser â’r Rheoliadau Cerbydau’r Ffordd (Gwneuthuriad a Defnydd) 1986 (fel y’u diwygiwyd).

Nid yw copïau o’r rheoliadau ar gael gan yr Adran Drafnidiaeth na’r DVLA. Fe ellir eu cael gan unrhyw lyfrgell neu fe ellir eu harchebu gan Y Llyfrfa (TSO).

Allweddumynediad llywodraeth y DU