Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Y Dystysgrif Cofrestru Cerbyd (V5C)

Mae Tystysgrifau Cofrestru Cerbyd (V5C) yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) bellach yn cael eu cyflwyno ar eu newydd wedd. Mae’r V5C coch newydd yn dangos yn glir nad yw'n brawf o berchnogaeth. Mae hefyd yn darparu manylion ynghylch lle i gael cyngor ar brynu cerbyd sydd wedi cael ei ddefnyddio.

Beth yw’r V5C?

Mae'r V5C, a elwir yn aml yn 'llyfr log', yn dystysgrif sy'n cael ei roi pan fydd cerbyd yn cael ei gofrestru gyda DVLA. Bydd y V5C yn cael ei anfon at y ceidwad cofrestredig, sef yr unigolyn sy'n gyfrifol am gofrestru a threthu'r cerbyd. Nid hwn fydd perchennog y cerbyd o anghenraid.

Mae'r wybodaeth a ddangosir ar y dystysgrif yn cynnwys:

  • rhif cofrestru'r cerbyd
  • enw a chyfeiriad ceidwad y cerbyd
  • gwybodaeth bwysig arall am y cerbyd (math, rhif adnabod y cerbyd a rhifau'r ceidwaid blaenorol)

Nid yw'r V5C yn brawf o berchnogaeth gan mai ceidwaid ac nid perchnogion y mae DVLA yn eu cofnodi. Er nad yw'r V5C yn brawf o berchnogaeth, ddylech chi ddim prynu cerbyd heb un.

Sut mae'r V5C wedi newid?

Y newid amlycaf yw'r lliw. Mae'r tu blaen yn goch yn hytrach na glas ac mae'r adrannau gwybodaeth i gwsmeriaid ar y cefn wedi cael eu symleiddio.

Pam newid y V5C?

Mae'r V5C ar ei newydd wedd bellach yn dangos yn glir nad yw'n brawf o berchnogaeth a bydd yn cynnwys manylion ynghylch ble i gael cyngor er mwyn osgoi troseddau sy'n gysylltiedig â cherbydau.

Pryd gewch chi'r V5C ar ei newydd wedd?

Bydd DVLA yn cael gwared ar bob V5C glas presennol ac yn cyhoeddi V5C newydd coch ar gyfer pob cerbyd sydd heb gael un yn barod erbyn mis Tachwedd 2012.

Byddwch hefyd yn cael V5C ar ei newydd wedd:

  • pan fyddwch yn prynu cerbyd newydd ac y rhoddir gwybod i DVLA
  • pan fyddwch yn gwneud cais i newid manylion cerbyd neu fanylion personol, megis newid enw a/neu gyfeiriad
  • os yw'ch V5C ar goll, wedi cael ei ddwyn neu ei ddinistrio a'ch bod yn gwneud cais am un arall

Wrth ddelio â Swyddfa’r Post® neu DVLA, dylech barhau i ddefnyddio eich V5C glas nes y byddwch yn cael un newydd coch.

A yw'r fersiwn las o'r V5C yn dal yn ddilys?

Mae'r fersiwn las o'r V5C yn dal yn ddilys felly mae'n dal yn iawn i chi ei ddefnyddio i wneud y canlynol:

  • trethu'ch cerbyd neu wneud datganiad HOS
  • rhoi gwybod i DVLA am unrhyw newidiadau i'r cerbyd neu i fanylion y ceidwaid
  • gwerthu eich cerbyd

Os ydych chi'n prynu cerbyd sydd wedi cael ei ddefnyddio, nid oes gwahaniaeth p'un ai'r fersiwn goch ynteu'r fersiwn las o'r V5C sydd gan y gwerthwr – mae'r ddau ohonynt yn ddilys. Dylai'r ddwy ddogfen fod â'r marc dŵr 'DVL' arnynt pan fyddwch yn eu dal at y golau.

Cofiwch mai dim ond un cam yn y broses brynu yw gwirio'r V5C. Mae angen i chi gadarnhau llawer o bethau eraill cyn penderfynu a ydych am brynu'r cerbyd ai peidio.

I gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y ddolen isod.

Allweddumynediad llywodraeth y DU