Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Sut i gofrestru eich 'hen' gerbyd

Os ydych chi eisiau cofrestru hen gerbyd, efallai bod modd i chi wneud hynny o dan ei rif gwreiddiol. Bydd angen i chi wneud cais drwy glwb perchnogion cerbydau a fydd yn ei drosglwyddo i'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) er mwyn creu cofnod cerbyd newydd.

Gwybodaeth gefndir

Yn gynnar yn yr 1970au dechreuodd y DVLA roi cofnodion cerbydau ar gyfrifiadur, cofnodion a oedd yn cael eu cadw gynt gan swyddfeydd trethu cerbydau lleol. Roedd y broses hon yn cynnwys cofrestru cerbydau newydd a chyfnewid cofnodion a oedd eisoes yn bodoli.

Cafodd y cofnod cyfrifiadurol ar gyfer hen gerbydau ei gau yn 1983 a derbyniodd perchnogion cerbydau a oedd yn cael eu hadfer ar y pryd lythyrau gan y DVLA. Yn 1990, cafodd rheolau eu cyflwyno a oedd yn caniatáu i gerbydau allu hawlio'u rhifau gwreiddiol yn ôl, os nad oeddent yn cael eu trosglwyddo. Mae hyn yn golygu na fyddwch yn gallu trosglwyddo na rhoi'r rhif ar gadw yn y dyfodol.

Sut i gofrestru'ch cerbyd dan ei rif gwreiddiol

Er mwyn cofrestru cerbyd nad yw ar gofnodion y DVLA oherwydd iddo fethu'r dyddiad cau yn 1983, bydd angen i chi lenwi ffurflen gais V765 sydd ar gael o'ch swyddfa DVLA leol neu i'w llwytho o'r dolenni isod i ffurflenni cerbydau. Caiff ceisiadau am rifau gwreiddiol eu hystyried yn y lle cyntaf gan glybiau cerbydwyr brwd. Ceir rhestr o'r clybiau awdurdodedig hynny yn y llyfryn V765/1 sydd ar gael o swyddfeydd DVLA lleol neu i'w llwytho o'r dolenni i daflenni moduro isod.

Er mwyn gwneud cais, fe ddylech wneud y canlynol:

  • llenwi ffurflen V55/5 sydd ar gael o'ch swyddfa DVLA leol
  • llenwi ffurflen V765
  • darparu llun diweddar o'r cerbyd a thystiolaeth ddogfennol, fel y llyfr log gwreiddiol, disg dreth neu dystysgrif MOT cyn 1983, sy'n cysylltu'r cerbyd â'i rif gwreiddiol

Dylid anfon y cais i glwb cerbydwyr brwd neu glwb perchnogion awdurdodedig perthnasol i'w gymeradwyo. Does dim rhaid i chi ymuno â'r clwb ond efallai y codir ffi arnoch am y gwasanaeth ac efallai y bydd y clwb yn dymuno archwilio'r cerbyd.

Beth sy'n digwydd nesaf

Os caiff y cais ei gymeradwyo, bydd yn cael ei anfon ymlaen i'r DVLA i'w brosesu a bydd tystysgrif gofrestru V5C yn cael ei rhoi. Bydd y rhif gwreiddiol yn cael ei neilltuo, ond ni fydd modd ei drosglwyddo. Mewn achosion lle cafodd y rhif gwreiddiol ei ail-neilltuo gan y swyddfa dreth leol neu ei drosglwyddo i gerbyd arall, bydd DVLA yn neilltuo rhif arall sy'n addas i oedran y cerbyd.

Os yw'n rhif llythrennau blaen neu heb lythrennau ôl, ni fydd modd ei drosglwyddo chwaith.

Rhagor o wybodaeth

Ceir rhagor o wybodaeth am gofrestru hen gerbyd yn y daflen wybodaeth INF848 'Sut i gofrestru eich 'hen' gerbyd' sydd ar gael o swyddfeydd DVLA lleol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU