Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Ffi cofrestru cerbyd am y tro cyntaf

Mae’n rhaid i gerbydau sy'n cael eu trethu a'u cofrestru am y tro cyntaf ar gofnodion yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) dalu ffi o £55.00. Mae'r taliad ychwanegol hwn ar gyfer y costau sy'n gysylltiedig â chofrestru'r cerbyd gydol ei oes. Nid oes rhaid talu'r ffi ar gyfer rhai cerbydau penodol.

Y cerbydau nad oes rhad talu ffi ar eu cyfer

Mae'r ffi'n berthnasol i bob cerbyd ar wahân i'r eithriadau canlynol:

  • y rhai sy'n cael eu cofrestru a'u trwyddedu am y tro cyntaf yn y dosbarth treth anabl sydd wedi'i eithrio
  • cerbydau hanesyddol sydd wedi'u cofrestru o'r blaen gyda'r hen awdurdodau lleol (trawsnewid hwyr)
  • cerbydau sydd wedi'u cofrestru o'r blaen yng Ngogledd Iwerddon
  • cerbydau sydd wedi'u mewnforio a'u cofrestru o'r blaen o dan y cynllun mewnforio personol a'r cynllun math newydd o drafnidiaeth
  • cerbydau byddinoedd ar ymweliad
  • cerbydau sydd wedi'u cofrestru o dan y cynllun allforio uniongyrchol
  • cerbydau sydd wedi'u cofrestru i'w defnyddio oddi ar y ffordd yn unig
  • cerbydau'r goron sydd wedi'u heithrio

Sut i dalu

Bydd angen i chi dalu'r ffi mewn un taliad, ynghyd â thâl am y dreth cerbyd sy'n ddyledus. Mae hyn yn gymwys boed y cerbyd yn cael ei gofrestru a'i drwyddedu yn y swyddfa DVLA leol neu o dan y system awtomatig cofrestru a thrwyddedu am y tro cyntaf (AFRL).

Os byddwch chi'n prynu cerbyd newydd sbon, bydd y gwerthwr fel rheol yn cynnwys hyn yn y pris.

Troseddau sy'n ymwneud â cherbydau

Mae cofrestru cerbydau, a diweddaru'r gofrestr pan fydd ceidwaid yn symud a cherbydau'n newid dwylo, yn gam pwysig yn y frwydr yn erbyn troseddau sy'n ymwneud â cherbydau a throseddau eraill ac mae'n fanteisiol yn uniongyrchol i unigolion. Mae'r ffi'n sicrhau bod mwy o gost y gwasanaeth hwn yn disgyn ar ysgwyddau'r sawl sy'n ei ddefnyddio.

Oes TAW ar y ffi?

Yn ôl Cyllid a Thollau EM, nid oes rhaid talu TAW ar y ffi cofrestru am y tro cyntaf.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU