Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Bydd y gwerthwr fel rheol yn rhoi gwybod i'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) eich bod wedi prynu'r cerbyd. Bydd sut y cofrestrir y cerbyd yn dibynnu ar ddau beth: ai cerbyd newydd ynteu gerbyd ail-law ydyw, ac a oes dogfen neu dystysgrif gofrestru ar gael ai peidio, neu fe allwch chi ei gofrestru eich hun.
Bydd y deliwr neu'r gwerthwr fel rheol yn trefnu i gofrestru'r cerbyd drosoch.
Bydd y ffordd y bydd y DVLA yn cael gwybod eich bod wedi prynu'r cerbyd yn dibynnu a yw'r ddogfen neu dystysgrif gofrestru ar gael.
Dylen nhw roi'r rhan uchaf i chi pan fyddwch chi'n prynu'r cerbyd. Mae'n rhaid i chi roi gwybod i'r DVLA cyn gynted ag y byddwch chi'n prynu cerbyd ail-law - peidiwch ag aros hyd nes y bydd angen ei ail-drwyddedu. Rhowch wybod i'r DVLA drwy lenwi cefn y ddogfen gofrestru.
Dogfen gofrestru dair rhan V5W
Rhaid i'r person sy'n gwerthu'r cerbyd lenwi 'eich manylion' yn rhan uchaf y ffurflen (glas). Mae angen i chi a'r gwerthwr arwyddo'r datganiad. Cyfrifoldeb y person sy'n gwerthu'r cerbyd yw anfon y ffurflen i'r DVLA. Dylent wedyn roi'r adran werdd, V5/2W, i chi wedi'i llenwi'n gywir. Mae'n rhaid rhoi gwybod i'r DVLA ar unwaith ar ôl i'r cerbyd gael ei drosglwyddo.
Tystysgrif gofrestru V5CW
Mae'n rhaid i'r person sy'n gwerthu'r cerbyd lenwi rhan 6, 'manylion y ceidwad newydd neu'r enw newydd/cyfeiriad newydd' o'r V5C. Mae angen i chi a'r gwerthwr lofnodi'r datganiad yn adran 8. Cyfrifoldeb y person sy'n gwerthu'r cerbyd yw anfon y ffurflen i'r DVLA. Dylent wedyn roi'r adran V5C/2W i chi wedi'i llenwi'n gywir. Mae'n rhaid rhoi gwybod i'r DVLA ar unwaith ar ôl i'r cerbyd gael ei drosglwyddo.
Os nad oes gan y gwerthwr ddogfen gofrestru V5W na thystysgrif gofrestru V5CW, dylech gofrestru'r cerbyd dan eich enw chi drwy ddefnyddio ffurflen V62W 'cais am dystysgrif gofrestru'. Fe allwch gael un o'r rhain drwy ei llwytho o'r dolenni i'r ffurflenni cerbydau isod neu o unrhyw gangen o Swyddfa'r Post® neu swyddfa DVLA leol. Bydd y DVLA wedyn yn anfon eich tystysgrif gofrestru newydd atoch a honno yn eich enw chi.
Bydd y DVLA yn ceisio anfon tystysgrif gofrestru atoch o fewn dwy i bedair wythnos ar ôl derbyn y cais. Os ydych chi wedi gwneud cais ar ffurflen gais V62W, efallai y bydd hyn yn cymryd hyd at chwe wythnos gan y bydd angen cynnal profion gwirio arbennig. Gadewch i chwe wythnos fynd heibio cyn cysylltu â'r DVLA os nad ydych chi wedi derbyn y dystysgrif gofrestru.
Pan fyddwch chi'n derbyn eich tystysgrif gofrestru gan y DVLA, eich cyfrifoldeb chi yw gofalu fod yr holl fanylion yn gywir.