Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Sut i gofrestru eich cerbyd a phrofion adnabod

Er mwyn cofrestru cerbyd am y tro cyntaf yn un o swyddfeydd lleol yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA), bydd angen i chi ddangos dogfennau sy'n profi pwy ydych chi. Gwneir hyn er mwyn sicrhau bod yr enw a'r cyfeiriad a roddir ar gyfer y ceidwad wrth gofrestru yn ddilys, a hynny i rwystro pobl rhag cofrestru cerbydau drwy dwyll.

Y ffurflenni cais

Mae angen gwirio'r enw a'r cyfeiriad ar bob cais V55/4 a V55/5 er mwyn cofrestru a thrwyddedu cerbyd (treth) am y tro cyntaf.

  • V55/4 - cais am drwydded am y tro cyntaf i gerbyd modur newydd a datganiad cofrestru - ar gyfer unigolion sy'n mewnforio cerbyd newydd, ceir cit ayb
  • V55/5 - cais am drwydded am y tro cyntaf i gerbyd modur newydd a datganiad cofrestru - ar gyfer unigolion sy'n cofrestru cerbydau ail-law, e.e. rhai sydd wedi'u hailadeiladu

Pa ddogfennau adnabod sydd eu hangen

Er mwyn cofrestru a threthu'ch cerbyd gyda'r ffurflenni cais V55/4 neu V55/5 mae'n rhaid i chi hefyd ddarparu naill ai eich trwydded yrru cerdyn-llun, neu un ddogfen wreiddiol sy'n cadarnhau eich enw, ac un ddogfen wreiddiol sy'n cadarnhau eich cyfeiriad.

Dogfennau i gadarnhau eich enw:

  • trwydded yrru bapur gyfredol DVLA
  • pasbort y DU, yr Undeb Ewropeaidd neu dramor
  • tystysgrif briodas
  • dyfarniad nisi neu absoliwt
  • tystysgrif geni

Dogfennau i gadarnhau eich cyfeiriad:

  • bil gwasanaeth e.e. nwy, trydan, dŵr, ffôn cartref - o fewn y tri mis diwethaf
  • datganiad banc neu gymdeithas adeiladu dilys o fewn y tri mis diwethaf
  • cerdyn meddygol
  • bil treth cyngor ar gyfer y flwyddyn hon

Beth y mae angen i chi ei wneud i gofrestru

Bydd rhaid i chi wneud cais i gofrestru a thrwyddedu'r cerbyd mewn swyddfa DVLA leol. Ynghyd â ffurflenni cais V55/4 neu V55/5, dylid cynnwys y dogfennau canlynol:

  • y dogfennau adnabod priodol sy'n cadarnhau eich enw a'ch cyfeiriad (gweler y rhestr uchod)
  • tystysgrif yswiriant modur gyfredol
  • yr arian i dalu am y drwydded dreth (treth car)
  • y ffi cofrestru cyntaf o £55.00, os yn berthnasol
  • unrhyw ddogfennau sydd gennych sy'n ymwneud â'ch cerbyd
  • MOT os oes angen
  • tystiolaeth o gymeradwyaeth math, cynllun cymeradwyaeth unigol (IVA), cymeradwyaeth cerbyd sengl (SVA), SVA estynedig neu SVA i feiciau modur
  • datganiad o newydd-deb (os yn berthnasol)
  • y ffurflen Cyllid a Thollau EM briodol

Os yw'r cerbyd wedi'i fewnforio, bydd hefyd angen:

  • dogfen gofrestru dramor neu unrhyw bapurau sy'n ymwneud â'r cerbyd
  • tystiolaeth yn dangos dyddiad casglu'r cerbyd

Beth sy'n digwydd nesaf

Efallai y bydd y swyddfa DVLA leol am archwilio'r cerbyd cyn rhoi rhif cofrestru priodol iddo. Caiff eich dogfennau adnabod eu dychwelyd atoch gyda disg dreth y cerbyd. Os hoffech chi dderbyn y dogfennau yn ôl drwy wasanaeth danfon arbennig, bydd angen i chi ddarparu amlen barod â stamp arni. Ni all y DVLA warantu y bydd y dogfennau'n cael eu dychwelyd atoch erbyn dyddiad penodol.

Bydd y DVLA yn ceisio anfon tystysgrif gofrestru newydd atoch o fewn chwe wythnos i chi wneud cais mewn swyddfa DVLA leol. Gadewch i chwe wythnos fynd heibio cyn cysylltu â'r DVLA.

Beth os na fyddwch chi'n derbyn y dogfennau adnabod yn ôl

Os na fyddwch chi'n cysylltu â ni o fewn tri mis i ddyddiad eich cais, ni fydd y DVLA yn gallu ymchwilio i'r sefyllfa yn y swyddfa DVLA leol na chysylltu â'r Post Brenhinol. Ni fyddant yn atebol am unrhyw hawliad a wneir ar ôl y cyfnod o dri mis.

Rhagor o gyngor a gwybodaeth

Am ragor o gyngor a gwybodaeth ynghylch cofrestru cerbyd, dylech gysylltu â'ch swyddfa DVLA leol agosaf.

Allweddumynediad llywodraeth y DU