Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cost treth cerbyd

Mae holl gyfraddau’r dreth cerbyd a ddangosir yn berthnasol i ddisgiau treth a geir ar ôl 1 Ebrill 2012. Gallwch gyfrifo cost treth cerbyd drwy ddilyn y dolenni isod.

Cost treth cerbyd ar gyfer ceir, beiciau modur, cerbydau nwyddau ysgafn a thrwyddedau masnach

Dyma'r dosbarthiadau treth:

  • cerbydau nwyddau ysgafn/preifat, beiciau modur a beiciau tair olwyn
  • ceir a gofrestrwyd ar neu ar ôl 1 Mawrth 2001 ar sail gollyngiadau CO2 a'r math o danwydd
  • ceir a gofrestrwyd cyn 23 Mawrth 2006 ar sail gollyngiadau CO2 dros 225g/km a'r math o danwydd
  • cerbydau nwyddau ysgafn a gofrestrwyd ar 1 Mawrth 2001 neu wedi hynny
  • cerbydau nwyddau ysgafn ewro 4 a gofrestrwyd rhwng 1 Mawrth 2003 a 31 Rhagfyr 2006
  • cerbydau nwyddau ysgafn ewro 5 a gofrestrwyd rhwng 1 Ionawr 2009 a 31 Rhagfyr 2010
  • trwyddedau masnach

Cyfraddau blwyddyn gyntaf – Cost treth cerbyd ar gyfer ceir newydd a gofrestrwyd ar neu ar ôl 1 Ebrill 2010 ar sail gollyngiadau CO2 a'r math o danwydd

Cael gwybod y gost gyfradd treth cerbyd am eich blwyddyn gyntaf os ydych chi’n prynu car newydd wedi’i gofrestru ar neu ar ôl 1 Ebrill 2010. Mae’r cyfraddau hyn yn seiliedig ar ollyngiadau CO2 a’r math o danwydd.

Cost treth cerbyd ar gyfer bysus a cherbydau mwy

Mae’r dosbarthiadau treth yn cynnwys bysus, bysus llygredd is, cludiant cyffredinol, cludiant cyffredinol llygredd is, cerbydau cludo-i’r-garej a HGV preifat.

Cost treth cerbyd ar gyfer cerbydau undarn a cherbydau nwyddau cymalog mawr

Mae’r dosbarthiadau treth yn cynnwys cerbydau un-darn, cerbydau un-darn llygredd is, treth ôl-gerbyd, treth ôl-gerbyd llygredd is, cerbydau cymalog gydag uned tynnu dwy echel, cerbydau cymalog gydag uned tynnu dwy echel llygredd is, cerbydau cymalog gydag uned tynnu tair echel a cherbydau cymalog gydag uned tynnu tair echel llygredd is.

O 1 Ebrill 2011, mae cyfraddau eithriadol o dreth cerbyd wedi cael eu cyflwyno ar gyfer rhai cerbydau nwyddau trwm. Mae’n bosib y bydd cerbydau nwyddau trwm â ffurfwedd pwysau ac echel benodol sydd heb hongiad sy’n gyfeillgar i’r ffordd yn denu cyfradd wahanol o dreth cerbyd.

Cerbydau nwyddau trwm sydd wedi'u cofrestru yng Ngogledd Iwerddon

Os oes gennych gerbyd nwyddau trwm sydd wedi’i gofrestru yng Ngogledd Iwerddon ac rydych chi’n dymuno dod o hyd i’r gost treth cerbyd, dilynwch y ddolen isod.

Cost treth cerbyd ar gyfer mathau eraill o gerbydau

Mae’r daflen 'Cyfraddau treth cerbyd' (V149) yn dangos cost treth cerbyd ar gyfer: cerbydau arbennig (nwyddau ar gyfer arddangos, cludo ar gyfer arddangos, wagenni gwaith, peiriannau cloddio, cerbydau rowlio ffordd, craeniau/pympiau symudol), cerbydau ynysoedd bach, treth ôl-gerbyd arbennig, cerbydau o fathau arbennig, cerbydau o fathau arbennig llygredd is, trafnidiaeth gyfun a thrafnidiaeth gyfun llygredd is.

Lledaenu’r gost

Fe allwch chi ledaenu cost y dreth cerbyd drwy ddefnyddio cynllun cerdyn cynilo newydd Swyddfa’r Post®. Gallwch ddefnyddio’r cerdyn hwn i dalu'ch treth cerbyd yn llawn neu'n rhannol. (I gael rhagor o fanylion ynghylch y cynllun cerdyn cynilo newydd a diwedd y stampiau cynilo cysylltwch â Swyddfa’r Post.)

Darparwyd gan DVLA

Additional links

Wedi newid eich cyfeiriad?

Gallwch ddiweddaru manylion eich trwydded gyrru gan ddefnyddio gwasanaeth ar-lein diogel y DVLA

Derbyn hysbysiadau atgoffa Rheolau’r Ffordd Fawr

Derbyn hysbysiadau atgoffa ynghylch Rheolau’r Ffordd Fawr drwy ei ddilyn ar Trydar a Facebook

Allweddumynediad llywodraeth y DU