Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gallwch wneud cais am ad-daliad treth cerbyd os mai chi yw ceidwad cofrestredig presennol eich cerbyd neu os mai chi oedd ceidwad cofrestredig diwethaf eich cerbyd. Hefyd, bydd angen i chi roi gwybod i’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) pam nad oes ar y cerbyd angen y ddisg treth bellach.
Bydd angen i chi bostio eich cais am ad-daliad cyn diwrnod cyntaf y mis rydych chi’n gwneud cais am ad-daliad ar ei gyfer. Bydd hefyd angen i chi roi gwybod i DVLA pam eich bod yn gwneud cais am ad-daliad. Mae’n bosib mai’r rheswm fydd un o’r canlynol, sef bod y cerbyd wedi cael:
Bydd eich cais yn cael ei wrthod os na fyddwch yn darparu’r manylion hyn, a bydd llythyr gwrthod yn cael ei anfon atoch. Dylai’r enw ar y cais am ad-daliad hefyd fod yn union yr un fath â’r enw sydd ar eich tystysgrif cofrestru cerbyd (V5C).
Os nad ydych chi eisoes wedi rhoi gwybod i DVLA am unrhyw un o'r hysbysiadau a grybwyllwyd, gallwch anfon un gyda'ch cais am ad-daliad.
Peidiwch â gwneud cais am ad-daliad os ydy rhif cofrestru eich cerbyd ar ganol cael ei drosglwyddo neu ei gadw. Delir â’r ddisg treth ar yr un pryd â’r cais am drosglwyddo neu gadw.
Os yw’ch cerbyd yn cael ei drosglwyddo o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon neu Ogledd Iwerddon i Brydain Fawr, nid oes angen i chi wneud cais am ad-daliad. Mae’r ddisg dreth yn parhau’n ddilys.
Gallwch wneud cais am ad-daliad treth cerbyd gyda disg treth, neu heb un os yw ar goll neu wedi cael ei ddwyn.
Gwneud cais gyda disg treth
I wneud am ad-daliad, llenwch a lawrlwythwch ffurflen V14 'Cais am ad-daliad treth cerbyd a’r ddisg treth yn eich meddiant’. Ar ôl llenwi’r ffurflen ar-lein dylech wneud y canlynol:
Ceir canllawiau cam wrth gam ar-lein i’ch helpu gyda hyn.
Gallwch hefyd lawrlwytho copi o’r ffurflen oddi ar y we y gallwch lenwi â llaw drwy ddefnyddio’r ddolen isod. Sicrhewch eich bod chi’n llofnodi’r ffurflen ac atodi’ch disg treth cyn i chi ei hanfon at DVLA, Abertawe, SA99 1AL. Mae’r ffurflen hefyd ar gael gan Swyddfa’r Post® sy’n rhoi disgiau treth.
Gwneud cais heb ddisg treth
Llenwch ffurflen V33 ‘Cais am ad-daliad treth cerbyd a’r ddisg treth ar goll’. Anfonwch y ffurflen i'r Adran Ad-daliadau, DVLA, Abertawe SA99 1AL.
Dim ond drwy ffonio Ymholiadau Cwsmeriaid DVLA ar 0300 790 6802 neu fynd i swyddfa DVLA leol y mae’r ffurflen V33 ar gael.
Os bydd y ddisg treth yn dod i'r golwg ar ôl i chi gael ad-daliad, rhaid i chi ddychwelyd y ddisg gyda llythyr eglurhaol i DVLA.
Os yw eich cerbyd wedi'i ddwyn
Pan fyddwch yn rhoi gwybod i'r heddlu am y lladrad, bydd angen i chi gael rhif cyfeirnod trosedd. Bydd angen i chi roi manylion y lladrad a’r rhif cyfeirnod trosedd a roddwyd gan yr heddlu ar y ffurflen V33.
Gan fod nifer fawr o gerbydau yn cael eu canfod o fewn ychydig ddyddiau iddynt gael eu dwyn, dylech ddisgwyl am saith niwrnod o leiaf cyn gwneud cais am ad-daliad. Bydd gwneud cais yn gynt na’r saith niwrnod o bosib yn achosi i’ch cais gael ei ddychwelyd atoch.
Os yw eich cerbyd wedi cael ei ganfod efallai y bydd dal arnoch eisiau gwneud cais am ad-daliad. Os byddwch yn gwneud cais am ad-daliad, bydd yn rhaid i’r DVLA wybod beth sydd wedi digwydd i’ch cerbyd ers iddo gael ei ganfod.
Gallwch wneud datganiad HOS ar y ffurflen V14 yr un pryd ag y byddwch yn gwneud cais am ad-daliad, os ydych chi'n cadw'r cerbyd ac yn ei dynnu oddi ar y ffordd.
Gallwch hefyd anfon hysbysiad o werthu neu drosglwyddo eich cerbyd, neu hysbysiad o allforio eich cerbyd, i DVLA gyda'ch cais am ad-daliad.
Dylai llythyr cydnabyddiaeth gael ei anfon atoch o fewn pedair wythnos ac fe'i anfonir ar wahân i'r ad-daliad. Os na fyddwch yn cael y llythyr, cysylltwch ag Ymholiadau Cwsmeriaid DVLA.
Telir ad-daliad am bob mis llawn sydd ar ôl ar y ddisg treth ar yr adeg y byddwch yn gwneud cais. Er enghraifft, os yw eich disg treth yn dod i ben ddiwedd mis Medi a’ch bod yn gwneud cais yn ystod mis Gorffennaf, cewch ad-daliad am ddau fis.
Os oes gennych chi ddisg treth chwe mis, fe wnaethoch dalu ffi weinyddol ychwanegol o ddeg y cant wrth ei phrynu. Ni chaiff y ffi hon ei chynnwys fel rhan o’ch ad-daliad.
Os nad oes gennych chi ddisg treth i’w hanfon yn ôl, bydd ffi weinyddol o £7 yn cael ei gymryd o’r swm a ad-delir i chi. Telir yr ad-daliad i’r unigolyn sydd wedi’i enwi ar y ffurflen gais. Dylai’r enw fod yn union yr un fath â’r enw sydd ar y dystysgrif cofrestru cerbyd.
Ni ellir ôl-ddyddio ad-daliad. Dim ond o un o’r dyddiadau canlynol y gellir ei dalu (pa un bynnag yw’r hwyraf):
Cyfraddau blwyddyn gyntaf
Os taloch ‘gyfradd blwyddyn gyntaf’ am ddisg treth gyntaf i gerbyd sydd newydd wedi’i gofrestru, fe gewch ad-daliad ar y gyfradd uchaf yn unig:
Bydd eich ad-daliad treth cerbyd wedi’i seilio ar y gyfradd safonol isel:
Gellir cymryd hyd at chwe wythnos i brosesu ad-daliadau. Bydd angen i chi adael chwe wythnos i’r ad-daliad eich cyrraedd cyn gwneud ymholiadau gyda DVLA. Os nad ydych chi wedi cael ymateb i’ch cais ar ôl yr amser hwn, cysylltwch ag Ymholiadau Cwsmeriaid DVLA ar 0300 790 6802 neu anfonwch neges e-bost at:
www.direct.gov.uk/emaildvla