Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Rheolau treth car

Rhaid trethu pob cerbyd a gofrestrwyd yn y Deyrnas Unedig os yw'n cael ei ddefnyddio neu'n cael ei gadw ar ffordd gyhoeddus. Os caiff y cerbyd ei gadw oddi ar y ffordd, mae’n rhaid iddo naill ai gael ei drethu neu mae’n rhaid cael HOS (Hysbysiad Oddi-ar-y-Ffordd Statudol) mewn grym. Os na wneir hyn, gallai’r cerbyd gael ei symud neu gellid clampio ei olwynion.

Trethu eich cerbyd

I drethu'ch cerbyd, bydd angen y canlynol arnoch:

  • ffurflen atgoffa V11 neu V10 ‘Cais am Drwydded Cerbyd’ wedi’i llenwi
  • eich tystysgrif cofrestru (V5C) neu Atodiad Ceidwad Newydd, os ydych yn defnyddio V10
  • ffurflen V62 ‘Cais am Dystysgrif Cofrestru Cerbyd V5C’ wedi’i llenwi os nad oes gennych dystysgrif cofrestru
  • tystysgrif prawf MOT (os yw eich car neu'ch beic modur dros dair oed)
  • yswiriant rhag hawliadau trydydd parti yn eich erbyn ar gyfer marwolaeth neu anaf a niwed i eiddo yn sgil defnyddio'r cerbyd
  • y taliad ar gyfer y dreth cerbyd (does dim angen hwn os yw eich cerbyd wedi'i eithrio rhag talu treth cerbyd)

Ni ellir trethu cerbyd sydd wedi’i gofrestru yng Ngogledd Iwerddon yng Nghymru, Lloegr na’r Alban.

Arddangos eich disg treth

Dylech arddangos eich disg treth ar ffenestr flaen eich cerbyd ar ochr y teithiwr (ochr y palmant). Os nad oes gan eich cerbyd ffenestr flaen neu os oes gennych feic modur neu gerbyd ochr, dylech arddangos eich disg treth ar eich cerbyd ar ochr y palmant.

Rhaid arddangos disg treth cyfredol ar y cerbyd y prynwyd amdano. Os byddwch yn prynu disg treth newydd cyn i’ch disg treth cyfredol ddod i ben, ni ddylech arddangos yr un newydd nes bod yr hen un wedi dod i ben. Dim ond o ddiwrnod cyntaf y mis yr ydych wedi trethu’ch cerbyd y bydd y disg treth yn ddilys. Y gosb uchaf am fethu ag arddangos disg treth cyfredol yw £200. Ni ellir trosglwyddo’r ddisg treth rhwng cerbydau.

Os byddwch chi’n defnyddio’r gwasanaeth trwyddedu cerbydau’n electronig neu’n trethu’ch cerbyd drwy’r post ar ddiwedd y mis, ceir eithriad bellach am beidio ag arddangos disg treth. Mae’r eithriad hwn yn cynnwys pum niwrnod gwaith cyntaf y mis ac yn caniatáu amser i’r ddisg newydd gyrraedd yn y post. Bydd angen i chi arddangos eich disg treth cyfredol tra'r ydych yn aros am eich disg treth. I gael eich eithrio, mae'n rhaid cyflwyno ceisiadau cyn i'r ddisg treth neu'r HOS cyfredol ddod i ben.

Gwneud datganiad HOS

Dylech wneud datganiad HOS os nad ydych yn defnyddio neu’n cadw’ch cerbyd ar ffordd gyhoeddus.

Os na fyddwch yn trethu’ch cerbyd neu’n gwneud datganiad HOS

Mae’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) yn cynnal archwiliad cyfrifiadur bob mis, yn ogystal ag archwiliadau ar ochr y ffordd, i ganfod y cerbydau hynny sydd heb ddisg treth dilys. Gallech wynebu cosb awtomatig o £80 yn ogystal â dirwy o £1000 o leiaf. Gallai eich cerbyd gael ei glampio, ei roi dan glo neu ei falu hyd yn oed.

Cadw'ch dogfennau’n gyfredol

Bydd dogfennau cyfredol yn eich helpu i drethu eich cerbyd neu wneud datganiad HOS ar amser ac osgoi cosb.

Tystysgrif cofrestru

Dywedwch wrth DVLA pan fyddwch yn newid eich enw, eich cyfeiriad neu fanylion eich cerbyd fel y gall anfon ffurflen atgoffa V11 atoch yn brydlon.

MOT ac yswiriant

Gwnewch yn siŵr bod eich tystysgrifau yswiriant ac MOT yn ddilys ar y dyddiad yr ydych am i'ch disg treth ddechrau. Cofiwch gadw nodyn o unrhyw ddyddiadau adnewyddu i'ch atgoffa.

Cofrestriad di-dor

Rhowch wybod i DVLA os byddwch yn gwerthu, yn trosglwyddo, yn sgrapio neu'n allforio’ch cerbyd, neu fel arall byddwch chi’n parhau i fod yn gyfrifol am ei drethu er eich bod wedi cael gwared arno. Llenwch yr adran briodol ar eich tystysgrif cofrestru a'i hanfon i DVLA, Abertawe SA99 1BA. Dylech gael llythyr cydnabyddiaeth o fewn pedair wythnos, a dylech gadw hwn fel prawf fod cofnodion DVLA wedi'u diweddaru. Cysylltwch ag adran ymholiadau cwsmeriaid DVLA os na fyddwch wedi cael y llythyr.

Additional links

Wedi newid eich cyfeiriad?

Gallwch ddiweddaru manylion eich trwydded gyrru gan ddefnyddio gwasanaeth ar-lein diogel y DVLA

Derbyn hysbysiadau atgoffa Rheolau’r Ffordd Fawr

Derbyn hysbysiadau atgoffa ynghylch Rheolau’r Ffordd Fawr drwy ei ddilyn ar Trydar a Facebook

Allweddumynediad llywodraeth y DU