Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae'n rhaid i chi roi gwybod i'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) ar unwaith am unrhyw newidiadau i'ch enw, eich cyfeiriad neu'r ddau. Dychwelwch eich Tystysgrif Cofrestru (V5C) i DVLA i'w newid. Rhoddir trwydded newydd i chi am ddim. Bydd rhoi gwybod i DVLA yn sicrhau y bydd eich ffurflen atgoffa i adnewyddu (V11) yn cael ei hanfon i'ch cyfeiriad cywir.
Bydd rhoi gwybod i DVLA yn sicrhau y bydd eich ffurflen atgoffa i adnewyddu (V11) yn cael ei hanfon i'ch cyfeiriad cywir.
Llenwch fanylion eich cyfeiriad newydd yn adran chwech eich Tystysgrif Cofrestru:
Nodir: Os mae angen trethu eich cerbyd o fewn y pedwar wythnos nesaf, cymerwch eich tystysgrif cofrestru i Swyddfa’r Post ® i drethu a llenwi adran chwech.
Nodwch eich enw newydd yn adran chwech eich Tystysgrif Cofrestru:
Llenwch yr holl fanylion yn adran chwech y Tystysgrif Cofrestru fel y cynghorir uchod.
Os ydych wedi colli'ch Tystysgrif Cofrestru, bydd dal yn bosib i chi roi gwybod am y newidiadau drwy wneud cais am dystysgrif arall yn lle'r llall.
Nod DVLA yw sicrhau eich bod yn derbyn Tystysgrif Cofrestru o fewn pedair wythnos i ni dderbyn eich cais. Gadewch o leiaf chwe wythnos i’ch Tystysgrif Cofrestru gyrraedd cyn cysylltu â DVLA.
Cofiwch y bydd angen i chi o bosib newid eich enw a'ch cyfeiriad ar eich trwydded yrru.
Os oes gennych Ddogfen Cadw rhif cofrestru personol, bydd angen i chi ei dychwelyd i DVLA, Abertawe, SA99 1BW. Dosberthir un newydd i chi o fewn chwe wythnos. Oni fyddwch yn ei diweddaru, efallai na chewch ffurflen atgoffa i ymestyn y cyfnod cadw a gallech golli'ch hawl i'r rhif cofrestru.