Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Beth i’w wneud os yw’ch cerbyd wedi’i sgrapio neu’n anadferadwy

Rhaid i chi fynd â’ch cerbyd i gyfleuster trin awdurdodedig os bydd angen iddo gael ei sgrapio. Os bydd eich cwmni yswiriant yn pennu bod y cerbyd yn anadferadwy, efallai y byddant yn cymryd y cerbyd yn gyfnewid am daliad colled gyfan.

Sgrapio eich cerbyd

Rhaid i chi fynd â’ch cerbyd i gyfleuster trin cymeradwy, lle gwneir yn siŵr ei fod yn cael ei ddatgymalu mewn modd sy’n gyfeillgar â’r amgylchedd.

Gallwch chi fynd â’r cerbydau canlynol:

  • ceir
  • faniau ysgafn
  • cerbydau modur tair olwyn - ac eithrio beiciau modur tair olwyn

Cyfleusterau trin awdurdodedig

Os bydd y cyfleuster yn cytuno i gymryd eich cerbyd, byddwch chi’n cael Tystysgrif Dinistrio ganddynt ar unwaith. Byddant hefyd yn dweud wrth DVLA nad chi sy’n gyfrifol am y cerbyd bellach. Cadwch y dystysgrif fel prawf bod y cerbyd wedi cael ei ddinistrio ac nad chi sy’n gyfrifol amdano bellach.

Os oes gennych chi gerbyd ar wahân i’r rheini sydd wedi’i rhestru eisoes, bydd dal yn rhaid i chi fynd â’ch cerbyd i gyfleuster trin awdurdodedig er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei ddinistrio yn unol â safonau amgylcheddol. Byddant yn trefnu i gofnod y cerbyd yn DVLA gael ei ddiweddaru â Hysbysiad Dinistrio.

Dweud wrth DVLA nad yw’r cerbyd gennych mwyach

Os na chewch chi Dystysgrif Dinistrio, neu os nad yw’ch cerbyd yn cael ei ddinistrio, dylech lenwi adran V5C/3 ‘Hysbysiad gwerthu neu drosglwyddo’ eich tystysgrif cofrestru cerbyd (V5C), a’i hanfon i DVLA, Abertawe, SA99 1BD.

Dylech chi gael llythyr yn cadarnhau nad chi sy’n gyfrifol am y cerbyd bellach. Os na chewch chi’r llythyr hwn cyn pen pedair wythnos, ffoniwch 0300 790 6802 i gael rhagor o gyngor. Gall defnyddwyr ffôn testun ffonio 0300 123 1279.

Os ydych chi wedi datgymalu’r cerbyd eich hun, mae’n rhaid i chi naill ai barhau i’w drethu neu roi gwybod i DVLA eich bod chi’n ei gadw oddi ar y ffordd gyhoeddus. Gallwch wneud hyn drwy wneud datganiad HOS (Hysbysiad Oddi-ar-y-Ffordd Statudol). Bydd rhaid i chi wneud datganiad HOS pob blwyddyn nes eich bod chi wedi mynd â’ch cerbyd i gyfleuster trin awdurdodedig, neu wedi rhoi gwybod i DVLA eich bod wedi cael gwared arno.

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch HOS, dilynwch y ddolen isod.

Rhif cofrestru personol ar eich cerbyd

Bydd angen i chi drosglwyddo neu gadw eich rhif cofrestru personol cyn i chi cael waredu’r cerbyd. Os na wnewch chi hynny, byddwch chi’n colli eich hawl i'r rhif cofrestru.

Dywedwch wrth eich cwmni yswiriant am beidio â gwaredu’r cerbyd nes bydd y cais am drosglwyddo neu gadw’r rhif cofrestru wedi’i gwblhau. Gofynnwch iddynt wneud yn siŵr bod y cerbyd ar gael i’w archwilio.

Bydd angen i chi gael y canlynol hefyd:

  • llythyr o ddim diddordeb gan y cwmni yswiriant yn cadarnhau eu bod yn fodlon i chi drosglwyddo neu gadw rhif cofrestru’r cerbyd
  • copi o adroddiad y peiriannydd yn cadarnhau manylion y cerbyd

Yswiriant trydydd parti ar eich cerbyd

Os yw’ch cerbyd wedi cael ei ddifrodi mewn damwain, os bydd yn costio mwy na gwerth y cerbyd ei hun i’w drwsio, ac os nad ydych chi am gadw’r cerbyd, rhaid i chi ddweud wrth DVLA. Anfonwch eich tystysgrif cofrestru yn ôl, gan esbonio’r newidiadau angenrheidiol, i DVLA, Abertawe, SA99 1BR.

Dylech chi gael llythyr yn cadarnhau nad chi sy’n gyfrifol am y cerbyd bellach. Os na chewch chi’r llythyr hwn cyn pen pedair wythnos, ffoniwch 0300 790 6802 i gael rhagor o gyngor. Gall defnyddwyr ffôn testun ffonio 0300 123 1279.

Taliad colled gyflawn am eich cerbyd

Os yw eich cwmni yswiriant yn penderfynu bod eich cerbyd y tu hwnt i'w adfer, rhaid i chi roi'r cerbyd iddynt yn gyfnewid am daliad colled gyflawn.

Bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • llenwi adran V5C/3, ‘Hysbysiad gwerthu neu drosglwyddo’, ar eich tystysgrif cofrestru a’i hanfon i DVLA, Abertawe, SA99 1BD.
  • rhoi gweddill y dystysgrif cofrestru i’r cwmni yswiriant

Efallai y bydd eich cwmni yswiriant yn gofyn i chi am y dystysgrif cofrestru i gyd, ac yna’n ei llenwi ar eich rhan a’i hanfon i DVLA.

Os bydd hyn yn digwydd, ysgrifennwch at DVLA i wneud yn siŵr bod eich enw’n cael ei dynnu o’r cofnod. Rhowch y dyddiad y trosglwyddwyd y cerbyd i’r cwmni yswiriant, ynghyd ag enw a chyfeiriad y cwmni, a’i anfon i DVLA, Abertawe, SA99 1BR.

Os nad yw’ch cerbyd wedi cael ei sgrapio, ac os byddwch chi’n dewis cadw’r hyn sydd wedi’i adfer, dylai’r V5C fod yn eich meddiant.

Hefyd, efallai y bydd angen cynnal Archwiliad Adnabod Cerbyd ar eich cerbyd cyn y bydd modd ei ddefnyddio ar y ffordd eto.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Additional links

Arbed amser – ei wneud ar y we

Cael gwybod pa wasanaethau moduro sydd ar gael ar-lein

Allweddumynediad llywodraeth y DU