Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os caiff eich cerbyd ei ddwyn fe ddylech roi gwybod ar unwaith i'r heddlu. Bydd yr heddlu'n rhoi gwybod i'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) am fanylion y lladrad ac yn ceisio dod o hyd i'ch cerbyd.
Cyn galw'r heddlu i roi gwybod bod eich cerbyd wedi'i ddwyn, sicrhewch fod gennych chi holl fanylion y cerbyd wrth law, h.y. rhif cofrestru, math, model a lliw'r cerbyd. Bydd yr heddlu yn rhoi cyfeirnod y trosedd i chi a bydd angen hwn arnoch wrth wneud cais am yswiriant a chais am ad-daliad ar eich disg dreth.
Bydd angen i chi gysylltu â'ch cwmni yswiriant ar unwaith i gael cyngor. Os na lwyddir i ddod o hyd i'ch cerbyd a bod eich cwmni yswiriant yn talu am y golled, yna dylech hysbysu'r DVLA am y dyddiad y derbyniwyd y taliad a rhoi enw a chyfeiriad y cwmni yswiriant.
Dylech gwblhau adran V5C/3 'hysbysu ynghylch gwerthu neu drosglwyddo' eich dogfen gofrestru. Os yw'ch cwmni yswiriant yn gofyn am y ddogfen neu'r dystysgrif gofrestru lawn, dylech roi gwybod i'r DVLA drwy lythyr gan nodi manylion y cwmni yswiriant a dyddiad yr hawliad.
Gallwch wneud cais am ad-daliad ar eich treth cerbyd os yw'ch cerbyd wedi'i ddwyn a heb ei ganfod. Caiff llawer o gerbydau eu canfod o fewn ychydig ddyddiau i ladrad, felly fe'ch cynghorir i beidio â gwneud cais am ryw wythnos ar ôl y lladrad. Mae ffurflen gais V33 arbennig ar gael ar gyfer hyn. Bydd angen cyfeirnod y trosedd arnoch a roddir gan yr heddlu. Ceir rhagor o wybodaeth am wneud cais am ad-daliad o'r ddolen isod.
Os oedd gan y cerbyd a gafodd ei ddwyn rif cofrestru personol, byddwch fel arfer yn gallu ei hawlio'n ôl os nad yw'r cerbyd wedi dod i'r fei ar ôl 12 mis, os gallwch fodloni rhai gofynion penodol.
Os caiff y cerbyd ei ganfod ar unrhyw adeg, gwnewch gais i gadw’ch rhif cofrestru yn syth. I gael gwybod sut i drosglwyddo neu gadw rhif cofrestru, dilynwch y dolenni isod.
Am ragor o wybodaeth neu am lythyr o awdurdodiad i drosglwyddo, ysgrifennwch at: Adran Rhifau Cofrestru Arbennig, DVLA, Abertawe, SA99 1BW