Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Newid manylion eich cerbyd ar eich tystysgrif cofrestru

Bydd angen i chi ddiweddaru eich tystysgrif cofrestru (V5C) os byddwch chi'n gwneud unrhyw newidiadau i'ch cerbyd neu os yw unrhyw un o'r manylion a ddangosir ar eich tystysgrif cofrestru yn anghywir. Gallai'r swm yr ydych yn ei dalu fel treth cerbyd gael ei effeithio a bydd angen i chi ddangos tystiolaeth ddogfennol o'r newidiadau.

Newidiadau y bydd angen i chi eu diweddaru

Bydd angen i chi roi gwybod i'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) am y newidiadau canlynol i'ch cerbyd:

  • lliw
  • injan
  • maint y silindrau
  • math o danwydd (gyriant)
  • newid neu addasu'r chassis/cragen monocoque
  • nifer y seddi
  • pwysau cerbyd nwyddau

Newidiadau i faint y silindrau a'r injan (maint yr injan)

Bydd ar y DVLA angen tystiolaeth ysgrifenedig o unrhyw newidiadau i rif yr injan a maint y silindrau (cc). Gall y dystiolaeth ysgrifenedig fod yn un o'r canlynol:

  • derbynneb ar gyfer yr injan newydd
  • tystiolaeth ysgrifenedig gan y gwneuthurwr
  • adroddiad archwiliad a ddarparwyd at ddibenion yswiriant
  • cadarnhad ysgrifenedig ar bapur pennawd gan fodurdy os newidwyd maint yr injan cyn i chi brynu'r cerbyd.

Newid i'r math o danwydd

Bydd angen i'r DVLA gael cadarnhad ysgrifenedig am unrhyw newidiadau i'r math o danwydd:

  • os newidir eich injan - rhaid i'r cadarnhad fod ar bapur pennawd gan y modurdy a wnaeth y gwaith
  • os rhoddir injan newydd - bydd angen derbynneb i gadarnhau hynny

Newid i nifer y seddi ar fws

Gall newid nifer y seddi gan gynnwys sedd y gyrrwr effeithio ar faint o dreth cerbyd rydych chi'n ei thalu.

Newid i'r pwysau refeniw ar gyfer cerbydau mwy

Ar gyfer newid y pwysau refeniw bydd angen i chi ddarparu tystysgrif blât neu dystysgrif pwysau'r dyluniad.

Newid grŵp treth i grŵp anabl

Bydd angen i chi ddangos y dystysgrif eithrio briodol os byddwch chi'n newid grŵp treth eich cerbyd i grŵp anabl.

Newidiadau eraill

Efallai y bydd angen i'ch cerbyd gael ei archwilio gan swyddfa DVLA leol. Rhaid i chi gysylltu â'ch swyddfa DVLA leol agosaf os byddwch yn newid:

  • cynllun olwynion
  • math o gorff cerbyd (bydd DVLA yn rhoi disgrifiad math o gorff cerbyd yn seiliedig ar ymddangosiad allanol cerbyd)
  • rhif adnabod cerbyd (VIN)
  • rhif y ffrâm
  • rhif y ffrâm ar gyfer beiciau modur

Sut i hysbysu DVLA am newidiadau

Gan ddefnyddio'ch tystysgrif cofrestru, bydd angen i chi:

  • roi gwybod am unrhyw newidiadau neu gywiriadau drwy lenwi adran saith
  • llofnodi’r datganiad a nodi'r dyddiad

Ar gyfer newidiadau heblaw'r rheini a restrir yn adran saith, bydd angen i chi danlinellu manylion y cerbyd yn adran pedwar, gan ysgrifennu'r wybodaeth newydd wrth eu hymyl. Rhaid i chi hefyd gyflwyno tystiolaeth ddogfennol ynghyd â llythyr sy'n esbonio'r newidiadau.

Os nad yw'r newidiadau'n effeithio ar eich treth cerbyd, yna anfonwch y dystysgrif cofrestru ac unrhyw ddogfennau ychwanegol at DVLA, Abertawe, SA99 1BA.

Os yw'r newidiadau yn effeithio ar faint o dreth cerbyd y bydd rhaid i chi ei thalu, bydd angen i chi wneud cais i'ch swyddfa DVLA leol agosaf er mwyn:

  • gwneud cais am drwydded gyfnewid os yw'ch disg treth yn dangos yr hen fanylion
  • ail-drethu’ch cerbyd os yw'r dreth cerbyd wedi dod i ben

Yn y ddau achos, bydd angen i chi gynnwys y dystysgrif cofrestru ac unrhyw ddogfennau ychwanegol eraill gyda'ch cais.

Pryd i ddisgwyl eich tystysgrif cofrestru

Bydd y DVLA yn ceisio anfon tystysgrif cofrestru atoch o fewn dwy i bedair wythnos ar ôl derbyn eich cais. Fodd bynnag, gadewch i bedair wythnos fynd heibio cyn cysylltu â'r DVLA.

Additional links

Arbed amser – ei wneud ar y we

Cael gwybod pa wasanaethau moduro sydd ar gael ar-lein

Allweddumynediad llywodraeth y DU