Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Trethu eich cerbyd yn y dosbarth treth anabl

Bydd trethu eich cerbyd yn y dosbarth treth anabl am y tro cyntaf neu ei adnewyddu yn dibynnu ar y dogfennau sydd gennych. Mynnwch wybod pa ddogfennau sydd eu hangen arnoch er mwyn gallu trethu cerbyd ar-lein, yn Swyddfa'r Post® neu mewn swyddfa leol o'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA).

Budd-daliadau cymhwyso ar gyfer eich tystysgrif eithrio

Er mwyn trethu eich cerbyd yn y dosbarth treth anabl a chael disg treth am ddim, mae'n rhaid eich bod yn cael un o'r budd-daliadau cymhwyso canlynol:

  • cyfradd uwch elfen symudedd y Lwfans Byw i’r Anabl
  • Atodiad Symudedd Pensiynwyr Rhyfel

Os cewch un o'r budd-daliadau hyn, efallai y bydd gennych hawl i gael tystysgrif eithrio. Bydd angen i chi gael hon er mwyn cael eich disg treth am ddim.

Gallai eich tystysgrif eithrio fod yn un o'r canlynol:

  • Tystysgrif o Hawl i gael Lwfans Byw i’r Anabl (DLA)
  • Tystysgrif o Hawl flynyddol
  • Tystysgrif DLA 404
  • Tystysgrif MHS330 (Cynllun Teithwyr Anabl yn unig)
  • Tystysgrif Symudedd Pensiynwyr Rhyfel WPA0442

Bydd gan hawlwyr Atodiad Symudedd Pensiynwyr Rhyfel Dystysgrif WPA0442, wedi'i rhoi gan Asiantaeth y Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr.

Caiff pob un o'r tystysgrifau eithrio a restrir uchod eu rhoi gan y Gwasanaeth Pensiwn, Anabledd a Gofalwyr.

Mae'n rhaid i'r dystysgrif eithrio fod yn ddilys a dim un er mwyn trethu un cerbyd ar y tro y gellir ei defnyddio.

Lwfans Byw i’r Anabl - eglurhad o'ch tystysgrif eithrio

Ym mis Hydref 2011, cyflwynodd y Gwasanaeth Pensiwn, Anabledd a Gofalwyr (PDCS) dystysgrif eithrio newydd o'r enw Tystysgrif o Hawl i gael Lwfans Byw i’r Anabl. Gallwch ddefnyddio'r dystysgrif amldro newydd hon i gael disg treth am ddim os oes gennych hawl o hyd i gael cyfradd uwch elfen symudedd y Lwfans Byw i'r Anabl.

Caiff y dystysgrif newydd ei rhoi'n awtomatig i ddeiliaid Tystysgrif o Hawl Flynyddol (a gyhoeddwyd rhwng mis Hydref 2010 a mis Hydref 2011).

Gallwch barhau i ddefnyddio tystysgrif DLA404 hyd nes ei bod yn llawn neu wedi dod i ben, yna cysylltwch â'r Gwasanaeth Pensiwn, Anabledd a Gofalwyr am dystysgrif amldro newydd.

Bydd taflen INS216 y DVLA gyda'ch tystysgrif amldro yn esbonio sut i gael eich disg treth am ddim.

Trethu cerbyd yn y dosbarth treth anabl am y tro cyntaf

Mae gwneud cais am y disg treth cyntaf am ddim yn wahanol i'w adnewyddu bob blwyddyn.

Ar gyfer cerbydau newydd, bydd angen i chi fynd â'r dystysgrif eithrio a thystysgrif yswiriant ddilys gyda chi i'r ddelwriaeth gerbydau.

Ar gyfer cerbydau ail law, gallwch newid y dosbarth treth mewn un o ganghennau Swyddfa'r Post® sy'n rhoi'r disgiau treth. Mae'n rhaid bod gennych eich tystysgrif cofrestru cerbyd lawn (V5C), tystysgrif yswiriant a thystysgrif MOT (os yw'n gymwys).

Bydd hefyd angen i chi:

  • lenwi adrannau priodol eich tystysgrif eithrio

Bydd angen tystysgrif newydd arnoch os yw eich tystysgrif eithrio:

  • wedi dod i ben
  • yn llawn (ar gyfer DLA 404 neu WPA0442)
  • wedi'i cholli, ei dwyn neu ei difrodi

Bydd angen tystysgrif newydd arnoch hefyd os yw manylion y cerbyd neu geidwad y cerbyd wedi newid.

Sut i gael ad-daliad ar eich disg treth cyfredol

Unwaith y bydd gennych eich disg treth anabl, gallwch wneud cais am ad-daliad ar gyfer unrhyw fisoedd sy'n weddill ar eich hen ddisg treth.

Sut i adnewyddu eich disg treth am ddim

Dylai'r ceidwad cofrestredig gael 'Ffurflen atgoffa i drethu neu neu wneud Hysbysiad Oddi-ar-y-Ffordd Statudol’ (V11W) cyn i'r disg treth cyfredol ddod i ben.

Adnewyddu eich disg treth ar-lein neu dros y ffôn

Gallwch adnewyddu eich disg treth gyda'ch ffurflen V11W neu V5CW (sy'n dangos y dosbarth treth anabl) ar-lein neu dros y ffôn drwy ddilyn y ddolen isod.

Adnewyddu disg treth mewn un o ganghennau Swyddfa'r Post® sy'n rhoi disgiau treth

Anfonwch neu ewch â'r canlynol gyda chi:

  • ffurflen V11W neu V5CW
  • tystysgrif eithrio
  • tystysgrif yswiriant neu nodyn yswiriant
  • tystysgrif MOT (os bydd angen)
  • ‘Cais am ddisg treth’ (V10W) ynghyd â’r V5CW os ydych yn gwneud cais drwy’r post ac os nad oes gennych V11W

I ddod o hyd i'ch cangen agosaf o Swyddfa'r Post® sy'n rhoi disgiau treth, ewch i www.postoffice.co.uk neu ffoniwch 0845 722 3344 yn rhoi eich cod post.

Trethu heb Dystysgrif Gofrestru (V5CW) neu fanylion ceidwad newydd (V5C/2W)

Os mai chi yw'r ceidwad cofrestredig yn ôl cofnodion y DVLA, gallwch drethu'r cerbyd yn eich swyddfa DVLA leol agosaf. Llenwch ffurflen V62W 'Cais am dystysgrif cofrestru cerbyd (V5CW)'.

Os nad chi yw'r ceidwad cofrestredig yn ôl cofnodion y DVLA, ni allwch drethu'r cerbyd. Bydd yn rhaid i chi wneud cais am dystysgrif cofrestru cerbyd yn eich enw chi drwy lenwi ffurflen V62. Dylech gadw eich cerbyd oddi ar y ffordd a gwneud Hysbysiad Oddi-ar-y-Ffordd Statudol (HOS) drwy ddefnyddio ffurflen V890, tra bod eich cerbyd heb dreth.

Newid enw, cyfeiriad neu fanylion y cerbyd

Bydd sut rydych yn rhoi gwybod am y newidiadau yn dibynnu a ydych yn trethu'r cerbyd gyda neu heb ffurflen atgoffa.

Additional links

Wedi newid eich cyfeiriad?

Gallwch ddiweddaru manylion eich trwydded gyrru gan ddefnyddio gwasanaeth ar-lein diogel y DVLA

Derbyn hysbysiadau atgoffa Rheolau’r Ffordd Fawr

Derbyn hysbysiadau atgoffa ynghylch Rheolau’r Ffordd Fawr drwy ei ddilyn ar Trydar a Facebook

Allweddumynediad llywodraeth y DU