Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Rhaid i chi gael disg treth newydd yn lle un sydd ar goll, wedi'i dwyn, ei dinistrio neu ei difrodi, neu os nad oes modd ei darllen oherwydd bod y ddisg wedi colli ei lliw. Gallwch gael disg treth ddyblyg yn bersonol neu drwy’r post gan ddefnyddio ffurflen V20W 'Cais am ddisg treth ddyblyg'.
Gwnewch gais yn bersonol yn eich swyddfa Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) leol, neu drwy'r post.
Dylech anfon y canlynol neu fynd â hwy gyda chi:
Os nad oes gennych dystysgrif cofrestru nac atodiad ceidwad newydd, bydd angen i chi lenwi ffurflen V62W 'Cais am Dystysgrif Cofrestru Cerbyd (V5C)'. Bydd angen hefyd i chi gynnwys y ffi o £25 (am dystysgrif cofrestru) gyda'ch cais am ddisg treth ddyblyg.
Os bydd cofnodion DVLA yn dangos mai chi yw'r ceidwad cofrestredig a bod y cerbyd wedi'i drethu ar hyn o bryd, bydd y swyddfa DVLA leol yn anfon disg treth ddyblyg atoch yn ddi-oed. Fel arall, bydd DVLA yn dal eich cais yn ôl nes bydd cofnod y cerbyd wedi'i ddiweddaru. Efallai y rhoddir disg treth ddyblyg dros dro i chi, a bydd yn ddilys am hyd at wyth wythnos.
Cyn gynted ag y bydd y cofnodion wedi’u diweddaru, rhoddir disg treth ddyblyg lawn i chi.
Gellir defnyddio'r atodiad ceidwad newydd mewn swyddfa DVLA leol am hyd at 13 mis ar ôl dyddiad prynu'r cerbyd. Os yw dyddiad y ddisg treth wedi dod i ben, bydd angen i chi lenwi ffurflen V62W ‘Cais am Dystysgrif Cofrestru Cerbyd (V5CW)' yn ei le. Dylech gynnwys hon a’r atodiad ceidwad newydd gyda'ch cais. Does dim angen y ffi o £25.
Mae disg treth ddyblyg yn costio £7, ac fel arfer ni chewch ad-daliad unwaith y bydd y swyddfa DVLA leol wedi cael y cais.
Does dim angen i chi dalu ffi'r ddisg treth:
Does dim angen i chi dalu'r ffi ychwaith os:
Cewch holi am ddyddiad dod-i-ben eich disg treth drwy wneud 'ymholiad am gerbyd' ar-lein. Nodwch rif cofrestru a gwneuthuriad eich cerbyd.
Gan nad yw'r ddisg wreiddiol yn ddilys mwyach, rhaid ei dychwelyd i'r swyddfa DVLA leol a roddodd y ddisg ddyblyg i chi. Cadwch y ddisg treth ddyblyg ar y cerbyd.
Dywedwch wrth yr heddlu os yw eich disg treth wedi’i dwyn.