Sut i gyfnewid disg dreth
Bydd angen i chi gyfnewid eich disg treth os gwnewch unrhyw newidiadau i adeiladwaith eich cerbyd neu i’w ddefnydd a fydd yn newid dosbarth treth eich cerbyd neu faint o dreth cerbyd rydych yn ei thalu.
Pryd i gyfnewid
Dylech gyfnewid eich disg treth os byddwch yn newid y canlynol:
- dosbarth treth (nid yw hyn yn berthnasol i ddosbarthiadau treth lle nad oes rhaid talu treth cerbyd)
- maint yr injan (capasiti’r silindrau)
- y math o danwydd a ddefnyddir
- pwysau cerbyd nwyddau
- nifer y seddi ar fws
- defnydd cerbyd yr ydych newydd ei brynu
Os yw maint yr injan neu'r math o danwydd wedi newid
Ar gyfer newidiadau i faint yr injan (capasiti’r silindrau) neu’r math o danwydd sy’n golygu y bydd angen talu llai o dreth cerbyd, rhaid i chi ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig o'r newid. Gall y dystiolaeth fod yn dderbynneb ar gyfer yr injan newydd, tystiolaeth ysgrifenedig gan y gwneuthurwr, y cwmni yswiriant neu’r garej a wnaeth y newid.
Sut i gyfnewid eich disg treth
Cyfnewid eich disg treth mewn person neu drwy’r post yn eich swyddfa Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) lleol.
Ar gyfer cerbydau nwyddau ysgafn neu breifat
Dylech fynd â’r canlynol gyda chi neu eu hanfon:
- ffurflen V70W ‘Ffurflen Gais – Cyfnewid Trwydded Cerbyd’
- disg treth gyfredol
- y Dystysgrif Cofrestru, gydag unrhyw newidiadau wedi’u marcio arni
- ffurflen V62W wedi’i llenwi ‘Ffurflen Gais am Dystysgrif Cofrestru Cerbyd V5C’ os nad yw’r Dystysgrif Cofrestru ar gael
- tystysgrif yswiriant ddilys
- tystysgrif prawf MOT ddilys os oes ei hangen
- taliad ychwanegol ar gyfer y dreth cerbyd os oes ei angen (darllenwch ‘Talu treth cerbyd ychwanegol’ isod)
- tystiolaeth ysgrifenedig o newidiadau am ostyngiad ym maint yr injan neu newid tanwydd
Ar gyfer cerbydau mwy neu fysiau
Dylech fynd â’r canlynol gyda chi neu eu hanfon:
- ffurflen V70W ‘Ffurflen Gais – Cyfnewid Trwydded Cerbyd’
- disg treth gyfredol
- y Dystysgrif Cofrestru, gydag unrhyw newidiadau wedi’u marcio arni
- tystysgrif yswiriant ddilys
- tystysgrif prawf ddilys - os oes ei hangen
- tystysgrif platio - os oes ei hangen
- tystysgrif pwysau - os oes ei hangen
- tystysgrif ffitrwydd gwreiddiol neu dystysgrif cydymffurfio ar gyfer dosbarth treth bysiau yn unig - os oes angen un
- tystysgrif llygredd is - os oes ei hangen
- taliad ychwanegol ar gyfer y dreth cerbyd os oes ei angen (darllenwch ‘Talu treth cerbyd ychwanegol’ isod)
- tystiolaeth ysgrifenedig o newidiadau am ostyngiad ym maint yr injan neu newid tanwydd
Talu treth cerbyd ychwanegol
Cyfrifo'r dreth cerbyd ychwanegol:
- canfyddwch beth yw cyfradd newydd y dreth cerbyd
- cyfrifwch y gwahaniaeth rhwng hen gyfradd a chyfradd newydd eich disg treth gyfredol (ee £100 hen gyfradd a chyfradd newydd o £130 yn rhoi £30)
- rhannwch hwn â chyfnod eich disg treth gyfredol (ee, mae rhannu £30 gyda 12 mis yn £2.50)
- lluoswch hwn gyda nifer y misoedd sydd ar ôl ar eich disg treth (ee mae lluosi £2.50 gyda phedwar mis, sef nifer y misoedd sydd ar ôl ar y disg, yn £10)
- £10 yw’r dreth ychwanegol i’w thalu
Ble i gael ffurflen gais V70W
Fe allwch lwytho ffurflenni V70W oddi ar y we neu eu casglu o unrhyw gangen o Swyddfa'r Post® neu swyddfa DVLA leol.