Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Sut i drethu’ch cerbyd heb ffurflen atgoffa

Gallwch drethu’ch cerbyd gan ddefnyddio ffurflen V10W, ‘Cais am drwydded cerbyd’. Bydd y dogfennau sydd gennych yn penderfynu a allwch chi gael eich disg treth ar-lein, mewn un o ganghennau’r Swyddfa Post® neu mewn swyddfa Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) leol.

Pryd i wneud cais

Os yw eich treth yn dod i ben ddiwedd y mis, gallwch ei hadnewyddu o bumed diwrnod y mis ymlaen.

Os yw eich cerbyd wedi bod heb dreth, oherwydd eich bod newydd ei brynu, gan fod y disg treth wedi dod i ben neu gan fod datganiad HOS mewn grym, cewch ei drethu o ddiwrnod cyntaf y mis pan fyddwch yn gwneud cais.

Os ydych am i’r ddisg treth ddechrau ar ddiwrnod cyntaf y mis calendr nesaf, gallwch drethu’ch cerbyd o’r ddau ddiwrnod gwaith cyn diwedd y mis mewn Swyddfa’r Post neu bum niwrnod cyn diwedd y mis ar-lein neu dros y ffôn.

Trethu car, beic modur neu gerbyd nwyddau ysgafn

Gallwch drethu ar-lein, dros y ffôn, yn bersonol neu drwy'r post.

Trethu ar-lein neu dros y ffôn

Os mai chi yw’r ceidwad cofrestredig, gallwch adnewyddu’ch treth drwy ddefnyddio'r cyfeirnod ar eich Tystysgrif Cofrestru (V5C).

Trethu gyda Thystysgrif Cofrestru neu Atodiad Ceidwad Newydd – yn bersonol neu drwy’r post

Gallwch drethu drwy ymweld yn bersonol ag unrhyw un o ganghennau Swyddfa'r Post® sy’n rhoi disgiau treth.

Dylech fynd â’r canlynol gyda chi:

  • Tystysgrif Cofrestru neu Atodiad Ceidwad Newydd
  • tystysgrif yswiriant neu nodyn yswiriant dros dro – rhaid iddynt fod yn ddilys ar y dyddiad y daw'r ddisg treth i rym
  • tystysgrif MOT ddilys – os yw’r car neu’r beic modur dros dair oed – rhaid iddi fod yn ddilys ar y dyddiad y daw'r ddisg treth i rym
  • y taliad ar gyfer y dreth cerbyd (does dim angen hwn os yw eich cerbyd wedi'i eithrio rhag talu treth cerbyd)

Gallwch hefyd drethu mewn swyddfa DVLA leol neu drwy’r post i rai o ganghennau Swyddfa’r Post®.

  • Tystysgrif Cofrestru neu Atodiad Ceidwad Newydd
  • Cais am drwydded cerbyd' V10W wedi'i llenwi
  • tystysgrif yswiriant neu nodyn yswiriant dros dro – rhaid iddynt fod yn ddilys ar y dyddiad y daw'r ddisg treth i rym
  • tystysgrif MOT ddilys – os yw’r car neu’r beic modur dros dair oed – rhaid iddi fod yn ddilys ar y dyddiad y daw'r ddisg treth i rym
  • y taliad ar gyfer y dreth cerbyd (does dim angen hwn os yw eich cerbyd wedi'i eithrio rhag talu treth cerbyd)

Dim ond am ddau fis ar ôl i chi brynu’r cerbyd y gellir defnyddio’r Atodiad Ceidwad newydd ar gyfer trethu. Fodd bynnag, bydd y swyddfa DVLA leol yn ei dderbyn ar gyfer trethu am hyd at dair wythnos ar ddeg o’r dyddiad prynu. Os yw’n hen, bydd angen i chi wneud cais am Dystysgrif Cofrestru yn eich enw chi – ewch i ‘Trethu heb Dystysgrif Cofrestru neu Atodiad Ceidwad Newydd’ isod.

Ffurflenni cais V10W a V62W

Fe allwch lwytho ffurflenni V10W neu V62W oddi ar y we neu eu casglu o unrhyw gangen o Swyddfa'r Post® neu swyddfa DVLA leol.

Newid enw a/neu gyfeiriad

Ysgrifennwch y manylion newydd neu unrhyw gywiriadau yn adran chwech eich Tystysgrif Cofrestru, ei llofnodi a’i chynnwys gyda'ch cais am dreth.

Newid dosbarth treth

Os byddwch chi'n newid y dosbarth treth o ddosbarth preifat i anabl, cyhyd â bod y Dystysgrif Cofrestru gyflawn gennych, gallwch drethu yn un o ganghennau Swyddfa'r Post®.

Os mai’r Atodiad Ceidwad Newydd yn unig sydd gennych ar gyfer newidiadau eraill i’r dosbarth treth ee o anabl i breifat, bydd angen i chi fynd i'ch swyddfa DVLA leol agosaf. Ysgrifennwch y dosbarth treth newydd yn adran saith eich Tystysgrif Cofrestru. Os byddwch yn defnyddio Atodiad Ceidwad Newydd, bydd angen i chi hefyd lenwi ffurflen V62W ‘Cais am Dystysgrif Cofrestru Cerbyd (V5CW)’.

Newidiadau i faint yr injan neu'r math o danwydd

Bydd angen i chi drethu’ch cerbyd yn eich Swyddfa DVLA Leol agosaf. Ysgrifennwch y manylion newydd yn adran saith eich Tystysgrif Cofrestru.

Bydd ar y DVLA angen tystiolaeth ysgrifenedig o unrhyw newidiadau i rif yr injan a maint y silindrau (cc). Gall y dystiolaeth fod yn dderbynneb ar gyfer yr injan newydd, neu dystiolaeth ysgrifenedig gan y gwneuthurwr, y cwmni yswiriant neu’r garej a wnaeth y newid.

Bydd angen i'r DVLA gael cadarnhad ysgrifenedig am newidiadau i'r math o danwydd ar gyfer cerbydau a gofrestrwyd ar ôl 1 Mawrth 2001:

  • os newidir eich injan - rhaid i'r cadarnhad fod ar bapur pennawd gan y modurdy a wnaeth y gwaith
  • os rhoddir injan newydd - bydd angen derbynneb i gadarnhau hynny

Trethu heb Dystysgrif Cofrestru neu Atodiad Ceidwad Newydd

Os yw cofnodion DVLA yn dangos mai chi yw ceidwad cofrestredig y cerbyd, gallwch drethu’n bersonol neu drwy’r post yn eich swyddfa DVLA leol agosaf.

Bydd angen i chi lenwi ffurflen V62W 'Cais am Dystysgrif Cofrestru Cerbyd' (V5CW) a thalu £25 (ffi am Dystysgrif Cofrestru ddyblyg). Dylech ei chynnwys gyda V10W ‘Cais am drwydded cerbyd’ wedi’i llenwi, MOT, yswiriant a’r taliad am y dreth cerbyd.

Os yw eich cyfeiriad wedi newid, bydd angen i chi ddarparu eich trwydded yrru, cyfriflen banc neu gymdeithas adeiladu wreiddiol, neu fil diweddar gan un o’r prif wasanaethau. Os yw’ch enw wedi newid, bydd angen i chi ddarparu eich tystysgrif priodas, archddyfarniad nisi/absoliwt neu ddatganiad gweithred newid enw.

Os nad chi sy’n cael eich enwi fel y ceidwad cofrestredig ar gofnodion DVLA ni allwch drethu’r cerbyd. Bydd angen i chi wneud cais am Dystysgrif Cofrestru yn eich enw chi. I gael y dystysgrif, bydd angen i chi lenwi ffurflen V62W 'Cais am Dystysgrif Cofrestru Cerbyd' a'i phostio i DVLA, Abertawe, SA99 1DD. Efallai y bydd angen i chi aros am hyd at bedair wythnos am y dystysgrif newydd. Yn y cyfamser, dylech gadw’ch cerbyd oddi ar y ffordd.

Cerbyd i’w drethu pan fyddwch chi dramor

Os byddwch chi dramor pan fydd eich disg treth yn dod i ben, mae modd i chi drethu ar-lein, trethu ymlaen llaw neu ofyn i rywun drethu’r cerbyd ar eich rhan.

Trethu lori, bws neu fath arall o gerbyd

Gallwch drethu’ch cerbyd yn eich swyddfa DVLA leol agosaf gan ddefnyddio ffurflen V10W ‘Cais am drwydded cerbyd’ neu V85W ‘Ffurflen gais am drwydded HGV’.

Additional links

Wedi newid eich cyfeiriad?

Gallwch ddiweddaru manylion eich trwydded gyrru gan ddefnyddio gwasanaeth ar-lein diogel y DVLA

Derbyn hysbysiadau atgoffa Rheolau’r Ffordd Fawr

Derbyn hysbysiadau atgoffa ynghylch Rheolau’r Ffordd Fawr drwy ei ddilyn ar Trydar a Facebook

Allweddumynediad llywodraeth y DU