Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gallwch drethu’ch cerbyd gan ddefnyddio V10W ‘Cais am drwydded cerbyd’ neu V85W ‘Ffurflen gais am drwydded HGV’. Bydd y dogfennau sydd gennych yn penderfynu a allwch chi gael eich disg treth ar-lein neu mewn swyddfa Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) leol.
Defnyddiwch V10W ‘Cais am drwydded cerbyd’ i drethu bws, bws llygredd is, cerbyd cludo teithwyr anabl, cludiant cyffredinol, cludiant cyffredinol llygredd is, cerbyd cludo-i’r-garej dan 3,500kg, cerbyd arbennig dros 3,500kg, cerbydau argyfwng, cerbyd arbennig treth is neu gerbyd â defnydd cyfyngedig.
Defnyddiwch V85W ‘Ffurflen Gais am drwydded HGV’ i drethu cerbyd nwyddau trwm (HGV), HGV llygredd is, HGV gydag ôl-gerbyd, HGV llygredd is gydag ôl-gerbyd, HGV preifat, ôl-gerbyd arbennig, cerbydau mathau arbennig, cerbydau mathau arbennig llygredd is, cerbyd ynys bychan, cerbyd cludo-i’r garej, trafnidiaeth gyfun neu drafnidiaeth gyfun llygredd is.
Os yw eich treth yn dod i ben ddiwedd y mis, gallwch ei hadnewyddu o bumed diwrnod y mis ymlaen.
Os yw eich cerbyd wedi bod heb dreth, oherwydd eich bod newydd ei brynu, gan fod y disg treth wedi dod i ben neu gan fod datganiad HOS mewn grym, cewch ei drethu o ddiwrnod cyntaf y mis pan fyddwch yn gwneud cais.
Os ydych am i’r ddisg treth ddechrau ar ddiwrnod cyntaf y mis calendr nesaf, chewch chi ddim trethu eich cerbyd fwy na dau ddiwrnod ymlaen llaw.
Adnewyddu eich treth drwy ddefnyddio'r cyfeirnod ar eich Tystysgrif Cofrestru.
Cewch drethu un ai drwy bostio neu ymweld yn bersonol â'ch Swyddfa DVLA Leol agosaf.
Dylech fynd â’r canlynol gyda chi neu eu hanfon:
Dim ond am ddau fis ar ôl i chi brynu’r cerbyd y gellir defnyddio’r Atodiad Ceidwad Newydd. Os yw’n hen, bydd angen i chi wneud cais am Dystysgrif Cofrestru yn eich enw chi – ewch i ‘Trethu heb Dystysgrif Cofrestru neu Atodiad Ceidwad Newydd’ isod.
Newid enw a/neu gyfeiriad
Ysgrifennwch y manylion newydd neu unrhyw gywiriadau yn adran chwech eich Tystysgrif Cofrestru.
Ffurflenni cais V10W, V85W a V62W
Fe allwch lwytho ffurflenni V10W, V85W a V62W oddi ar y we neu eu casglu o’ch swyddfa DVLA leol agosaf.
Gallwch drethu’ch cerbyd os mai chi sy’n cael eich enwi fel y ceidwad cofrestredig ar gofnodion DVLA.
Bydd angen i chi lenwi ffurflen V62W 'Cais am Dystysgrif Cofrestru Cerbyd (V5C)' a thalu £25 (ffi am Dystysgrif Cofrestru ddyblyg). Dylech ei chynnwys gyda V10W neu V85W wedi'i llenwi, dogfennau ategol a’r taliad am y dreth cerbyd.
Os yw eich cyfeiriad wedi newid, bydd angen i chi ddarparu eich trwydded yrru, cyfriflen banc neu gymdeithas adeiladu wreiddiol, neu fil diweddar gan un o’r prif wasanaethau. Os yw’ch enw wedi newid, bydd angen i chi ddarparu eich tystysgrif priodas, archddyfarniad nisi/absoliwt neu ddatganiad gweithred newid enw.
Os nad chi sy’n cael eich enwi fel y ceidwad cofrestredig ar gofnodion DVLA ni allwch drethu’r cerbyd. Bydd angen i chi wneud cais am Dystysgrif Cofrestru yn eich enw chi. I gael un llenwch ffurflen V62W 'Cais am Dystysgrif Cofrestru Cerbyd' a'i phostio i DVLA, Abertawe SA99 1DD. Mae'n bosib y bydd yn rhaid i chi aros am hyd at bedair wythnos i dystysgrif newydd gyrraedd. Yn y cyfamser, dylech gadw’ch cerbyd oddi ar y ffordd.