Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

MOT ac yswiriant sy’n ofynnol er mwyn trethu’ch cerbyd

Cyn y gallwch drethu’ch cerbyd, bydd angen yswiriant addas arnoch, ac os oes angen, bydd angen cael prawf MOT ar y cerbyd. Bydd yswiriant anghywir, MOT hwyr, tystysgrifau anghywir, coll neu hwyr yn gallu’ch atal rhag trethu'ch cerbyd ar amser.

Yr yswiriant sy’n ofynnol i drethu’ch cerbyd

Er mwyn trethu’ch cerbyd, rhaid i chi gael yswiriant sy’n gwneud y canlynol:

  • eich yswirio rhag hawliadau trydydd parti yn eich erbyn ar gyfer marwolaeth neu anaf a niwed i eiddo yn sgil defnyddio'r cerbyd
  • yswirio’ch defnydd chi o'r cerbyd at ddibenion trethu
  • yn ddilys ar y diwrnod y mae’r ddisg treth yn dod i rym

Gall y polisi yswiriant ar gyfer eich cerbyd chi adael i chi yrru unrhyw gerbyd arall gyda chaniatâd y perchennog. Ond, ni ellir defnyddio’ch polisi chi fel tystiolaeth o yswiriant addas i drethu unrhyw gerbyd arall.

Os nad yw eich yswiriant ar gyfer dibenion trethu’n glir, efallai y bydd yn rhaid i chi ddarparu tystiolaeth ychwanegol. Cysylltwch â'ch cwmni yswiriant i gael cyngor.

Tystysgrifau yswiriant a nodiadau yswiriant dros dro

Dogfennau print neu brint-laser yw’r rhain fel arfer, neu ddogfennau math cerdyn credyd plastig.

Mae tystysgrifau yswiriant wedi’u llwytho’n syth oddi ar y we gan ddeilydd y polisi yn dderbyniol o 30 Ebrill 2010 ymlaen (mae hyn yn berthnasol i Brydain Fawr yn unig). Mae ffacsiau yn dderbyniol hefyd.

Nid yw’r dogfennau canlynol yn dderbyniol:

  • dogfen bolisi
  • hysbysiad adnewyddu
  • derbynneb am daliad
  • tystysgrif neu nodyn yswiriant dros dro wedi'u newid – onid yw’r yswiriwr wedi’u stampio neu eu llofnodi
  • tystysgrifau polisi ‘amddiffyniad cyfreithiol’
  • tystysgrifau o dramor
  • llungopïau
  • Cerdyn Gwyrdd (Cerdyn Yswiriant Cerbyd Rhyngwladol)

Tystysgrif yswiriant wedi’i dwyn, ei cholli neu ei difrodi

Gofynnwch am dystysgrif yswiriant neu nodyn dros-dro ddyblyg gan eich cwmni yswiriant.

Disgwyl i’ch tystysgrif yswiriant gyrraedd yn y post neu iddi gael ei diweddaru ar-lein

Allwch chi ddim trethu’ch cerbyd tan y bydd eich tystysgrif yswiriant wedi cyrraedd neu tan y bydd manylion yr yswiriant ar gyfer eich cerbyd wedi’u diweddaru ar y Gronfa Ddata Yswiriant Cerbydau. Yn y cyfamser, rhaid i chi gadw’ch cerbyd oddi ar y ffordd.

Os ydych yn trethu’ch cerbyd drwy ddefnyddio gwasanaeth cerbydau ar-lein y DVLA, bydd angen i chi aros nes bydd y Gronfa Ddata Yswiriant Cerbydau wedi’i diweddaru cyn gwneud cais. Gallwch weld ar-lein os yw eich yswiriant wedi’i diweddaru.

Os ydych am drethu’ch cerbyd mewn swyddfa DVLA leol neu mewn cangen Swyddfa'r Post®, bydd angen i chi fynd â’ch tystysgrif yswiriant gyda chi.

Pryd y mae’n rhaid cael MOT

Mae angen prawf MOT bob blwyddyn ar gyfer:

  • ceir, beiciau modur, carafannau modur a cherbydau nwyddau ysgafn sy’n hŷn na 3 blwydd oed
  • cerbydau cludo teithwyr gyda mwy nag wyth o seddau a thacsis (heblaw am gerbydau llogi preifat) sy'n hŷn na blwydd oed

Cael gwybod pryd y bydd angen MOT arnoch

Gallwch edrych ar ddyddiad dod-i-ben eich tystysgrif MOT gyfredol ar-lein drwy ddilyn y ddolen isod.

Tystysgrif prawf MOT

Rhaid i chi ddarparu tystysgrif prawf MOT sy'n ddilys ar y diwrnod y daw'r ddisg treth i rym. Rhaid i’r dystysgrif fod yn wreiddiol; nid yw llungopi’n dderbyniol.

Tystysgrif MOT wedi’i dwyn, ei cholli neu ei difrodi

Gellir cael copi dyblyg gan unrhyw orsaf brofi MOT am ffi o £10. Bydd angen i chi ddarparu rhif cofrestru’r cerbyd a’r cyfeirnod a ddangosir ar eich Tystysgrif Cofrestru (V5C).

Hawlio eithriad rhag y prawf MOT

Os nad oes yn rhaid i’ch cerbyd gael prawf MOT, bydd angen i chi lenwi ffurflen V112 ‘Hawlio eithriad rhag profi’. Yna byddwch yn gallu cyflwyno’r ffurflen V112 yn lle’r dystysgrif MOT. Dangosir rhestr o'r cerbydau sydd wedi’u heithrio ar y ffurflen V112.

MOT neu yswiriant wedi dod i ben

Os ydych yn bwriadu adnewyddu eich treth cerbyd, dylech wneud hynny cyn i’ch disg treth gyfredol ddod i ben. Ond, nid yw hyn bob amser yn bosibl os ydych yn aros am yswiriant neu’n cael MOT ar gyfer eich cerbyd.

Byddwch yn cyflawni trosedd os byddwch yn defnyddio’ch cerbyd neu'n ei gadw ar ffordd gyhoeddus heb ddisg treth gyfredol. Os na allwch gael disg treth, rhaid i chi dynnu'ch cerbyd oddi ar y ffordd.

Bydd gennych 14 diwrnod i gael disg treth neu wneud datganiad HOS tra bydd eich cerbyd oddi ar y ffordd,.

Gyrru cerbyd heb dreth i brawf MOT

Gallwch yrru'ch cerbyd yn ôl ac ymlaen i orsaf brofi MOT am brawf sydd wedi ei drefnu ymlaen llaw gyhyd â'i fod wedi ei yswirio’n ddigonol.

Mae hyn yn berthnasol i gerbydau a yrrir yn ôl ac ymlaen i brawf sydd wedi’i drefnu ymlaen llaw mewn:

  • gorsaf Archwilio Cerbydau (VIC)
  • gorsaf gymeradwy sy’n profi pwysau cerbyd a phrawf llygredd is

Additional links

Wedi newid eich cyfeiriad?

Gallwch ddiweddaru manylion eich trwydded gyrru gan ddefnyddio gwasanaeth ar-lein diogel y DVLA

Derbyn hysbysiadau atgoffa Rheolau’r Ffordd Fawr

Derbyn hysbysiadau atgoffa ynghylch Rheolau’r Ffordd Fawr drwy ei ddilyn ar Trydar a Facebook

Allweddumynediad llywodraeth y DU